1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 12 Mawrth 2019.
Cwestiynau gan arweinwyr y pleidiau nawr. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pryd fyddwch chi'n gwneud penderfyniad ynghylch dyfodol ffordd liniaru'r M4, o gofio bod adroddiad yr ymchwiliad ar eich desg erbyn hyn?
Wel, fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae cyngor wedi cael ei gyhoeddi. Mae hynny'n ei gwneud hi'n eglur i mi bod penderfyniad am ffordd liniaru'r M4 yn dod o dan reolau 'purdah' y gwasanaeth sifil. Ni allaf i—ni all y Llywodraeth—wedi ei hatal gan y rheolau cwbl briodol rhag gwneud cyhoeddiad a allai gael effaith ar is-etholiad lleol o'r math hwnnw. Felly, ni fydd unrhyw gyhoeddiad gennyf i. Ni allaf wneud unrhyw gyhoeddiad tan i'r is-etholiad hwnnw ddod i ben.
Wel, mae'n ymddangos i mi fel un esgus ar ôl y llall, Prif Weinidog. Y tro diwethaf—[Torri ar draws.]—y tro diwethaf, y tro diwethaf—[Torri ar draws.]—y tro diwethaf y gwnes i eich holi am y ffordd liniaru yn y Siambr hon, roedd mor eglur bryd hynny ag y mae hi nawr, er bod Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi tin-droi ar y pwnc hwn ers bron i 20 mlynedd, eich bod chi'n dal i gael trafferth yn dod o hyd i'r sbardun a rhoi ateb i'r genedl. Mae busnesau, cymudwyr ac eraill yng Nghymru wedi dod ymlaen i gefnogi ffordd liniaru ar gyfer y ffordd llawn tagfeydd hon sy'n ganolog i economi Cymru. Ac eto, er gwaethaf talu £44 miliwn am yr ymchwiliad hwn, rydym ni'n dal i aros am ymrwymiad gennych chi a'ch Llywodraeth. Os nad ydych chi'n barod i roi ateb o hyd, Prif Weinidog, ar sail canfyddiadau ymchwiliad y llynedd, mae'n hen bryd i chi ychwanegu tryloywder at y broses hon drwy ganiatáu i Aelodau eraill y Siambr hon weld argymhellion yr adroddiad hwnnw cyn gynted â phosibl. A wnewch chi ymrwymo yn y fan yma heddiw, Prif Weinidog, i rannu'r adroddiad hwn cyn gynted â phosibl, y byddwn yn eich atgoffa y talwyd amdano gydag arian cyhoeddus, fel y gall y Siambr hon graffu a dadlau'r mater hwn yn briodol? Ac os ydych chi'n mynd i rannu'r adroddiad hwn, pryd fydd hynny?
Rwy'n credu y bydd yr Aelod yn dymuno meddwl yn ofalus am rai o'r pethau y mae wedi eu dweud. Y rheswm y mae gennym ni is-etholiad yw nid oherwydd unrhyw beth a wnaeth Llywodraeth Cymru, ond oherwydd marwolaeth yr Aelod Seneddol presennol. Nid oes dim yn hynny y gellir rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru amdano, fel pe byddai'n oedi pethau rywsut.
Ac ynghylch yr hyn a ddywedodd ar y dechrau, does bosib nad yw'n deall bod rheolau—bod rheolau—am y ffordd y gellir gwneud y penderfyniadau hyn. Rwyf hi wedi fy rhwymo gan y rheolau hynny fel y byddai unrhyw Aelod Seneddol, unrhyw aelod o'i Lywodraeth yn San Steffan, pe byddai amgylchiadau tebyg wedi codi mewn is-etholiad mewn rhan arall o'r wlad. Dyna'r rheolau. Nid yw'n ddim i'w wneud â chael oedi yn y fan yma; mae oherwydd y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud yn briodol. O ran rhoi'r adroddiad ar gael, pan fo hynny'n bosibl, rwy'n gwbl hapus i'w roi ar gael cyn gynted ag y gellir gwneud hynny. Cyn gynted ag y bydd y rheolau yn caniatáu i hynny ddigwydd, bydd yr adroddiad yn cael ei roi ar gael i'r Aelodau. Ond byddwn yn ei wneud yn unol â'r ffordd y mae gweithrediad priodol Llywodraeth yn cael ei ddilyn. Rwy'n credu ei fod ef yn deall hynny, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu y dylai ei gwestiynau adlewyrchu hynny.
