– Senedd Cymru am 2:25 pm ar 12 Mawrth 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad. Rebecca Evans.
Diolch. Mae rhai newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar strategaeth dwristiaeth wedi ei dynnu yn ôl, a bydd y datganiad ar 'Brentisiaethau: Buddsoddi mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol' yn cael ei gyflwyno gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn olaf, fel yr eitem busnes olaf heddiw, mae'r Pwyllgor Busnes wedi amserlennu cynnig i gytuno ar ail-neilltuo Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i grŵp gwleidyddol gwahanol. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei gynnwys yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i'r Trefnydd mewn cysylltiad â rheoli sepsis yn y gwasanaeth iechyd? Mae llawer o'm hetholwyr wedi cael eu dychryn o ddarllen yn ystod y tair blynedd diwethaf, neu rhwng 2016 a 2018, am y cynnydd sylweddol yn y gogledd o ran nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â sepsis: i fyny o 151 yn 2016 i 238 yn 2018. Nawr, gwn fod staff ysbytai yn llawer gwell bellach o ran adnabod sepsis, a bod hynny'n sicr yn un o'r rhesymau pam mae mwy o achosion wedi eu nodi. Ond mae nifer y marwolaethau yn fy mhoeni'n fawr, ac rwy'n credu bod angen inni ddeall yr union gamau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth i godi ymwybyddiaeth ymhellach a thrin pobl yn gyflym pan fo sepsis yn cael ei nodi. Gwn y byddai fy nghyd-Aelod, Angela Burns, pe bai hi yma, yn curo'r drwm ynghylch y mater hwn, o ystyried ei diddordeb sylweddol ar ôl dioddef sepsis ei hun yn y gorffennol. Un o'r pethau y mae hi wedi galw amdanyn nhw, wrth gwrs, yw hyfforddiant ymwybyddiaeth sepsis gorfodol ymhlith staff rheng flaen y GIG, ac rwy'n credu y byddai hynny'n mynd ymhell i dawelu meddwl rhai o'm hetholwyr bod mwy o ymdrech yn cael ei wneud gan y GIG i ddal y cyflwr hwn sy'n fygythiad mawr i fywyd.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn a hefyd am gydnabod y gwaith y mae eich cyd-Aelod, Angela Burns, wedi ei wneud ynghylch sepsis ers peth amser bellach, oherwydd, mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn bryderus ynghylch sepsis. Mae'r gymuned ryngwladol, fodd bynnag, wedi cydnabod ymdrechion sylweddol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru i wella gydag atal, diagnosis a thriniaeth gynnar. Gwn fod llawer o waith yn cael ei wneud drwy ein rhaglen 1000 o Fywydau yn benodol. Mae'r Gweinidog iechyd yn dweud wrthyf fod cyflwyno hyfforddiant sepsis yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rwy'n deall fod rhai o'r ffigurau sy'n awgrymu bod cynnydd wedi bod yng nghyfraddau sepsis yn ddiweddar mewn gwirionedd yn ganlyniad newidiadau codio yn 2017 yn ardal y bwrdd iechyd, ond byddaf yn sicr yn gallu darparu mwy o wybodaeth am hynny i'r Aelod.
Trefnydd, mewn datganiad Brexit ar 22 Ionawr, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol fod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi a chynllunio ar gyfer effeithiau Brexit heb gytundeb ar draws yr holl wasanaethau.
Dywedwyd wrthym fod Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn cefnogi cynghorau i baratoi ar gyfer Brexit. Caf ar ddeall, yn amlwg, fod rhai awdurdodau lleol ar wahanol gamau o ran eu cynlluniau ar gyfer Brexit, gyda rhai awdurdodau lleol yng Nghymru prin wedi gwneud cynlluniau o gwbl.
O ystyried ble'r ydym ni heddiw, gyda'r ansicrwydd parhaus o ganlyniad i ymgais ddiweddaraf Prif Weinidog y DU i wneud cytundeb, rwy'n galw ar y Gweinidog Llywodraeth Leol i ddarparu datganiad pellach, mwy manwl, ar gynnydd—neu ddiffyg cynnydd—cynlluniau Brexit ymhlith awdurdodau lleol yng Nghymru. Erys cwestiynau ynghylch yr effaith ar y gweithlu, cyllid a’r economïau lleol, ac rwyf yn siŵr y byddai'r Gweinidog Llywodraeth Leol yn dymuno darparu eglurder ynghylch i ba raddau y mae awdurdodau lleol Cymru wedi datblygu eu gwaith cynllunio. Felly byddwn yn falch o gael datganiad.
