– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 12 Mawrth 2019.
Felly, eitem 5 yw'r datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar brentisiaethau a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer y dyfodol, ac dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud ei ddatganiad. Lee Waters.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o allu rhoi gwybod i'r Cynulliad Cenedlaethol fod Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o ran cyflawni ein hymrwymiad i ddarparu o leiaf 100,000 o brentisiaethau o ansawdd uchel, ar gyfer pob oedran erbyn diwedd y tymor Cynulliad hwn. Diolch i ymdrech ryfeddol gan gyflogwyr, darparwyr a gwasanaethau cynghori, rydym wedi darparu 56,635 o brentisiaethau rhwng mis Mai 2016 a mis Gorffennaf 2018. Fel yr addawyd, rydym wedi canolbwyntio ar wella ansawdd y prentisiaethau, a'u gwneud yn gydnaws ag anghenion economi Cymru, gan ein rhoi ni mewn sefyllfa well i ymdrin ag effeithiau globaleiddio, datblygiadau o ran awtomatiaeth a chanlyniadau a achosir gan Brexit.
Cawsom ein beirniadu am beidio â chymryd yr un agwedd â'r Llywodraeth yn Lloegr, ond mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn dangos bod ein dull strategol ni wedi ei gyfiawnhau. Mae ein cynllun prentisiaeth ni ar y trywydd iawn. Mae'r cynllun yn Lloegr yn mynd i'r gwellt. Mae nifer y rhai sy'n dechrau ar brentisiaethau yng Nghymru wedi cynyddu. Yr wythnos ddiwethaf, nododd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod nifer y rhai sy'n dechrau ar brentisiaethau yn Lloegr, yn hytrach na chynyddu fel y gobeithiwyd, 25 y cant yn is nag yr oedden nhw ddwy flynedd yn ôl, a dywedodd bod Llywodraeth y DU yn 'annhebyg iawn' o gyrraedd ei nod. Mae'r wrthblaid wedi ein gwawdio ni gryn dipyn yn hyn o beth, ac mae'r dystiolaeth ar hyn o bryd yn dangos mai ni sy'n iawn a nhw sy'n anghywir.
Mae prentisiaethau Cymru yn cael eu dylunio mewn ffordd wahanol, i wella cynhyrchiant ac ateb yr anghenion am sgiliau strategol. Mae ein buddsoddiad ni yn cael ei deilwra i anghenion cyflogwyr ym mhob rhanbarth, yn seiliedig ar yr argymhellion gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, gwybodaeth am y farchnad lafur ac adolygiadau o'r sector sy'n cael eu cynnal gan Gymwysterau Cymru. Mae anghenion y busnesau sy'n rhoi pŵer i'n heconomi yn ganolog. Rydym wedi creu bwrdd cynghori ar brentisiaethau i Gymru i ddarparu her gadarn ar y cynnwys o ran sgiliau, a chyngor ar gwmpas ac ystod fframweithiau prentisiaeth. Mae'r bwrdd yn cael ei gadeirio gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, ac mae'n cynnwys cyflogwyr mawr a busnesau bach a chanolig ledled Cymru.
Nid ydym yn rhoi talebau ar gyfer cyrsiau y byddai'r cyflogwyr yn eu cynnal beth bynnag mewn llawer o achosion, ond rydym yn darparu dilyniant clir o ran sgiliau, fel y gall gweithwyr Cymru symud i gyflogaeth uwch ei gwerth sy'n talu'n well, gyda gwell cyfleoedd mewn bywyd. Rydym wedi edrych ar y dystiolaeth o wledydd eraill yn Ewrop ac rydym yn rhoi'r flaenoriaeth i ehangu prentisiaethau uwch mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a phynciau technegol i greu cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol i symbylu arferion arloesol, creu cynhyrchion newydd ac ysgogi cyfraddau cynhyrchiant. Mae hyn yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar brentisiaethau ar lefel 3 ac yn uwch, lle mae'r adenillion ar fuddsoddiad yn uchel. Wrth inni ddatblygu ein dull ni o feithrin yr economi sylfaenol, byddwn yn parhau i roi ystyriaeth i anghenion cwmnïau sefydlog a gwasanaethau hanfodol.
