Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 12 Mawrth 2019.
Llywydd, gwnaed i'r rhai y mae eu bywydau wedi eu heffeithio fwyaf gan dlodi ysgwyddo baich gyfan gwbl annheg oherwydd polisïau cyni cyllidol Llywodraeth y DU—polisïau sydd yn eu nawfed flwyddyn erbyn hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y mesurau ymarferol hynny y gallwn ni eu cymryd sy'n rhyddhau arian i bocedi'r rhai y mae tlodi yn effeithio arnynt ym Merthyr Tudful a Rhymni, a ledled Cymru.