Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 6 Mawrth 2019.
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru brotocol baneri. Mae'n amlinellu'r trefniadau arferol ar gyfer arddangos baneri ar ein hystâd, a'r gweithdrefnau ar gyfer amgylchiadau eraill. Gall hyn gynnwys dyddiau arwyddocaol blynyddol a digwyddiadau nad oes modd eu rhagweld. Mae'r protocol yn nodi'r baneri sydd yn cael eu harddangos yn ddyddiol, ac mae'r rhain yn cynnwys baner yr Undeb Ewropeaidd. Bydd ein protocol yn cael ei ddiweddaru os cytunir ar ddyddiad i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.