Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 1:55, 12 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae gen i ddiddordeb mawr mewn neges a gyhoeddwyd gan Masnach a Buddsoddi Cymru yn ddiweddar. Fel y gwyddoch, menter farchnata sy'n cael ei rhedeg gan eich Llywodraeth Cymru chi yw Masnach a Buddsoddi Cymru. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n gwthio’r neges i ddarpar fuddsoddwyr tramor bod gweithwyr yng Nghymru yn ennill hyd at 30 y cant yn llai na gweithwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ai eich strategaeth swyddogol yw marchnata Cymru i gwmnïau tramor fel economi cyflog isel, lle gall cwmnïau ddod i Gymru ac ymsefydlu yma a thalu cyflogau hynod o isel i'w gweithwyr?