Prif Weinidog, mae pobl Cymru yn colli amynedd gyda'r gêm hon o ddisgwyl. Dylech chi fod wedi rhoi ateb i'r cymudwyr a'r cymunedau o gwmpas yr M4 amser maith yn ôl. Mae'n bryd i chi roi'r gorau i lusgo eich traed a chynnig mwy o sicrwydd trwy ddweud wrthym ni faint o amser y bydd yn rhaid i bobl Cymru aros nawr cyn y byddan nhw'n gweld y prosiect hwn yn dod yn realiti. Nawr, rydych chi wedi cyfeirio at yr is-etholiad sydd ar fin cael ei gynnal, ond gadewch i mi eich atgoffa chi, Prif Weinidog, dywedwyd wrthym ni yn y Siambr hon ddiwedd y llynedd bod penderfyniad yn mynd i gael ei wneud gan y Prif Weinidog blaenorol, ond rydym ni'n dal i aros. Felly, a allwch chi heddiw, Prif Weinidog, gadarnhau, felly, pa un a yw'r Siambr hon yn dal am gael cyfle i bleidleisio ar y prosiect hwn, o gofio yr addawyd pleidlais ar y prosiect hwn i ni cyn Nadolig y llynedd?
Llywydd, nid yw'r ymrwymiadau a roddwyd cyn belled ag y mae cyfranogiad y Siambr hon yn y cwestiwn wedi newid. Mae'r Aelod yn hollol iawn i ddweud y byddai'r Prif Weinidog blaenorol wedi dymuno gwneud penderfyniad pe byddai wedi gallu gwneud hynny, ond roedd yntau hefyd yn dilyn y gweithdrefnau priodol y mae'n rhaid iddynt fod yn sail i benderfyniad o'r maint hwn. Dywedaf wrth yr Aelod eto, pan fydd yn darllen ei nodiadau am lusgo traed, nid oes unrhyw lusgo traed yn y fan yma. Mae'r amgylchiadau yn yr is-etholiad hwnnw wedi newid, mae'r is-etholiad ei hun yn rhoi cyfyngiad ar fy ngallu i i gyhoeddi unrhyw benderfyniad. Ac mae gen i ofn, mor ddiamynedd ag yw ef efallai, y bydd yn gweld ei fod wedi ei rwymo gan y llyfr rheolau cymaint ag yr wyf innau.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn eich araith i gynhadledd Plaid Lafur yr Alban, dywedasoch mai dosbarth cymdeithasol, yn hytrach na damwain ddaearyddol adeg geni, yw'r un ffactor mwyaf grymus o ran llunio bywydau pobl. Ond, does bosib, o'i ystyried trwy brism profiad Cymru, mai prin y gellir dweud nad oes unrhyw gysylltiad rhwng tlodi a lle. Yn wir, tlodi yw'r un penderfynydd pwysicaf o ganlyniadau bywyd, fel y dywedodd John Griffiths, ond mae tlodi wedi'i ddosbarthu yn anghyfartal, ac wedi ei grynhoi yn arbennig yng Nghymru—ac mae hynny, wrth gwrs, ar ôl dau ddegawd o Lywodraeth Lafur ddatganoledig.
