Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 6 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:45, 6 Mawrth 2019

Rwy'n diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei ateb eto, ond mae’n ymddangos i fi bod hyn yn achos o gau drws y stabl wedi i’r ferlen adael, os maddeuwch i mi am ddefnyddio idiom Saesneg. Y gwirionedd amdani yw mai’r unig ffordd o sicrhau bod lles cynulleidfaoedd Cymreig a’r sector greadigol Gymreig yn cael eu gwarchod yw trwy ddatganoli darlledu i Gymru.

Byddai datganoli darlledu yn ein galluogi ni fel cenedl i adrodd ein straeon ni o’n safbwynt ni, gan roi gwell dealltwriaeth i’n dinasyddion o’n cyfoeth diwylliannol, o realiti bywyd yn y Gymru fodern. Dyma fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd gan fod tystiolaeth ddiweddar yn dangos bod o ddeutu hanner y boblogaeth yn dal i gredu mai yn San Steffan mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei reoli, er bod y pŵer wedi’i ddatganoli ers 20 mlynedd. Mae gan hyn effeithiau difrifol ar atebolrwydd gan ei fod yn anodd i etholwyr ddwyn gwleidyddion i gyfrif os nad ydynt yn sicr pwy sy’n gyfrifol am redeg gwahanol wasanaethau cyhoeddus.

Yn y dystiolaeth a gafodd ei darparu ar gyfer y comisiwn Silk, roedd 60 y cant o ymatebwyr o blaid datganoli darlledu, ac mae arolygon barn yn darganfod dro ar ôl tro bod cefnogaeth eang dros fwy o ddatganoli i Gymru. Gan ei fod yn amlwg bod Llywodraeth San Steffan yn methu yn ei chyfrifoldeb tuag at ddarlledu Cymreig, a bod cefnogaeth eang dros roi mwy o bwerau i‘r Senedd hon, a yw’r Dirprwy Weinidog yn cytuno ei bod hi bellach yn angenrheidiol bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru cyn gynted â phosib?