Rydym wedi ein hymrwymo i ddilyniant sgiliau yn gyffredinol, ac yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid cymdeithasol mewn undebau llafur ac mewn diwydiant. Rydym yn creu swyddi gwell yn nes i gartref, drwy ymestyn ac ehangu prentisiaethau a rennir yn ardal tasglu'r Cymoedd i gefnogi busnesau bach wrth gael gafael ar hyfforddiant. Rydym yn annog busnesau bach a chanolig i ddefnyddio prentisiaethau drwy gynnig cymhelliant o hyd at £3,500 i recriwtio unigolyn ifanc, cyn belled nad yw'r cyflogwr hwnnw wedi cynnig prentisiaeth o'r blaen. Nod hyn i gyd yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn arfer busnes normal.
Dyma'r pwynt allweddol i'n dull ni o weithredu, Dirprwy Lywydd. Yng Nghymru, nid oes angen taleb er mwyn cael prentisiaethau sy'n darparu ar gyfer anghenion strategol eich busnes chi. Rydym yn dweud wrth unrhyw rai o'r 700 o gyflogwyr a amcangyfrifir sy'n talu ardoll, 'Os nad yw eich anghenion chi'n cael eu diwallu, dewch i siarad â ni.' Rydym wedi sefydlu tîm o ymgynghorwyr i gefnogi cyflogwyr sy'n talu ardoll, gan ymgysylltu yn agos â chyrff sy'n cynrychioli cyflogwyr, ac rydym wedi cyhoeddi canllawiau ffeithiol ar gyfer y rhai sy'n talu'r ardoll a chyflogwyr eraill fel ei gilydd ar y modd y gallan nhw fod â rhan yn y rhaglen yng Nghymru.
Rydym wedi cyflwyno prentisiaethau digidol i lenwi'r bylchau sgiliau a nodwyd gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, i ddechrau mewn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, ac, yn fuan, yn y sector peirianneg uwch. Ac, fel y daw'r dystiolaeth i'r amlwg, rydym yn gobeithio ymestyn y ddarpariaeth i sectorau eraill hefyd. Os caf i, Dirprwy Lywydd, rwy'n mynd i sôn am ychydig o'r mentrau yr ydym yn eu cynnal yn y maes hwn.
I ddatgloi'r galw, rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr o dan glystyrau sgiliau, mewn meysydd fel iechyd, coedwigaeth, peirianneg a thechnoleg ddigidol. Mae'r gwaith hwn yn ysgogi gwelliant o ran gwasanaethau cyhoeddus wrth inni fod mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd a chyrff cyhoeddus eraill i rannu arbenigedd. I ategu hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, er mwyn deall sut y gallwn ni glystyru'r cyflenwi o amgylch rhai sectorau, fel y gall busnesau bach a chanolig gael gwell defnydd o'r rhaglen.
Rydym yn adolygu ac yn atgyfnerthu ansawdd comisiynu, ac yn datblygu ac yn rhyddhau fframweithiau prentisiaeth yng Nghymru i ddiwallu anghenion cyfnewidiol ein heconomi. Bydd hyn yn sicrhau bod ein fframweithiau yn parhau'n berthnasol ac yn gludadwy ledled y DU, wrth ateb anghenion penodol Cymru hefyd. Rydym yn atgyfnerthu goruchwyliaeth reoleiddiol y system hefyd, a byddwn yn lansio ymgynghoriad cyn bo hir ar gynnwys y prentisiaethau, gan ganolbwyntio ar alwedigaethau technegol.
Ar gyfer pobl ifanc, byddwn yn lansio llwyfan TG newydd i egluro'r daith prentisiaeth yn well ac yn fwy hwylus i'r defnyddiwr. Mae ein rhaglenni, Prentisiaethau Iau, Paratoi ar gyfer Prentisiaethau a Rhoi Cynnig Arni, yn gweithredu mewn ysgolion a phob un yn paratoi pobl ifanc ar gyfer addysg alwedigaethol. Byddwn yn cefnogi pobl wrth fynd i brentisiaethau drwy'r rhaglenni Cymru'n Gweithio a Chymorth i Waith Cymru, gan ddarparu llwybr i yrfa a chyfleoedd bywyd.
Y llynedd, cyhoeddwyd pecyn cymorth cydraddoldeb cynhwysfawr i gefnogi darparwyr a chyflogwyr, sy'n cynnwys modiwlau ar hunaniaeth o ran rhywedd, stereoteipio a rhagfarn anymwybodol. Ac yn fwy diweddar, rydym wedi lansio ein cynllun gweithredu ar anabledd, a ddatblygwyd trwy ymgynghori â chyrff anableddau, sy'n nodi agenda uchelgeisiol i ehangu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobl anabl.