Cyfeiriasoch at y gostyngiad i ddisgwyliad oes ar draws y DU, ond mae'n wir, onid yw, bod disgwyliad oes yn gostwng yn gyflymach yng Nghymru nag mewn unman arall—yn wir, yn gyflymach nag mewn unman arall yng ngorllewin Ewrop. I symud oddi wrth iaith seminar yn y fan yma, gadewch i ni egluro'n blaen yr hyn y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd: mae'r siawns y bydd plentyn sy'n cael ei eni heddiw, y cyfeiriodd John Griffiths ato, yng Nghymru yn byw i fod yn 90 oed yn sylweddol is nag y mae yn Lloegr. A wnewch chi dderbyn bod hyn yn cynrychioli argyfwng iechyd cyhoeddus llawn yma yng Nghymru erbyn hyn?
Rwy'n credu bod angen i'r Aelod fod yn ofalus yn y ffordd y mae'n defnyddio ffigurau, oherwydd mae'r dystiolaeth o'r gostyngiad i ddisgwyliad oes yn ddiweddar iawn, ac nid wyf i'n credu y byddech chi'n rhagweld tueddiadau yn synhwyrol i ddyfodol 90 mlynedd ar sail yr hyn yr ydym ni'n ei wybod hyd yma.
Ond hoffwn gytuno â neges sylfaenol yr hyn y mae Adam Price wedi ei ddweud. Wrth gwrs, mae tlodi yn cael yr effaith o lunio bywydau pobl, a dyna pam yr ydym ni'n benderfynol fel Llywodraeth i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael ag amgylchiadau pobl sy'n byw mewn tlodi, ac i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth ble bynnag y gallwn. Ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei wneud ers dechrau'r cyfnod datganoli ac yr ydym ni'n benderfynol o barhau i'w wneud, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau cyfyngedig iawn y mae cyni cyllidol yn eu cyflwyno ar ein gallu i ariannu'r holl wasanaethau cyhoeddus, i'r graddau yr ydym ni'n gwybod y byddai eu hangen ar y gwasanaethau hynny yn ddelfrydol.
Gadewch i ni dreiddio ychydig yn ddyfnach i agweddau penodol ar yr hyn yr wyf i'n sicr yn ei ystyried yn argyfwng iechyd cyhoeddus cynyddol yma yng Nghymru. Cymerwch nifer yr achosion o ddiabetes: mae'r nifer sy'n cael diagnosis o ddiabetes yng Nghymru yn cynyddu ac yn uwch nag yn unman arall yn y DU erbyn hyn. Mae'r nifer uchaf yng Nghymru gyfan ac ymhlith y gwaethaf yn y DU—8 y cant o'r boblogaeth—yng Ngwent. Dim ond yr wythnos diwethaf, dywedodd pwyllgor iechyd y Cynulliad bod Cymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol o ran iechyd ein plant. Mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cynnydd i niferoedd y plant pedair i bum mlwydd oed sy'n ordew dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda chyfanswm o 27 y cant dros eu pwysau neu'n ordew erbyn hyn, o'i gymharu â dim ond 23 y cant yn Lloegr. Mae diffyg gweithgarwch corfforol ymhlith plant yn ffactor sylfaenol, ond does bosib nad yw rhan gyfyngedig ymarfer corff yn y cwricwlwm a diffyg ymyraethau iechyd cyhoeddus ehangach yn erbyn gordewdra ymhlith ysgogiadau allweddol y duedd hon. A, does bosib, yn y cyd-destun hwn, nad yr anweithgarwch mwyaf oll fu eich anweithgarwch eich hunan fel Llywodraeth.