Cymaint yw’r pryder ynghylch Brexit ymhlith aelodau cyffredin y cyhoedd, Trefnydd, fel eu bod, er enghraifft, yn cymryd camau eithafol. Mae Ed Sides, o Gilâ yn Abertawe, wedi cychwyn o Abertawe ddydd Mercher diwethaf ac mae’n cerdded yr holl ffordd i Lundain, gan siarad â phobl ar hyd y ffordd ynghylch y pryderon y mae llawer ohonom ni’n eu rhannu ynghylch Brexit. Mae ef wedi cael llond bol o'r ffordd y mae Brexit wedi cael ei drin a’r effaith drychinebus y bydd yn ei chael ar Gymru, ac rwyf yn siŵr y byddwch yn ymuno â mi i ddymuno'r gorau iddo ar ei daith.
Yn sicr, mae gennyf gydymdeimlad mawr â'i safbwynt, sef ei fod wedi cael llond bol ar y ffordd y mae Brexit wedi cael ei drin. Rwy'n credu yn sicr y byddai cyfran fawr ohonom ni yn y Siambr yn rhannu'r pryder hwnnw, ac nad yw cyhoeddiad diweddar y Prif Weinidog, o ran y trafodaethau y mae hi wedi eu cael â'n cymdogion Ewropeaidd yn ddiweddar, wedi gwneud dim i'n symud ni yn ein blaenau. Nid oes unrhyw beth wedi newid yn dilyn ei hymweliad neithiwr.
O ran cymorth i awdurdodau lleol, rwy'n credu y bydd cyhoeddiad pellach yfory ynghylch ein cefnogaeth i awdurdodau lleol drwy gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, mae gennym ddatganiad pellach ar Brexit gan y Gweinidog Brexit yr wythnos nesaf. Byddaf yn siŵr o ofyn iddo roi sylw ehangach i faterion cymorth i awdurdodau lleol ac argyfyngau sifil.
Trefnydd, a gaf i ofyn am bedwar datganiad? Nid wyf yn codi yn aml, felly rwyf yn mynd am bedwar y tro hwn. [Chwerthin.] Mae’r cyntaf yn ymwneud â gwaith Banksy ym Mhort Talbot. Yn amlwg, nid ydym yn dal yn glir i ba gyfeiriad yr ydym yn mynd o ran diogelu’r gwaith hwnnw na’r lleoliad y bydd y gwaith yn cael ei osod ynddo fel y gall y cyhoedd ei weld. Rwyf wedi siarad â'r awdurdod lleol ac, yn amlwg, mae cynigion yn cael eu cyflwyno. Ond mae cwestiwn cryf iawn yn codi ynghylch cynaliadwyedd hirdymor y lleoliadau hynny, ac maen nhw’n ceisio cael cymorth gan Lywodraeth Cymru yn yr achos hwnnw, gan fod gwario arian i wneud yr oriel yn barod yn hawdd, ond mae’n rhaid ei gwneud yn gynaliadwy yn yr hirdymor, ac mae rhaid ichi wneud yn siŵr ei bod yn parhau ar ôl yr amser y gwarantwyd y bydd y Banksy yno. Felly, byddai'n ddefnyddiol iawn pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi datganiad inni ynglŷn â’u safbwynt o ran beth yw’r oriel gelf gyfoes, ac a ellid ei defnyddio fel un o'r canolfannau hynny sy’n cael eu trafod.
Mae’r ail ddatganiad yn ymwneud yn benodol â pherchnogaeth twnnel y Rhondda, oherwydd rydym yn gwybod bod hwn wedi bod yn fater parhaus rhwng cymdeithas y twnnel a Llywodraeth Cymru, o ran pwy sy'n berchen arno. Rydym yn gwybod mai Highways England sy’n berchen arno ar hyn o bryd, ond bydd rhywfaint o'r arian sydd ei angen arnyn nhw er mwyn ymgymryd â gwaith pellach yn dibynnu ar y berchnogaeth honno. Felly, a gawn ni ddatganiad ar gamau Llywodraeth Cymru hyd yn hyn ynghylch perchenogaeth y twnnel, a phryd y gallwn weld trosglwyddiad oddi wrth Highways England i Lywodraeth Cymru, neu gyrff sy'n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru?
Y trydydd datganiad yw—ac efallai y bydd yr Aelod yn gwybod gan ei bod hi’n mynd heibio fy etholaeth yn ddyddiol—bod llong fawr iawn yn nociau Port Talbot ar hyn o bryd—y Sertão. Fe'i gosodwyd yno gan Lys y Morlys gan ei bod hi wedi ei hatafaelu oherwydd methdaliad yn ymwneud â’i pherchenogaeth. Os ydych yn gyfarwydd â'r llong, fe fyddwch yn ei gweld hi’n sefyll uwchben y craeniau yn y dociau ac mae hi wedi cymryd angorfa. Ac o'r hyn yr wyf yn ei ddeall, mae hi yno am gyfnod amhenodol bellach. A gawn ni ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llys y Morlys er mwyn selio dyfodol y llong hon, gan ei bod hi’n cymryd angorfa? Efallai nad ydym ni’n defnyddio’r angorfa—mae’r angorfa ddadlwytho ar yr ochr arall—ond pan fo dwy long yno weithiau, maen nhw’n angori ar yr ochr honno, ac felly, mae hi wedi cymryd angorfa. Felly, beth yw'r sefyllfa tymor hir o ran y llong yn nociau Port Talbot?
