Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 12 Mawrth 2019.
Diolch. Rwy'n credu bod chwe chwestiwn gyda ni yma—byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb y rhain yn gryno.
Eich pwynt cyntaf am ddarparwyr hyfforddiant preifat ac a oedd yna ddadl dros economi gymysg a symud tuag at wahanol ddarpariaeth—rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol iawn. Byddwn yn sicr yn croesawu'r cyfle i weld mwy o fentrau cymdeithasol a chydweithredol yn darparu hyfforddiant, a byddai ddiddordeb gennyf i drafod hynny ymhellach a chael unrhyw syniadau sydd gan Bethan Jenkins.
Eich cwestiwn am yr ymarfer caffael i Gymru ar Waith—bu oedi yno oherwydd pryder ynglŷn â'r fethodoleg gwerthuso a ddefnyddiwyd ac, ar sail cyngor cyfreithiol, rydym wedi penderfynu ail-redeg y fframwaith. Dyna pam y cafwyd yr oedi.
Ar gwestiwn yr iaith Gymraeg, yn y ffigurau sydd gennyf i, yn 2016-17, aseswyd ychydig dros 4 y cant o'r prentisiaethau yn ffurfiol yn y Gymraeg, a defnyddiodd 8 y cant ar ben hynny rywfaint o'r Gymraeg mewn rhan o'u hyfforddiant. Ac rwyf i o'r farn mai un o'r heriau sydd gennym ni yw nifer y bobl sy'n fodlon cwblhau eu prentisiaeth gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond rydym ni'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld beth y gallwn ei wneud, a chyhoeddwyd cynllun ym mis Rhagfyr, gan nodi rhai camau. Felly, yn sicr nid ydym yn ddifater yn hynny o beth.
Roedd y cwestiwn ar brentisiaethau i fenywod wedi ei lunio'n dda—yn sicr, rwy'n cytuno â'r meddylfryd. Ceir nifer o wahanol fentrau eisoes yn y maes hwn, ond yn sicr gallwn wneud rhagor, a byddwn yn hapus i ysgrifennu a nodi rhywfaint o'r gweithgarwch sydd gennym ni ar waith ar hyn o bryd. Ac os oes gennych chi awgrymiadau am beth arall y gallem ni ei wneud, byddem ni'n croesawu cyfle i drafod hynny yn sicr hefyd.
Roeddech yn sôn am yr achos dros gludiant am ddim. Fel y gwyddoch, mae gennym Bapur Gwyn dan ymgynghoriad ar hyn o bryd ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n demtasiwn inni edrych ar wahanol grwpiau ac awgrymu y byddai cludiant am ddim yn fanteisiol iddyn nhw, ac yn sicr mae hynny'n wir. Ond credaf fod angen inni goleddu barn fwy strategol ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n strwythuro trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru i'r dyfodol, ac a oes lle i gludiant am ddim i'r boblogaeth gyfan neu rannau o'r boblogaeth fel rhan o hynny. Yn sicr, nid oes unrhyw ddewisiadau wedi eu diystyru ynglŷn â hynny, wrth i ni edrych ar gryfhau ein sector trafnidiaeth gyhoeddus.
Ac, yn olaf, o ran prentisiaethau gradd—rwy'n siŵr bod y prifysgolion wedi gwylltio oherwydd, yn Lloegr, fel y soniais i, mae'r rhaglen wedi gorwario'n wyllt, ac un o'r rhesymau am hynny yw bod cyflogwyr yn rhoi pethau fel graddau Meistr Gweinyddu Busnes, er enghraifft, yng nghategori prentisiaethau. Felly, maen nhw'n gwario arian fel dŵr ar raglenni o'r fath, gan wagio'r pwrs i gyd wrth fynd. Mae'r prifysgolion yn elwa'n fawr iawn ar hynny yn Lloegr. Fe wnewch chi faddau inni am beidio â dynwared y dull—yn ein barn ni—hedonistaidd hwnnw, a'n bod ni, yn hytrach, yn gweithredu mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran yr hyn y credwn ni sy'n strategol weddus ar gyfer economi Cymru. Rydym wedi dechrau gyda thechnoleg ddigidol fel prentisiaeth gradd, rydym ar fin lansio peirianneg, ac rydym yn edrych ar feysydd eraill. Ond credwn ein bod yn iawn i gymryd dull mwy trefnus a strategol yn hytrach na dim ond ail-gategoreiddio cyrsiau gradd yn brentisiaethau i ymdrin â'r system hon o dalebau sydd ganddyn nhw yn Lloegr, ac rwy'n siŵr y byddai'r prifysgolion yn hoffi ein gweld ni'n gwneud hynny, ond byddwn ni'n gweithredu mewn modd gwahanol yng Nghymru.