Roedd hwnna'n gwestiwn a oedd yn gwneud yn eithaf da tan y diwedd. Felly, edrychwch, yr hyn yr wyf i'n cytuno ag Adam Price yn ei gylch yw hyn, Llywydd—pan edrychwch chi ar nifer gynyddol yr achosion o ddiabetes, pan edrychwch chi ar nifer gynyddol yr achosion o ordewdra, nid, 'Beth mae'r gwasanaeth iechyd yn mynd i'w wneud am y peth?' yw'r ateb. Mae'r ateb yn yr agenda iechyd cyhoeddus ehangach honno a amlinellodd ef, ac rydym ni'n edrych ar yr achosion llunio sydd wrth wraidd y ffigurau hynny. Ac maen nhw i'w gweld yn y tlodi sy'n peri i bobl orfod siopa mewn mathau penodol o ffyrdd. Felly, mae tlodi deiet a bwyd yn rhan o hyn i gyd. Ni all y ffigurau a gyhoeddwyd o blant yn cyrraedd drws yr ysgol eisoes dros eu pwysau fod wedi eu hachosi gan ddiffyg ymarfer corff yn yr ysgol, oherwydd nid oedd y plant hyn yn yr ysgol ar yr adeg honno. Ond mae'n ymwneud â ffyrdd y mae pobl yn byw eu bywydau a chyfrifoldeb y Llywodraeth yw creu'r amodau lle gall pobl gymryd y camau sy'n caniatáu iddyn nhw hybu eu hiechyd eu hunain yn y dyfodol. Felly, y cyfuniad hwnnw o gamau y gall pobl eu hunain eu cymryd, ond mae'n rhaid i Lywodraethau weithredu er mwyn rhoi'r cyfleoedd iddyn nhw graddau hynny, rwy'n cytuno â'r pwyntiau yr oedd yr Aelod yn eu gwneud.
Yn amlwg, mae penderfynyddion yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn yn gymhleth, yn rhyng-gysylltiedig, yn lluosog. Maen nhw'n deillio o gymysgedd gwenwynig o incwm isel, tai gwael, deiet gwael, gweithgarwch corfforol isel a llygredd uchel. Mae rhai o'r materion hyn wedi eu cadw yn San Steffan, ond mae llawer ohonyn nhw yn rhan o'ch maes rheolaeth chi. Gadewch i ni ystyried canser, er enghraifft. Yn y chwe blynedd diwethaf y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer, mae'r gostyngiad hirdymor o ran cyfraddau marwolaethau canser wedi arafu'n sylweddol yng Nghymru. Yn ystod yr un cyfnod, mae cyfradd y gostyngiad yn yr Alban, sydd â phroffil amddifadedd tebyg, wedi cynyddu. Nawr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ei hun wedi dweud nad oes dealltwriaeth lawn o achosion y rhain a newidiadau eraill i gyfraddau marwolaeth a'u bod yn cael eu harchwilio ymhellach. Nawr, a gaf i awgrymu nad yw hynny'n cyfleu synnwyr o frys yn union? A gaf i gynnig i chi bod yr angen i ddeall yr hyn sydd yn digwydd yma a dod o hyd i atebion yn fater o'r brys mwyaf? Mae bywydau pobl yn llythrennol yn y fantol. Ymateb eich llefarydd i adroddiad y pwyllgor iechyd oedd y bydd y cwricwlwm ysgol newydd, y disgwylir iddo ddod i rym yn 2022, yn cynnwys pwyslais ar iechyd a llesiant. Ond mae hynny dair blynedd i ffwrdd. A allwn ni fforddio aros tair blynedd pan fo'r argyfwng yn digwydd i'n plant nawr?