Ac yn olaf, datganiad gan y Gweinidog iechyd mewn cysylltiad â thimau iechyd meddwl cymunedol. Y prynhawn yma, bûm yn cadeirio grŵp iechyd meddwl trawsbleidiol yn y Cynulliad, a chafwyd adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynghylch timau iechyd meddwl cymunedol, y gwn eu bod nhw wedi eu cyhoeddi, ac rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adroddiad hwnnw erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Ond bellach, byddai'n bwysig ac yn ddefnyddiol iawn pe byddem ninnau yn y Siambr hon yn cael datganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch yr adroddiad hwnnw, a'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn cysylltiad â hynny.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Yn sicr, o ran y cynllun hirdymor i sicrhau yr ymdrinnir â mater y llong yn nociau Port Talbot yn briodol, byddaf yn gofyn i Weinidog yr Economi roi diweddariad ichi ynghylch hynny. Ynghylch y Banksy, wrth gwrs, mae'r Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y celfyddydau wedi clywed yr hyn a ddywedwyd gennych, yn enwedig ynghylch yr oriel gelf gyfoes bosibl, a gwn y bydd yn rhoi ystyriaeth lawn i hynny. O ran twnnel y Rhondda, unwaith eto, byddaf yn ceisio cael rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog priodol ynghylch perchnogaeth yno.FootnoteLink Ac mae'r Gweinidog iechyd wedi cadarnhau y bydd ef yn sicr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fyddwn yn ymateb i'r adroddiad erbyn diwedd yr wythnos nesaf.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch cau llwybrau beicio mynydd o amgylch coedwig Cwm-carn? Rwyf wedi cael nifer o gwynion gan feicwyr mynydd sy'n defnyddio llwybrau coedwig Cwm-carn ac sy'n mynd yn gynyddol rwystredig oherwydd yr aflonyddwch a achosir gan y torri coed yn yr ardal. Mae'r gwaith o dorri coed afiach wedi arwain at weddillion torri coed yn cael eu gadael yno, gan gau llwybrau yn y goedwig. Mae deiseb gan Steve Harris i ailagor y llwybrau hyn eisoes wedi denu ymhell dros 800 o lofnodion. Os gwelwch yn dda, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch pa gamau y bydd hi'n eu cymryd i ymyrryd er mwyn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru a'r contractwyr yn agor y llwybrau fel y gall y beicwyr mynydd barhau i fwynhau'r ased rhyfeddol hwn a thirwedd ogoneddus Cymru?
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwnnw. Gallaf ddeall a chydymdeimlo â rhwystredigaeth y beicwyr mynydd yn llwyr, fel y'i disgrifiwyd gennych chi. Ar hyn o bryd, rydym ni'n cyfrannu at gynllun gweithredu clefyd coed ynn y Tree Council, sy'n amlinellu'r pedair ffordd allweddol y gall awdurdodau lleol helpu i reoli'r clefyd penodol hwnnw. A disgwylir i'r cynllun hwnnw gael ei lansio yng Nghymru ar 28 Mawrth, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Hoffwn i ofyn am ddadl yn amser y Llywodraeth am brinder staff yn y GIG. Yn y newyddion heddiw, ceir adroddiad am wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac mae’r gwasanaethau hyn bellach wedi eu canoli. Mae nifer fawr o bobl ddig a gofidus o'r Maerdy yn y Rhondda wedi cysylltu â mi hefyd yn ystod y penwythnos ynghylch problemau â’u meddygfa leol. Am un funud i bump o’r gloch ddydd Gwener diwethaf, cefais e-bost gan yr uwch reolwr ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf a ddywedodd:
Mae’r bwrdd iechyd wedi gwneud penderfyniad brys nas cynlluniwyd i gau meddygfa’r Maerdy dros dro am gyfnod o bedair wythnos, gan ddechrau ddydd Llun 11 Mawrth, fel y gall iechyd a diogelwch ymchwilio i fater rheoli plâu allanol yn nhiriogaeth y feddygfa a gerllaw. Ni all y feddygfa gynnig unrhyw apwyntiadau nac ail bresgripsiynau yn ystod y cyfnod hwn.
Yn fy marn i, mae hyn oll yn wedi ei sbarduno gan brinder staff. Mae meddygfa’r Maerdy eisoes wedi cwtogi ei horiau i 20 awr yr wythnos, gan roi pwysau anhygoel ar feddygfa Ferndale gerllaw. Ac rwyf wedi cael cwynion ers ddoe, gan bobl y Maerdy, sy’n disgrifio'r anawsterau y maen nhw wedi eu cael wrth geisio ffonio meddygfa Ferndale i wneud apwyntiad.