Felly, i gloi, Dirprwy Lywydd, yn ystod hanner cyntaf y tymor Cynulliad hwn, rydym wedi cryfhau perthnasedd, ansawdd ac effeithiolrwydd ein cynigion o brentisiaethau. Rydym i gyd yn gwybod y bydd y pwysau ar Gymru yn cynyddu yn y blynyddoedd nesaf—yn yr wythnosau nesaf o bosibl. Mae Brexit, technolegau newydd ac awtomatiaeth i gyd yn mynnu bod gennym system o hyfforddi sy'n gydnerth. Mae ein hymrwymiad ni i'r economi sylfaenol a sicrhau bod cwmnïau o faint canolig yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol inni ganolbwyntio ar brentisiaethau, dysgu gydol oes a hyfforddiant yn y gweithle. Bydd darparu prentisiaethau perthnasol o ansawdd uchel yn ein helpu ni i ymdrin â'r heriau hyn i gyd. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad yma heddiw—ar ei drydedd ymgais. Yr wythnos ddiwethaf oedd Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle i dynnu sylw at y budd y gall prentisiaethau ei roi i unigolion, i gyflogwyr a'r economi yn ei chyfanrwydd. Mae prentisiaeth yn rhoi cyfle i rywun ddysgu sgiliau newydd, i ennill cyflog wrth iddo ddysgu, a bwrw ymlaen yn ei yrfa, ac ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr bod gan fusnesau y gweithwyr medrus sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn ehangu. Mae'n bwysig, felly, bod yr hyfforddiant a ddarperir yn berthnasol ar gyfer ateb anghenion prentisiaid a chyflogwyr.
Fis Medi diwethaf, cynhyrchodd Estyn adroddiad yn honni nad oedd y rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau lefel uwch yn eu rheoli'n dda a bod llawer o gyrsiau yn hen ffasiwn. Aeth Estyn ymlaen i ddweud bod methiant ymhlith darparwyr yn golygu bod gweithwyr yng Nghymru yn gorfod teithio i Loegr i gael hyfforddiant. A wnaiff y Gweinidog ddweud pa gynnydd a wnaed wrth weithredu argymhellion Estyn i sicrhau bod pobl yn cael yr hyfforddiant diweddaraf o ansawdd da yma yng Nghymru?
Mae cyngor gyrfa o ansawdd da yn hanfodol er mwyn hyrwyddo'r manteision y gall prentisiaethau eu cynnig i fyfyrwyr ar gam cynnar. Mynegwyd pryderon ynghylch ansawdd a phresenoldeb cyngor gyrfa, gan gyfeirio at y prinder o gynghorwyr gyrfa hyfforddedig a diffyg gwybodaeth am brentisiaethau a hyfforddiant galwedigaethol ymhlith staff ysgolion. A wnaiff y Gweinidog ddweud wrth y Cynulliad a yw ef yn fodlon ar y cyngor gyrfa sydd ar gael yng Nghymru a chywirdeb y cyngor ar hyfforddiant galwedigaethol ac addysgol?
Yng Nghymru, menywod oedd 60 y cant o'r prentisiaid yn 2017. Fodd bynnag, yn aml caiff menywod eu harwain at brentisiaethau sy'n cynnig llai o dâl iddynt nag i ddynion. Mewn rhaglenni adeiladu a pheirianneg, dim ond un fenyw oedd i bob 23dyn. Hefyd, mae cael pobl anabl i fod yn brentisiaid yn her sylweddol. Mae llai na 2 y cant o'r rhai sydd ar raglenni prentisiaeth yn bobl anabl. Sut wnaiff y Gweinidog fynd i'r afael â rhagfarn rhyw a diffyg cynrychiolaeth pobl anabl yn y system brentisiaeth? Mae cynrychiolaeth y lleiafrifoedd ethnig sydd ar raglenni prentisiaeth yn parhau i fod yn sefydlog, ar tua 3 y cant o'r cyfanswm. Sut wnaiff y Gweinidog sicrhau bod prentisiaethau yn adlewyrchu'n fwy cywir boblogaeth amrywiol Cymru?
