1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mawrth 2019.
4. Beth yw polisi Llywodraeth Cymru o ran y ddarpariaeth gwasanaethau profedigaeth? OAQ53536
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Byrddau iechyd sy'n gyfrifol am ddarparu gofal a chymorth profedigaeth i'w poblogaethau. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu sefydliadau'r trydydd sector yn uniongyrchol i wella gwasanaethau i bobl sy'n dioddef profedigaeth.
Diolch. Mae 40 y cant o'r 33,000 o bobl sy'n marw yng Nghymru bob blwyddyn yn marw yn y gymuned, 55 y cant yn yr ysbyty. Er y cyfeirir at gymorth profedigaeth yn dilyn marwolaeth plentyn mewn unedau gofal dwys pediatrig yng nghynllun cyflawni presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael, nid yw'r cynllun yn cyfeirio at bwysigrwydd gofal profedigaeth i deuluoedd lle mae oedolyn wedi marw yn dilyn gofal critigol. Darperir cyfran sylweddol o gymorth profedigaeth gan ein hosbisau elusennol yng Nghymru, a chynorthwywyd tua 2,300 o deuluoedd yn 2017-18, ond deallir nad yw teuluoedd y mae eu hanwyliaid yn marw mewn lleoliad acíwt ar ôl derbyn gofal dwys a chritigol yn cael y gofal profedigaeth sydd ei angen arnynt oherwydd diffyg cyfeirio neu ddiffyg o ran bod gofal ar gael. Mae'n sicr yn destun pryder a godwyd gyda mi gan yr hosbisau oedolion yn y gogledd, sydd hefyd yn dweud wrthyf nad oedd y bwrdd iechyd wedi ymgynghori â nhw ar eu cynllun gofal lliniarol. Felly, sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda GIG Cymru, gan sicrhau bod cymorth profedigaeth priodol ar gael i bob teulu sy'n dioddef profedigaeth, ni waeth beth fo lleoliad nac amgylchiadau marwolaeth eu hanwyliaid?
Wel, diolchaf i Mark Isherwood am y cwestiwn atodol yna a diolchaf iddo hefyd am y gwaith y mae'n ei wneud fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a gofal profedigaeth, sy'n rhoi mynediad i ni at rywfaint o'r wybodaeth sy'n ein helpu ni wrth ddatblygu gwasanaethau yr ydym ni'n eu darparu yn y maes hwn. Nawr, bydd yn gwybod, rwy'n siŵr, bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu darn o waith yn ddiweddar a ariennir drwy'r bwrdd gofal diwedd oes, ac astudiaeth gwmpasu yw honno i ehangder y gwasanaethau gofal profedigaeth yng Nghymru. Mae'r bwrdd wedi gofyn i Marie Curie a Phrifysgol Caerdydd arwain yr astudiaeth honno. Mae'n dechrau trwy fapio'r cymorth presennol ac yna nodi ardaloedd lle mae angen mwy o wasanaethau. Gallwn addo gwneud yn siŵr bod y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi heddiw yn cael eu cyfrannu at yr astudiaeth honno.
Prif Weinidog, mae colli rhywun annwyl i hunanladdiad yn brofedigaeth unigryw o ddinistriol yn fy marn i, ac eto nid yw gwasanaethau cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn bodoli i raddau helaeth yng Nghymru. Mae sefydliadau fel Sefydliad Jacob Abraham yn gwneud gwaith rhagorol yn cefnogi teuluoedd heb geiniog o arian cyhoeddus. Ceir patrwm hefyd yr wyf i'n ei weld yn fy ngwaith, ar fy nau bwyllgor, o wasanaethau statudol yn disgwyl i sefydliadau trydydd sector ddarparu gwasanaethau ar sail gyffredinol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ond heb gyfrannu'r arian ar gyfer y sefydliadau hynny dan sylw. Rwy'n ymwybodol o'r ymarfer mapio yr ydych chi wedi cyfeirio ato, ond mae hynny'n mynd i gymryd amser. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i drafod anghenion penodol y rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad gyda'r Gweinidog iechyd, gyda'r nod o gymryd camau brys yn y maes hwn, sy'n arbennig o bwysig gan ei bod hi'n ffaith bod y rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad eu hunain mewn perygl llawer uwch o farw drwy hunanladdiad?
Mae'r rheini'n bwyntiau pwysig, Llywydd, y mae'r Aelod yn eu gwneud. Mae dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn dod â chyfres o broblemau ychwanegol gydag ef y mae'n rhaid i deuluoedd sy'n cael eu gadael ar ôl fynd i'r afael â nhw ac maen nhw eu hunain yn aml yn achos o bryderon iechyd meddwl i'r teuluoedd hynny eu hunain. Felly, rwy'n llwyr gydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Wrth gwrs, mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector, ac mewn rhai meysydd—ac mae hwn yn sicr yn un ohonynt—mae'n aml yn wir y byddai'n well gan deuluoedd fod mewn cysylltiad â sefydliad y tu allan i gyfyngiadau mwy ffurfiol gwasanaethau cyhoeddus. A thrwy Cruse Bereavement Care a thrwy'r Samariaid, rydym ni'n darparu cymorth i'r trydydd sector o ran atal hunanladdiad a chwnsela mewn profedigaeth, ac mae'r Gweinidog wedi ymrwymo cyllid o £0.5 miliwn y flwyddyn i barhau i gefnogi dulliau cenedlaethol a rhanbarthol o fynd i'r afael â hunanladdiad ac atal hunan-niwed. Yr astudiaeth y soniais amdani, a gwn fod yr Aelod yn ymwybodol ohoni—rydym ni eisoes wedi penderfynu y bydd pwyslais penodol o fewn yr astudiaeth ar wasanaethau i gynorthwyo'r rhai sydd wedi dioddef marwolaeth anesboniadwy ddisymwth neu farwolaeth drwy hunanladdiad rhywun yn eu teulu neu sy'n agos atynt. Ac, wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i barhau i drafod y materion hyn gyda'm cyd-Aelod Vaughan Gething wrth i'r gwaith hwnnw aeddfedu.