Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 12 Mawrth 2019.
Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae cyngor wedi cael ei gyhoeddi. Mae hynny'n ei gwneud hi'n eglur i mi bod penderfyniad am ffordd liniaru'r M4 yn dod o dan reolau 'purdah' y gwasanaeth sifil. Ni allaf i—ni all y Llywodraeth—wedi ei hatal gan y rheolau cwbl briodol rhag gwneud cyhoeddiad a allai gael effaith ar is-etholiad lleol o'r math hwnnw. Felly, ni fydd unrhyw gyhoeddiad gennyf i. Ni allaf wneud unrhyw gyhoeddiad tan i'r is-etholiad hwnnw ddod i ben.