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o bwysigrwydd hanfodol ffermio yn economi Cymru. Dim ond 1 y cant o gyfanswm y prentisiaethau ar gael yng Nghymru dros y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf oedd mewn amaethyddiaeth. Pa gamau wnaiff y Gweinidog eu cymryd i sicrhau bod pobl ifanc yn ennill y sgiliau sydd eu hangen i sicrhau bod gan Gymru ddiwydiant ffermio cystadleuol a chynhyrchiol?
Yn olaf, Gweinidog, fis Tachwedd diwethaf, mynegodd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ei siom ynghylch y diffyg tryloywder o ran ariannu a gweithredu rhaglen prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Mynegwyd pryderon ynghylch y meini prawf a ddefnyddir i wneud penderfyniadau ynglŷn â dyrannu cyllid, y swm o arian sydd ar gael ar gyfer pob lefel o brentisiaethau nad ydyn nhw ar lefel gradd, a'r gronfa 10 y cant a gedwir, yn ôl pob golwg, ar gyfer prentisiaethau lefel is. Yn eich ymateb, Gweinidog, os gwelwch yn dda, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu'r tryloywder mwy eang y gofynnodd y pwyllgor amdano? Diolch.
Rwy'n credu imi gyfrif pum cwestiwn. Byddaf yn ceisio ateb cymaint ag y gallaf i.
Eich pwynt cyntaf, am yr adroddiad a wneir gan Estyn ar ddarparwyr hyfforddiant: y llynedd, canfu Estyn fod dau o'r tri darparwr yn 'dda' ac roedd y llall yn 'ddigonol'. Yn amlwg, nid yw digonol yn ddigon da ac rydym yn adolygu'r sefyllfa o ran ansawdd y safonau. Ac yn ogystal â hynny, rwy'n ymwybodol bod Pwyllgor yr Economi a Llywodraeth Cymru yn adolygu'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hefyd.
Roeddech chi'n holin am gyngor gyrfa. Byddwch yn ymwybodol o lansiad y gwasanaeth cynghori Cymru ar Waith, sydd yn rhesymoli nifer o raglenni sydd gennym ni eisoes: Twf Swyddi Cymru, ReAct ac yn y blaen. Caiff peth o'r gefnogaeth honno ei rhoi gan Gyrfa Cymru pan fydd yr ymarfer caffael wedi ei gwblhau. Yn sicr, nid ydym yn ddifater ynghylch ansawdd cyngor gyrfa, ac rydym yn cymryd camau gweithredol i wella hynny.
Roeddech chi'n holi am anableddau a chydraddoldeb, ac rwy'n credu mi ymdrin â hynny yn y datganiad, gyda chyhoeddi'r pecyn cymorth.
Ac roeddech chi'n holi, yn olaf, am amaethyddiaeth. Mae'n rhaid cyfaddef y bydd yn rhaid imi ysgrifennu atoch chi ynglŷn â hynny.FootnoteLink
Diolch am y datganiad yma. Mae wedi bod peth llwyddiant yn y maes yma, felly hoffwn groesawu'r prif ffigurau, ond mae'r datganiad yn darlunio llun delfrydol iawn sydd yn masgio rhai o'r problemau a'r penblethau sydd yn datblygu yn y maes yma.
Y peth cyntaf sy'n rhaid imi ofyn yw: a allem ni gael system ddelifro gwell yn nhermau y ffordd i addysgu yn y gweithle? Yn bresennol, bydd arian yn cael ei gaffael gan ddarparwyr hyfforddiant, sydd, i ryw raddau, wedi creu marchnad ffals, gan eu bod nhw yn cael eu cynnal gan arian Llywodraeth Cymru. A ydych chi'n credu y byddai'n well mynd i'r afael â phrentisiaethau trwy gael gwasanaeth addysg i unigolion ac ariannu prentisiaethau mewn ffordd sy'n adlewyrchu hynny? Ydych chi wedi ystyried modelau amgen a fyddai'n gweld partneriaethau newydd gydag awdurdodau lleol a cholegau addysg bellach, er enghraifft, gan gysylltu cyflogwyr yn uniongyrchol, neu drwy sefydliad dielw, yn hytrach na darparwyr hyfforddiant preifat? Yn Nenmarc, er enghraifft, mae prentisiaethau a hyfforddiant yn seiliedig ar waith yn cael eu hariannu trwy'r Llywodraeth ganolog a'r Llywodraeth ranbarthol gan weithio yn uniongyrchol â chyflogwyr a sicrhau bod prentisiaethau, a'r rheini sy'n derbyn yr hyfforddiant, yn cael eu hariannu trwy wasanaethau addysg gyhoeddus? Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd a hygludedd—portability—os, er enghraifft, hoffai rywun newid eu prentisiaeth wrth aros yn yr amgylchedd addysg hynny. Felly, rwy'n gofyn ichi a ydych chi wedi edrych ar fodelau amgen.
