Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 12 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr iawn. Yn sicr fe wnaf i drosglwyddo'r llongyfarchiadau hynny i'ch etholwr ac rwy'n cytuno â chi bod dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn ddathliad hyfryd iawn o'n perthynas gyda'n teulu yn y Gymanwlad. Fe wnes i fwynhau'r gerddoriaeth wych, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol y dylem ni fod yn dathlu'r diwrnod yn y ffordd honno.