Nawr, mae pobl yn y Maerdy yn ofni mai blaen y gyllell yw hyn a bod eu meddygfa leol yn mynd i gael ei lleihau a’i chau yn y pen draw. A yw hi’n wir yn cymryd mis i ymdrin â phla o lygod mawr, a pham na chafodd safleoedd eraill eu hystyried? Mae digonedd o adeiladau eraill, sy’n wag ac nad oes digon o ddefnydd arnynt yn y gymuned—mae cyni wedi gwneud yn siŵr o hynny. Mae pobl y Maerdy yn chwilio am sicrwydd na fydd argyfwng staffio’r GIG yn bygwth hyfywedd eu meddygfa yn y dyfodol. Mae hon yn gymuned ar ben uchaf y Rhondda Fach, sydd eisoes wedi ei hynysu oherwydd trafnidiaeth a ffyrdd gwael, ac mae pobl wedi cael llond bol o gael gwasanaethau’n cael eu cymryd oddi arnyn nhw. Byddwn yn ymgynnull wrth y feddygfa y bore Sadwrn hwn, am 10 a.m., ac rwyf yn gobeithio y bydd y bobl yn dod yno i ddangos cryfder eu teimladau ar hyn. Ond byddai croeso mawr i ddadl ynglŷn â chwestiynau staffio ehangach, gyda chyfle i'r Gweinidog roi sicrwydd a gwarantau i’r gymuned hon.
Hoffwn i hefyd longyfarch a chroesawu'r cyhoeddiad a wnaed ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru, Sophie Howe, ei bod hi’n darparu amser i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer staff sy'n profi camdriniaeth ddomestig. Mae hyn yn dilyn datblygiadau polisi arloesol yn Seland Newydd, lle aeth y Prif Weinidog, Jacinda Ardern, â pholisi o'r fath drwy'r Senedd ym mis Gorffennaf y llynedd. Mae hyn eisoes yn bolisi gan y Blaid Lafur ar lefel y DU. Pan gyhoeddwyd y polisi gan Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Fenywod a Chydraddoldebau, Dawn Butler, dywedodd hi:
Ar gyfartaledd, mae dwy fenyw yr wythnos yn cael eu llofruddio gan bartner presennol neu gyn-bartner sy'n eu cam-drin. Gallai’r 10 diwrnod hyn helpu i achub bywydau’r menywod hynny yn llythrennol.
Wedi gweithio'n agos gyda Chymorth i Ferched Cymru, gwn nad yw Dawn Butler yn gor-ddweud pethau yma.
O gofio mai’r Senedd hon yw’r unig sefydliad cenedlaethol yn y DU sy'n cael ei rhedeg gan Lafur, a bod Llafur mewn sefyllfa i wneud rhywbeth am hyn, a dangos arweinyddiaeth a fydd yn golygu, gobeithio, y bydd eraill yn ei dilyn, pryd y gallwn ni ddisgwyl cyhoeddiad gan Weinidogion Cymru y bydd yr holl weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru yn cael yr hawl i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i ymdrin â chamdriniaeth ddomestig? Fel arall, sut y gallwch obeithio bod yn Llywodraeth ffeministaidd, sy’n ymdrechu i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fenywod?
Diolch yn fawr iawn am godi'r ddau fater hynny. Ac, wrth gwrs, rwy'n gobeithio y byddwch yn achub ar y cyfle yn y rali ddydd Sadwrn i gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i leihau meddygfa'r Maerdy a'i chau, oherwydd rwy'n credu bod cysylltu pla â phrinder staff yn ymestyn pethau ychydig yn rhy bell, a dweud y lleiaf.
Byddaf yn cael trafodaeth gyda'r Gweinidog perthnasol ynghylch mater gweithwyr y sector cyhoeddus, a sut y gallwn gefnogi'r bobl hynny sy'n profi camdriniaeth ddomestig, a'u cefnogi nhw orau er mwyn eu cael nhw allan o berthynas lle mae cam-drin yn digwydd. A byddaf yn gofyn i'r Gweinidog roi ymateb ichi ar hynny.
