Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 12 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:15, 12 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, wrth gwrs, rydym ni'n hapus iawn i edrych ar yr enghraifft honno. Mae'n cyd-fynd i raddau helaeth â'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn ei wneud ac yn yr economi sylfaenol lle gwnaeth Lee Waters ddatganiad i'r Cynulliad yn ddiweddar iawn. Wrth gwrs, mae'r enghraifft yn cyfeirio'n benodol at y ddadl yr oedd yr Aelod yn ei gwneud. Dywedir wrthym bod yn rhaid i ni adael yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cael y rhyddid hwn, ac eto mae'r enghraifft y mae'n tynnu sylw ati o wlad yn yr Undeb Ewropeaidd ac sy'n bwriadu aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn dal i allu—