Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 6 Mawrth 2019.
Pan oeddwn yma yn cadeirio'r drafodaeth ar iechyd meddwl a phobl ifanc, yn ystod y cyfraniadau ysbrydoledig gan gynifer o'r seneddwyr ifanc ar y mater hwnnw, cefais fy atgoffa wrth gwrs o'r gwaith roedd eich pwyllgor chi, Lynne, wedi'i wneud ar faterion iechyd meddwl. Mae perthynas gynnar glir iawn yno felly gallant gyfrannu at barhad eich gwaith fel pwyllgor. Felly, credaf fod fy swyddogion eisoes yn ystyried creu'r berthynas rhwng y seneddwyr ifanc, yn enwedig y rheini sydd eisiau gweithio ar y mater penodol hwn, a'ch pwyllgor chi, ac mae honno'n berthynas naturiol iawn. Rwy'n gwbl argyhoeddedig y bydd eich pwyllgor yn elwa o'r profiadau bywyd go iawn y mae'r hyrwyddwyr ifanc hyn eisiau eu datblygu.