Mae adroddiad pwysig y Barbican yr wythnos diwethaf ynghylch y sefyllfa druenus o'r anhawster i gael mynediad at gerddoriaeth ar draws y DU yn disgrifio’n llawn y dystiolaeth o elitaeth gynyddol o ran gallu pobl ifanc i gael mynediad at gerddoriaeth fel pwnc yn y cwricwlwm ac fel llwybr gyrfa. Mae hyn yn wir yn enwedig yn achos plant y dosbarth gweithiol, ac mae'n amlygu diffyg cronig o ran cyfle i ddefnyddio darpariaethau cerddoriaeth a chael hyfforddiant cerddorol i'r bobl dlotaf mewn cymdeithas. Mae adroddiad ‘Land of Song’ yr Athro Carr o Brifysgol De Cymru, a lansiwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ymchwiliad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ‘Taro’r Nodyn Cywir’, a gwahanol ddadleuon a datganiadau barn am hyn hefyd, wedi ymchwilio i’r materion gwirioneddol sy'n wynebu Cymru fel cenedl, ac yn disgrifio’n llawn y diffyg cynyddol yn y gallu i gael mynediad at gerddoriaeth, hyfforddiant, gwasanaethau cymorth cerddoriaeth a’r cyfleoedd a ddaw yn eu sgil. Felly, fel gwlad sydd wedi ei gwreiddio'n gadarn yn ein hanes cerddorol, treftadaeth ac etifeddiaeth, ac sy’n mwynhau enw da yn rhyngwladol am allforio ein llwyddiant cerddorol, ac artistiaid rhyngwladol poblogaidd a chlasurol, mae colli gwasanaethau addysgu sylfaenol systemig yn golled i bob un ohonom, ac mae colli amrywiaeth gymdeithasol i’n hensembles cerddorol elît hefyd yn bryderus ar sawl lefel.
Felly, ar ben gwahanol fentrau Llywodraeth Cymru, hoffwn ofyn am ddatganiad llawn ar hyn sy’n amlinellu gwerthusiad llawn i mi a phobl megis Owain Arwel Hughes CBE, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Undeb y Cerddorion, cymdeithas gwasanaethau cerddoriaeth Cymru, CAGAC, ysgol gerddoriaeth Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Incorporated Society of Musicians ac eraill. A gaf i ofyn am statws ac iechyd ein darpariaeth addysg gerddorol anstatudol bresennol ledled Cymru, ar ôl bron degawd o gyni bellach a lleihad anochel gwasanaethau anstatudol llywodraeth leol yng Nghymru; dadansoddiad o'r camau lliniaru sydd ar waith ac sy’n cael eu cynllunio’n strategol i rwystro ac atal colled darpariaethau addysg gerddorol anstatudol ledled Cymru; statws datblygiadau am strategaeth neu gynllun addysg gerddorol perfformiad cenedlaethol; dadansoddiad o effeithiolrwydd deddfu ar wasanaethau cymorth cerddoriaeth statudol; ac yn olaf, cyflwr y datblygiadau ar gyfer cael mecanwaith ariannu a gefnogir gan Lywodraeth Cymru fel y gall llywodraeth leol ddarparu a/neu gomisiynu gwasanaeth cymorth addysgu cerddoriaeth ar gyfer Cymru fel rhan o strategaeth genedlaethol gyfannol ar gyfer Cymru? Diolch.
Diolch yn fawr iawn am godi'r mater hwn. Rydym yn sicr yn cydnabod y pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth a'r angen i weithredu, a gweithredu'n gadarnhaol, cyn gynted â phosibl. Dyma un o'r rhesymau pam mae gwerth £3 miliwn o gyllid ychwanegol wedi ei ddarparu yn ystod 2018-19 a 2019-20 ar gyfer darpariaethau cerddorol ledled Cymru. Ers ymateb y Gweinidog Addysg i 'Taro'r Nodyn Cywir', gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddatblygu'r argymhellion hynny ymhellach. Elfen o'r gwaith hwnnw yw cynnal astudiaeth ar ddichonoldeb er mwyn edrych ar ddewisiadau addas i ddarparu gwasanaethau cerddoriaeth yn y dyfodol yng Nghymru. Rwyf ar ddeall bod swyddogion wedi cynnal ymgynghoriad â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol er mwyn gofyn am eu safbwyntiau ar agweddau amrywiol o'r astudiaeth honno, ac ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gafwyd, a'r dewisiadau sydd ar gael, mae'r Gweinidog wedi cymeradwyo caffael yr astudiaeth ddichonoldeb. Mae'r gwahoddiad i gomisiynu contractwr i ymgymryd â'r astudiaeth honno wedi ei chyhoeddi ar GwerthwchiGymru ac mae'n agored i dendrau ar hyn o bryd.