Wel, Llywydd, mae Adam Price yn iawn wrth gyfeirio at rai o'r tueddiadau hirdymor yr ydym ni'n ymdrin â nhw yn y fan yma. Mae pob un genhedlaeth ers 1945 wedi bod yn drymach na'r genhedlaeth o'i blaen. Ac mae hynny wedi bod yn wir mewn cyfnodau o lwyddiant economaidd yn ogystal â chyfnodau o ddirywiad economaidd. Mae'r rhain wir yn dueddiadau hirdymor lle na ellir disgwyl i gamau gan y Llywodraeth wneud gwahaniaeth byrdymor. Ond nid ydym yn disgwyl am ddigwyddiadau penodol er mwyn gwneud gwahaniaeth. Rydym ni eisoes yn gwneud pethau. Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn gwneud gwahaniaeth bob dydd i'r cyfleoedd sydd gan blant i gerdded neu feicio i'r ysgol. Mae'r camau yr ydym ni'n eu cymryd ym maes bwyd i geisio gwneud yn siŵr bod y teuluoedd hynny sydd angen y cymorth mwyaf i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu cael gafael ar y math o ddeiet sydd ei angen arnynt, i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i deuluoedd fel y gallan nhw baratoi bwyd sydd o ddaioni i iechyd hirdymor eu plant—mae'r rheini'n rhaglenni sy'n digwydd yng Nghymru heddiw. Os oes mwy o bethau y gallwn ni eu gwneud, fel y byddwn ni drwy'r cwricwlwm newydd, byddwn ni'n eu gwneud, wrth gwrs. Oherwydd rydym ni eisiau canolbwyntio, fel y dywedais, Llywydd, ar yr ysgogiadau hynny sydd fwyaf uniongyrchol yn nwylo Llywodraeth Cymru ac yna sicrhau bod yr effaith y gallan nhw ei chael ym mywydau teuluoedd a phlant yng Nghymru cymaint â phosibl.
Arweinydd grŵp UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae gen i ddiddordeb mawr mewn neges a gyhoeddwyd gan Masnach a Buddsoddi Cymru yn ddiweddar. Fel y gwyddoch, menter farchnata sy'n cael ei rhedeg gan eich Llywodraeth Cymru chi yw Masnach a Buddsoddi Cymru. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n gwthio’r neges i ddarpar fuddsoddwyr tramor bod gweithwyr yng Nghymru yn ennill hyd at 30 y cant yn llai na gweithwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ai eich strategaeth swyddogol yw marchnata Cymru i gwmnïau tramor fel economi cyflog isel, lle gall cwmnïau ddod i Gymru ac ymsefydlu yma a thalu cyflogau hynod o isel i'w gweithwyr?
Llywydd, nid oedd honno'n neges a gyhoeddwyd gan unrhyw Weinidog. Nid yw'n neges a ddylai fod wedi ei chyhoeddi, a gallaf sicrhau'r Siambr nad yw'n neges a fydd yn cael ei hailadrodd.
Felly, dim ond camgymeriad oedd hynny. Iawn. Wel, pa bynnag strategaeth y bydd eich Llywodraeth Cymru yn ei llunio, gan honni eich bod chi'n ceisio gwella amodau gwaith yng Nghymru, mae'n debygol o gael ei thanseilio gan y sefyllfa wirioneddol sydd gennym ni yma yn y farchnad swyddi, sef, yn gyffredinol, bod cyflogau yng Nghymru yn isel iawn ac nad yw 20 mlynedd o Lywodraeth Llafur Cymru wedi gwneud dim i newid hynny.
Gwelais ddoe bod eich Gweinidog Brexit wedi cyhoeddi datganiad yn honni bod angen i ni gadw'r rhyddid i symud i'r DU hyd yn oed ar ôl Brexit. Mae hyn yn golygu hyd yn oed ar ôl i ni adael y bydd mewnfudwyr sgiliau isel yn dal i gael llifo i Gymru o ddwyrain Ewrop, gan gadw cyflogau yn isel. Ni fydd cyflogau yng Nghymru byth yn codi oni bai ein bod ni'n cymryd camau gweithredol i roi terfyn ar y llif hwn o lafur rhad, di-grefft. Felly, pam mae eich Llywodraeth Lafur Cymru mor benderfynol o gadw'r llafurlu rhad yn llifo i mewn i Gymru?
Wel, Llywydd, gadewch i mi gywiro'r Aelod yn y lle cyntaf, oherwydd mae'n ailadrodd yr hen chwedl wag am economi Cymru. Y gwir am economi Cymru yw, er bod gennym ni fwy o swyddi cyflogau isel yng Nghymru, pan fydd unigolyn yng Nghymru yn gwneud swydd mae'n cael ei dalu'n debyg i'r hun y byddai unigolyn yn cael ei dalu am wneud yr un swydd yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'n wir, fel yr awgrymodd ar y cychwyn, bod cyflogau yng Nghymru yn gyffredinol isel, rywsut.
