Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 12 Mawrth 2019.
Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i Mick Antoniw am y cwestiwn atodol yna. Rwy'n cytuno ag ef bod pwysau gwirioneddol yn ein cymdeithas tuag at anfoesgarwch ac at ystyried rhywun sydd â gwahanol safbwynt i chi nid yn unig fel rhywun y gallwch chi gael dadl briodol ag ef, ond rywsut y dylid gwneud hyn yn bersonol a'i gynnal ar delerau nad wyf i'n credu y byddai neb yn y Siambr hon yn dymuno gweld dadl gyhoeddus yn cael ei chynnal. Mae hynny'n ddigon drwg ymhlith pobl sydd, mewn rhai ffyrdd, fel y rhai ohonom ni yn y Siambr hon, yn rhoi ein hunain mewn sefyllfa o ddadl gyhoeddus, ond mae'n fwy fyth felly gyda phobl sy'n canfod eu hunain yn fwch dihangol, yn cael eu neilltuo, yn cael eu gwneud yn destun sylwadau gan eraill ac, fel y dywedodd yr Aelod, ceir digwyddiadau sy'n golygu bod y risg honno'n cael ei chynyddu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyfres o bethau i geisio llunio'r math o ymateb Cymru gyfan y cyfeiriodd Mick Antoniw ato. Rydym ni'n ehangu ein rhaglen cydlyniant cymunedol ranbarthol ac rydym yn darparu £1.52 miliwn arall o gronfa bontio'r UE er mwyn gwneud hynny. Rydym ni'n bwriadu gwneud mwy i gynorthwyo'r dinasyddion hynny sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan yr ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, a cheir rhai arwyddion calonogol, Llywydd, hefyd.
Efallai y bydd yr Aelodau yma wedi gweld adroddiad diweddar yr arolygwyr cwnstabliaeth, a dynnodd sylw at waith sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad bod y bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb cenedlaethol yng Nghymru yn dod â chysondeb a dull cydgysylltiedig i gamau gweithredu'r heddlu o ran troseddau casineb yng Nghymru. Cyfeiriodd yn benodol at Heddlu Gwent, lle mae ein cyn gyd-Aelod Jeff Cuthbert yn gomisiynydd heddlu a throseddu. Roedd yn dweud bod gan Heddlu Gwent ddull cynhwysfawr a soffistigedig o ymateb i ddioddefwyr troseddau casineb, nad oedd:
ar gael ar hyn o bryd yn unrhyw un o'r lluoedd eraill yr ydym wedi ymweld â nhw.
Felly, rwy'n credu bod hynny'n dangos, Llywydd, lle mae angen i ni weithredu ar y cyd, ein bod ni'n gallu gwneud cynnydd hyd yn oed o dan yr amgylchiadau anodd a amlinellwyd gan yr Aelod, ac, fel Llywodraeth Cymru, rydym ni'n benderfynol o barhau i wneud mwy i gyflawni yn union hynny.