Trefnydd, a gaf i dynnu eich sylw at neges drydar a wnaed gan Masnach a Buddsoddi Cymru? Rwy'n gwerthfawrogi bod y Prif Weinidog wedi rhoi ychydig o sylw i hyn mewn cwestiynau a gyflwynwyd iddo gan wahanol Aelodau y prynhawn yma. O ddarllen y wefan, mae'n dweud mai hi yw porth menter marchnata buddsoddiad uniongyrchol tramor swyddogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru, cangen o Lywodraeth Cymru. Felly mewn gwirionedd, nid yw dweud ei bod wedi ei gwneud heb Lywodraeth Cymru, neu ei bod wedi ei gwneud heb ganiatâd Llywodraeth Cymru yn ddigon da, a bod yn onest. Wrth ichi gyhoeddi’r neges drydar honno neithiwr ar y dystiolaeth a ddaeth y pwyllgor materion allanol i'r Siambr hon â’u hadroddiad a ddywedodd bod ein cynnig wedi bod yn dameidiog ac yn gymysglyd o ran mewnfuddsoddiad, ac yna pan welwch ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwnnw sy'n nodi gwendidau yn y cynnig sydd ar gael er mwyn ceisio dod â buddsoddiad i mewn, rwy'n credu y byddai'n amserol inni gael datganiad gan y Gweinidog i'r Siambr hon—datganiad llafar, fel y gellir ei holi hi yn ei gylch. Gallai hynny fod yn fuddiol fel y bydd yr Aelodau’n deall sut mae negeseuon trydar o’r fath yn llithro drwy'r system, sy'n hyrwyddo’r fantais o gael cyflogau sydd 30 y cant yn is nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Byddwn i’n dweud mai methiant polisi economaidd yw hynny yn hytrach na rhywbeth i'w ddathlu. Ac felly rwy'n galw ar y Llywodraeth i gyflwyno datganiad fel y gallem holi'r Gweinidog am ei strategaeth newydd bosibl a sut y gallai hi geisio rhoi hynny ar waith gyda phob brys dyladwy.
Diolch yn fawr iawn am godi hynny, ac rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi bod yn fwy na chlir yn ystod sesiwn holi'r Prif Weinidog nad oedd y neges drydar honno yn cynrychioli ymagwedd Llywodraeth Cymru at fasnach oherwydd, yn amlwg, ein bod ni'n Llywodraeth sy'n cefnogi busnes, rydym ni'n croesawu busnes, mae Cymru'n lle gwych i wneud busnes. Rydym ni'n gweithio'n agos iawn ag academia er mwyn sicrhau bod gan fusnesau y llif o sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw, ac, wrth gwrs, mae Cymru'n lle gwych i fyw ynddi, yn ogystal â gweithio. Felly, mae gennym strategaeth farchnata gref iawn, rwy'n credu, o ran gwerthu ein neges i'r byd, ond mae'r Gweinidog wedi dweud y byddai hi'n hapus i gyflwyno datganiad ynghylch ein hymagwedd at fasnach.
Rydym ni wedi clywed ar y newyddion yn ddiweddar bod awgrymiadau cryfion, yn ystod streic y glowyr, bod yr heddlu, drwy’r heddlu protestiadau arbennig—yr un heddlu protestiadau arbennig a dreiddiodd fywydau llawer o fenywod sydd yma yng Nghymru mewn grwpiau ymgyrchu—mewn gwirionedd wedi treiddio i Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod streic y glowyr, ac felly, roedden nhw’n torri'r gyfraith. Ac rwyf yn siŵr y bydd Aelodau ar eich meinciau eich hunain yr un mor bryderus ynghylch y gweithrediadau cudd hyn ac yn dymuno gwybod mwy amdanyn nhw. Bob tro pan fyddwn ni’n crafu wyneb y sgandal plismyn/ysbiwyr hyn, rydym ni’n amlygu haen arall, ac rwyf wedi dweud yn y Siambr hon droeon na wyddom ni i ba raddau y mae hyn wedi effeithio ar fywyd Cymru, boed hynny yn y grwpiau a dreiddiwyd, neu oblygiadau hynny i'n cymdeithas yn awr. Felly, rwyf yn galw, ac yn pwyso, am ddadl ynghylch hyn yn ystod amser y Llywodraeth, oherwydd bod angen i bobl yn ein cymdeithas fod yn ymwybodol, os oedden nhw’n cymryd rhan mewn protestiadau, na threiddiwyd i'w plith ac nad oedden nhw’n destun y math hwn o weithred, er na allwn ni fod yn siŵr nes bydd gennym ni fwy o atebion o’r ymchwiliad cyhoeddus, ac felly fe fyddai dadl sy’n rhoi ymateb ar y cyd gan y Cynulliad hwn yn cael croeso mawr.
Fy ail gais yw dadl ynghylch ceiswyr lloches. Fe hoffwn ichi, y Llywodraeth, ymuno â mi wrth gondemnio polisi bwriadol Llywodraeth y DU o orfodi ffoaduriaid sy'n dod yma er mwyn cael bywyd gwell i fyw mewn tlodi. Unwaith eto, fe’m gwnaed yn ymwybodol o fater anodd iawn yn fy ardal i, Abertawe, lle cafodd Somaliad, sy'n feichiog ers 24 wythnos, ei gwneud yn anghenus. Ni all hi hawlio o dan adran 4 na gwneud hawliad newydd nes ei bod hi wedi bod yn feichiog ers 34 o wythnosau. Felly, mae hi bellach yn byw gyda rhywun yn Abertawe, nid oes ganddi arian, nid oes ganddi dŷ, ac nid yw hi’n gallu gweithio. Mae'n gwbl warthus bod menyw feichiog yn cael ei thrin fel hyn. A gaf eich annog chi'r Llywodraeth i edrych ar yr achos penodol hwn, ond hefyd i ddechrau dadl o’r newydd arall ar y mater penodol hwn? Ceir ymgyrch dorfol sy’n galw am gyfle i geiswyr lloches allu gweithio tra byddant yma, fel y gallwn ni sicrhau bod Cymru yn datgan cefnogaeth, mewn egwyddor, yn foesol, iddyn nhw, hyd yn oed os nad yw Llywodraeth y DU yn gwneud hynny.
