Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Mawrth 2019.
Rwy'n credu mai'r gwir, Prif Weinidog, yw eich bod chi eisiau sefydlu eich Comisiwn Gwaith Teg y cyfeiriasoch ato'n gynharach, gan esgus eich bod yn ymrwymedig i wella tâl ac amodau gwaith yng Nghymru, pan fo'r gwirioneddol yn hollol i'r gwrthwyneb. Y gwir yw eich bod chi eisiau cadw tâl ac amodau gwaith yn isel yng Nghymru trwy ganiatáu i gwmnïau barhau i gael mynediad at weithwyr tramor rhad.
Mae'n rhyfeddol i mi mai'r Blaid Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru, sydd i fod i sefyll yn gadarn dros hawliau gweithwyr Cymru, sy'n gwneud hyn. Rwyf i wedi gofyn hyn i chi o'r blaen Prif Weinidog, a byddaf yn ei ofyn i chi eto: oni fyddai'n fwy priodol erbyn hyn pe byddech chi'n ailenwi eich plaid y blaid 'llafur rhad'?