A allwch chi hefyd amlinellu'n fyr y penderfyniad a wnaed i hepgor ymarferiad caffael presennol ar gyfer rhaglen gymorth cyflogaeth Cymru'n Gweithio? Gwnes i geisio gofyn cwestiwn wythnos diwethaf, ond nid oedd wedi cael ei ddewis, ond roedd y sector wedi cael darganfod bod y gwaith caffael yma wedi cael ei hepgor, ond nid oedd Aelodau'r Cynulliad wedi cael y datganiad hyd nes ddiwedd yr wythnos diwethaf. Os yw hon yn strategaeth newydd gydag agenda newydd, sut felly fydd parhau â'r hen system yn adlewyrchu hynny? Hoffwn i ddeall yr hyn sydd tu ôl i feddylfryd y Llywodraeth yn hynny o beth.
I symud ymlaen at brentisiaethau iaith Gymraeg, mae nifer ohonom ni yn poeni yn fawr ynglŷn â'r ffigurau dwi wedi'u gweld gan Gymdeithas yr Iaith o 2017 i 2019. Dim ond 230 allan o 58,665, neu 0.39 y cant o'r cyfanswm, oedd yn brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydyn ni wir yn ddifrifol am gyrraedd y filiwn o siaradwyr rydym ni'n trafod yma o ddydd i ddydd, yna mae angen amryw o broffesiynau a chrefftau ar gael trwy brentisiaethau yn yr iaith Gymraeg. Sut ydych chi'n mynd i fynd ati i ehangu ar y nifer yma yn sylweddol a sicrhau bod ardaloedd priodol yng Nghymru yn gallu cael mwy o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg? Er enghraifft, os ydym ni'n cael cymdeithasau tai mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gryf, oni ddylai prentisiaethau gael mwy o fynediad i'r fath hynny o brentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg? Beth ydych chi'n mynd i'w wneud ar hyn?
Fel sydd wedi cael ei nodi yn gynharach, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn dweud bod angen gwneud lot mwy o waith i gael menywod i mewn i brentisiaethau, ac nid dim ond yn y prentisiaethau hynny y mae menywod yn cael eu cysylltu â nhw yn hanesyddol. Mae nifer o gyfleon yn y byd adeiladu, gweithgynhyrchu, ond dynion ar hyn o bryd sydd yn cael mynediad atyn nhw, ac wedyn yn cael cyflog gwell yn sgil hynny. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod yr anghysondeb yma yn dod i ben?
Rwyf wedi dod â'r mater yma i chi o'r blaen ynglŷn â potentially rhoi trafnidiaeth am ddim i bobl sydd ar brentisiaethau, os ydyn nhw, efallai, yn byw ymhell i ffwrdd o'r lle maen nhw angen ei gyrraedd. Dwi wedi cael pobl yn fy ardal i yn dweud ei bod yn amhosib iddyn nhw fynd at brentisiaeth oherwydd dŷn nhw ddim yn gallu cyrraedd y lle maen nhw'n disgwyl gorfod ei gyrraedd i wneud y brentisiaeth hynny. Felly, beth ydych chi'n ei wneud ar hynny?
Yn olaf, fe wnes i gyfarfod â Phrifysgolion Cymru ddoe ynglŷn â phrentisiaethau gradd. Roedden nhw'n dweud eu bod nhw'n rhwystredig iawn oherwydd y cyfyngiadau tynn iawn sydd ar bobl wrth geisio cael yr arian hwnnw o ystyried y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i dechnoleg ddigidol, ac maen nhw'n dweud wrthyf i fod pobl yn heidio i Loegr i gael rhan yn y cyfleoedd prentisiaeth hyn ar lefel gradd. Mae hynny'n golygu ein bod ni'n colli ein myfyrwyr gorau a disgleiriaf i Loegr oherwydd y prentisiaethau gradd hyn. Felly, roeddech chi'n dweud eich bod o bosibl yn mynd i ehangu'r meysydd y gallai pobl gael prentisiaethau gradd ynddyn nhw. Pryd ydych chi'n bwriadu gwneud hynny? Oherwydd nid yw Prifysgolion Cymru fel arfer yn gwylltio ynghylch pethau, ond roedden nhw i'w gweld wedi eu cynhyrfu'n fawr ddoe oherwydd hyn. Os ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw wedi eu cyfyngu gan yr hyn y maen nhw'n gallu ei gynnig yma yng Nghymru, yna, yn sicr, mae angen inni ymdrin â hynny.