Diolch ichi am godi hynny, ac rydym ni’n rhannu eich pryderon yn llwyr ynghylch y ffordd y mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cael eu trin pan fyddan nhw’n dod i’r DU er mwyn ceisio cael lloches. O'n rhan ni, rydym ni wedi ceisio agor y gronfa cymorth dewisol, er enghraifft, er mwyn sicrhau bod ceiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n wynebu tlodi gwirioneddol yn gallu cael cymorth drwy hynny. Fodd bynnag, mae gennym ni bryderon mawr, fel yr wyf yn gwybod sydd gennych chithau, ynglŷn â dull Llywodraeth y DU o ddarparu tai, er enghraifft. Mae'r safonau y mae Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn ofynnol ar gyfer tai lawer iawn yn is na'r hyn yr hoffem ei weld, a’r rhai a fyddem ni'n fodlon eu darparu ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru. Felly, ni fyddem ni’n disgwyl unrhyw safonau gwaeth ar gyfer pobl sy'n geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid. Felly, mae hyn yn peri pryder mawr inni.
Yn ddiweddar iawn, fe gawsom ni ddadl ynghylch Cymru fel cenedl o loches yn y Siambr, ond gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus i ateb unrhyw gwestiynau a fyddai gan bobl. Os ydych chi’n dymuno anfon rhagor o wybodaeth imi ynghylch yr achos penodol hwnnw, fe fyddwn i’n hapus i edrych ar ba sylwadau y gallem ni eu gwneud yno.
O ran y mater plismyn/ysbiwyr a goblygiadau ehangach hynny, fel y byddech chi’n dychmygu, rydym ni’n cysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch materion plismona, er nad oes gennym y pŵer i ymchwilio i gwynion. Mae'n bwysig bod yr ymchwiliad sy'n mynd rhagddo yn adnabod ffaeleddau’r gorffennol gan wneud argymhellion cadarn er mwyn sicrhau nad yw arferion annerbyniol yn cael eu hailadrodd. Rydym ni wedi croesawu’r ymchwiliad, ac rydym ni’n hapus nad yw’n gysylltiedig â’r Swyddfa Gartref, er fy mod i’n deall nad ydym ni’n disgwyl yr adroddiad tan 2023. Rydym ni’n falch bod y Swyddfa Gartref wedi sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i edrych ar yr holl weithredoedd a ddisgrifiwyd gennych. Fe fyddem ni’n sicr yn dymuno adeiladu ar y berthynas gadarnhaol sydd gennym â'r heddlu yma yng Nghymru. Rydym ni’n cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda'r prif gwnstabliaid, comisiynwyr heddlu a throseddu a chyfarwyddwr Cymru o Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Mi hoffwn i wneud cais am dri datganiad os yn bosib. Yn gyntaf, mi hoffwn i ddatganiad gan y Llywodraeth i'n diweddaru ni am y trafodaethau efo cwmni Rehau o ganlyniad i'w penderfyniad nhw yn ddiweddar i ymgynghori ar gau eu ffatri yn Amlwch. Dwi a chynrychiolwyr lleol eraill wedi cyfarfod y cwmni fwy nag unwaith i drio sicrhau bod popeth posib yn cael ei wneud i osgoi cau, ac mae'n galonogol clywed bod sawl opsiwn dan ystyriaeth. Ond hefyd fe hoffwn i sicrwydd bod pob cefnogaeth bosib yn cael ei rhoi i'r gweithwyr yno yn eu trafodaethau nhw efo'r cwmni. Mae'r gweithlu yn un da, maen nhw'n haeddu pob cefnogaeth. Mae'r ffatri'n un dda ac mae'n haeddu pob cyfle i gael dyfodol.
Yn ail, mi hoffwn i ddatganiad ar sut y gallai Llywodraeth Cymru weithio efo ni yn Ynys Môn i geisio gwthio i sicrhau bod buddsoddiad yn y llinell rheilffordd ar draws Ynys Môn yn cael ei chynnwys yn y rhaglen fuddsoddi gan Network Rail yn y control period nesaf. Mae yna ddau reswm penodol pam mae hyn yn arbennig o bwysig rŵan. Mi gollwyd pont rheilffordd yn Llangefni yn ddiweddar oherwydd i lori ei tharo hi. Mae angen pont yn ôl. Mae angen i Network Rail wneud y buddsoddiad. Ac oherwydd ergydion economaidd yng ngogledd yr ynys, mae'r llinell rheilffordd yma'n gyfle i wneud cyswllt economaidd pwysig newydd.