Gadewch i mi ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod ddoe. Mae parhad swyddi yn economi Cymru—mewn busnesau, mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein prifysgolion—yn dibynnu ar ein gallu i barhau i ddenu pobl o rannau eraill o'r byd i ddod i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru. Y neges yr ydym ni eisiau ei rhoi i weddill y byd yw bod croeso iddyn nhw yma. Maen nhw'n chwarae rhan bwysig iawn yn ein cymdeithas ac yn ein heconomi, ac mae negeseuon i'r gwrthwyneb yn niweidio'r bobl hynny sydd eisoes yn byw yma a'u rhagolygon economaidd.
Rwy'n credu mai'r gwir, Prif Weinidog, yw eich bod chi eisiau sefydlu eich Comisiwn Gwaith Teg y cyfeiriasoch ato'n gynharach, gan esgus eich bod yn ymrwymedig i wella tâl ac amodau gwaith yng Nghymru, pan fo'r gwirioneddol yn hollol i'r gwrthwyneb. Y gwir yw eich bod chi eisiau cadw tâl ac amodau gwaith yn isel yng Nghymru trwy ganiatáu i gwmnïau barhau i gael mynediad at weithwyr tramor rhad.
Mae'n rhyfeddol i mi mai'r Blaid Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru, sydd i fod i sefyll yn gadarn dros hawliau gweithwyr Cymru, sy'n gwneud hyn. Rwyf i wedi gofyn hyn i chi o'r blaen Prif Weinidog, a byddaf yn ei ofyn i chi eto: oni fyddai'n fwy priodol erbyn hyn pe byddech chi'n ailenwi eich plaid y blaid 'llafur rhad'?
Wel, roedd yn sylw dirmygus y tro diwethaf y'i gwnaed gan yr Aelod—rwy'n synnu nad oes ganddo o leiaf rhywun wrth ei ochr i'w gynghori ar beidio ag ailadrodd yr un camgymeriad ddwywaith. Gadewch i mi roi'r enghraifft iddo yr wyf i wedi ei rhoi iddo o'r blaen. Mae'n enghraifft byd go iawn—fe'i rhoddwyd i mi yn uniongyrchol gan y cyflogwr. Dyma rywun sy'n rhedeg busnes mawr a llwyddiannus yng nghanolbarth Cymru, mewn man lle ceir poblogaeth denau. Er mwyn i'r busnes hwnnw lwyddo, fel y mae wedi llwyddo ers blynyddoedd lawer, mae angen 100 o bobl i sicrhau bod ei fusnes yn gweithio o un flwyddyn i'r llall. Mae'n gallu recriwtio 80 o'r bobl hynny o'r gymuned leol honno. Er mwyn i'r busnes redeg, mae'n rhaid iddo recriwtio 20 o bobl eraill ac, yn wir, ni ellir dod o hyd i'r 20 o bobl eraill hynny yn lleol, ac maen nhw'n dod o'r tu allan i Gymru. Swyddi'r 80 o bobl sydd eisoes yno sy'n dibynnu ar y 20 o bobl sy'n dod o fannau eraill. Dyna pam mae croeso i'r bobl hynny yma yng Nghymru. Ymhell o sefyllfa, fel y mae'r Aelod yn ei awgrymu, lle mae'r bobl hynny rywsut yn rhoi pobl Cymru dan anfantais, mae ein gallu i ddarbwyllo pobl o fannau eraill i ddod a bod yn rhan o'n heconomi lwyddiannus yn rhan o'r llwyddiant y byddwn ni'n ei gael, ac rydym ni fel Llywodraeth yn benderfynol o barhau i gyfleu'r neges y bydd y bobl hynny yn cael eu croesawu. Mae croeso iddyn nhw nawr, bydd croeso iddyn nhw yn y dyfodol, beth bynnag fydd ein perthynas â gweddill y byd.