Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Mawrth 2019.
Rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod bod hyn yn becyn o fesurau y mae'n rhaid i ni ei lunio i sicrhau ein bod ni'n cael y gwerth cyhoeddus mwyaf posibl o wario arian cyhoeddus, ac mae rhai enghreifftiau da iawn o fuddion cymunedol. Nid yw'r un y cyfeiriwyd ato gan yr Aelod yn swnio fel un o'r rheini, ond rydym ni wedi cael gwerth mwy na £2 biliwn o brosiectau lle sicrhawyd buddion cymunedol—mae hynny'n fwy na 500 o brosiectau, mae hynny'n 2,500 o swyddi a dros 1,000 o brentisiaethau a sicrhawyd drwy'r dull buddion cymunedol. Ac mae sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy o hynny ac yn gwneud yn well yn rhan o'r adolygiad caffael.
Yn sicr ddigon, ein huchelgais yw y bydd contractau yn cael eu gosod mewn ffordd sy'n sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl i gyflenwyr cynhenid, ac rydym ni'n ceisio gwneud hynny yn y ffordd a awgrymwyd gan David Rees, trwy gysylltu gwahanol agweddau ar ein gweithgarwch caffael. Felly bydd ef, mi wn, yn gefnogwr cryf o'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud i lunio nodyn cyngor caffael o ran caffael dur i wneud yn siŵr, pan fydd arian cyhoeddus yn cael ei wario yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, er enghraifft, lle gellir cyflenwi dur Cymru neu lle gellir cyflenwi dur y DU, ein bod ni'n manteisio i'r eithaf ar hynny yn y ffordd yr ymgymerir â chaffael yma yng Nghymru. Mae contractwyr cynhenid eisoes yn sicrhau 80 y cant o'r contractau sydd werth mwy na £750,000 a ddyfernir yma yng Nghymru, ac mae'r ffigur hwnnw wedi tyfu'n sylweddol yn ddiweddar. Mae mwy i'w wneud. Mae'r amgylchiadau sy'n ein hwynebu, os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn rhan o hynny, ac mae'n rhan o'r ffordd y mae'r adolygiad hwnnw yn cael ei gynnal.