Yn drydydd, mi hoffwn i ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith Gymraeg ynglŷn â'r disgwyliadau sydd ganddi hi o'r hyn y dylai banciau ei gynnig i gwsmeriaid yng Nghymru o ran bancio ar-lein. Rwy'n gwybod yn fy etholaeth i, fel etholaethau cymaint o Aelodau yma, fod canghennau wedi bod yn cael eu cau. Dwi'n erbyn cau'r canghennau. Dwi'n gwneud y pwynt hwnnw'n glir ac yn gryf. Ond, wrth i'r banciau ein hannog ni i symud tuag at fancio ar-lein, beth mae hynny’n ei olygu ydy, os nad ydy'r bancio ar-lein yna ar gael yn Gymraeg, fod cwsmeriaid sydd wedi bod yn delio efo'u banciau nhw yn y gangen yn Gymraeg yn colli'r cyswllt yna drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi wedi bod yn trafod hyn efo nifer o faniau, ac rwy'n meddwl y dylid gweld pwysau sylweddol gan y Llywodraeth rŵan, drwy'r comisiynydd iaith o bosib, i sicrhau ein bod ni'n symud tuag at wasanaethau ar-lein. Dwi'n cofio, fel ymgyrchydd Cymdeithas yr Iaith ers talwm, trafod efo un banc ynglŷn â gwneud cashpoints yn Gymraeg. Fe ddywedon nhw nad oedd o'n bosib yn dechnegol. Wrth gwrs, rŵan, 25 mlynedd ymlaen, mae'n cashpoints ni i gyd yn Gymraeg. Dŷn ni angen symud yn fuan iawn tuag at gael gwasanaethau bancio ar-lein yn Gymraeg. Fe hoffwn ddatganiad ar hynny.
Diolch yn fawr iawn. Fe fyddaf yn sicr yn gofyn i'r Gweinidog i ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i Rehau, yn enwedig sut y byddem ni'n ceisio cefnogi'r gweithlu a sicrhau bod dyfodol dichonadwy ar gyfer y gwaith hwnnw. Fe fyddaf hefyd yn gofyn iddo gynnwys rhagor o wybodaeth yn yr ohebiaeth honno am y cynlluniau i fuddsoddi yn y rheilffordd ar Ynys Môn, gan ystyried y materion penodol yr ydych wedi eu disgrifio.
Gwn y bydd y Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn ystyried eich pryderon ynghylch pwysigrwydd y ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog ar-lein ar gyfer cwsmeriaid sy'n bancio.
Trefnydd, roedd hi’n bleser dathlu Diwrnod y Gymanwlad gydag Aelodau eraill y Cynulliad ac yn wir y Llywydd ei hun, a noddodd y digwyddiad, rwy'n credu, yn yr Oriel ar y llawr uchaf amser cinio. Roedd nifer o sefydliadau yn bresennol—gan gynnwys Future Leaders Connect, mudiad Young Women Empowered, Sub-Sahara Advisory Panel—roedd llwythi o sefydliadau, ac roedd hi’n bleser mawr mynd o gwmpas a sgwrsio â nhw. Un sefydliad nad oedd yn bresennol yr wyf wedi ymwneud llawer ag ef, a gwn fod y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol hefyd wedi ymwneud ag ef, oedd Love Zimbabwe. Mae Zimbabwe, wrth gwrs, yn gyn-aelod o'r Gymanwlad ond yn anffodus nid yw’n rhan o’r sefydliad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yn ogystal â dweud wrthym beth—. A gaf i ofyn am ddatganiad, y dylwn i ddweud, gan y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ynghylch yr hyn sy’n cael ei wneud i gynyddu cysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill y Gymanwlad? Gwn eich bod chi wedi cwrdd ag un o’m hetholwyr, Martha Holman o Zimbabwe, yn ddiweddar yn y Cynulliad. Maen nhw wedi caniatáu iddi gael dinasyddiaeth Brydeinig yn ddiweddar ac ni chlywodd hi am hynny tan yr wythnos diwethaf ac mae hi wrth ei bodd nawr bod ganddi basbort deuol. Felly, efallai y gallai Llywodraeth Cymru ystyried ei llongyfarch hi ar yr amser cyffrous iawn hwn o’i bywyd fel ein bod ni’n gwybod ein bod ni’n gwneud pethau ar gyfer unigolion yn ogystal ag ar sail fwy cenedlaethol a rhyngwladol.
Diolch yn fawr iawn. Yn sicr fe wnaf i drosglwyddo'r llongyfarchiadau hynny i'ch etholwr ac rwy'n cytuno â chi bod dathlu Diwrnod y Gymanwlad yn ddathliad hyfryd iawn o'n perthynas gyda'n teulu yn y Gymanwlad. Fe wnes i fwynhau'r gerddoriaeth wych, ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol y dylem ni fod yn dathlu'r diwrnod yn y ffordd honno.
Diolch i'r Trefnydd.