Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 6 Mawrth 2019.
Rwy'n eich annog i edrych ar y polisi. Cytunwyd arno yn ddiweddar gan y Comisiwn, felly efallai nad oes llawer o'r Aelodau yn gwbl ymwybodol ohono eto. Cafodd ei sefydlu er mwyn sicrhau bod fframwaith ar gael ar gyfer penderfynu ar osod unrhyw gofeb neu blac i unrhyw unigolyn neu ddigwyddiad ar yr ystâd hon. Cofiwn yn annwyl am y cyd-Aelodau a gollwyd a chofiwn bob dydd am nifer o'r agweddau a'r blaenoriaethau a gyfrannwyd ganddynt i'n trafodaethau yn y Siambr hon. Buaswn yn eich annog, os yw'r Aelodau'n cefnogi menter fel hon, i weithio gyda theuluoedd a ffrindiau'r Aelodau a gollwyd—i weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol i wneud cynnig i'r Comisiwn, a bydd y Comisiwn yn edrych ar hwnnw pan ddaw ger ein bron.