Diolch. Rwy'n credu bod chwe chwestiwn gyda ni yma—byddaf yn gwneud fy ngorau i ateb y rhain yn gryno.
Eich pwynt cyntaf am ddarparwyr hyfforddiant preifat ac a oedd yna ddadl dros economi gymysg a symud tuag at wahanol ddarpariaeth—rwy'n credu bod hwnnw'n syniad diddorol iawn. Byddwn yn sicr yn croesawu'r cyfle i weld mwy o fentrau cymdeithasol a chydweithredol yn darparu hyfforddiant, a byddai ddiddordeb gennyf i drafod hynny ymhellach a chael unrhyw syniadau sydd gan Bethan Jenkins.
Eich cwestiwn am yr ymarfer caffael i Gymru ar Waith—bu oedi yno oherwydd pryder ynglŷn â'r fethodoleg gwerthuso a ddefnyddiwyd ac, ar sail cyngor cyfreithiol, rydym wedi penderfynu ail-redeg y fframwaith. Dyna pam y cafwyd yr oedi.
Ar gwestiwn yr iaith Gymraeg, yn y ffigurau sydd gennyf i, yn 2016-17, aseswyd ychydig dros 4 y cant o'r prentisiaethau yn ffurfiol yn y Gymraeg, a defnyddiodd 8 y cant ar ben hynny rywfaint o'r Gymraeg mewn rhan o'u hyfforddiant. Ac rwyf i o'r farn mai un o'r heriau sydd gennym ni yw nifer y bobl sy'n fodlon cwblhau eu prentisiaeth gyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond rydym ni'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld beth y gallwn ei wneud, a chyhoeddwyd cynllun ym mis Rhagfyr, gan nodi rhai camau. Felly, yn sicr nid ydym yn ddifater yn hynny o beth.
Roedd y cwestiwn ar brentisiaethau i fenywod wedi ei lunio'n dda—yn sicr, rwy'n cytuno â'r meddylfryd. Ceir nifer o wahanol fentrau eisoes yn y maes hwn, ond yn sicr gallwn wneud rhagor, a byddwn yn hapus i ysgrifennu a nodi rhywfaint o'r gweithgarwch sydd gennym ni ar waith ar hyn o bryd. Ac os oes gennych chi awgrymiadau am beth arall y gallem ni ei wneud, byddem ni'n croesawu cyfle i drafod hynny yn sicr hefyd.
Roeddech yn sôn am yr achos dros gludiant am ddim. Fel y gwyddoch, mae gennym Bapur Gwyn dan ymgynghoriad ar hyn o bryd ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae'n demtasiwn inni edrych ar wahanol grwpiau ac awgrymu y byddai cludiant am ddim yn fanteisiol iddyn nhw, ac yn sicr mae hynny'n wir. Ond credaf fod angen inni goleddu barn fwy strategol ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n strwythuro trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru i'r dyfodol, ac a oes lle i gludiant am ddim i'r boblogaeth gyfan neu rannau o'r boblogaeth fel rhan o hynny. Yn sicr, nid oes unrhyw ddewisiadau wedi eu diystyru ynglŷn â hynny, wrth i ni edrych ar gryfhau ein sector trafnidiaeth gyhoeddus.
Ac, yn olaf, o ran prentisiaethau gradd—rwy'n siŵr bod y prifysgolion wedi gwylltio oherwydd, yn Lloegr, fel y soniais i, mae'r rhaglen wedi gorwario'n wyllt, ac un o'r rhesymau am hynny yw bod cyflogwyr yn rhoi pethau fel graddau Meistr Gweinyddu Busnes, er enghraifft, yng nghategori prentisiaethau. Felly, maen nhw'n gwario arian fel dŵr ar raglenni o'r fath, gan wagio'r pwrs i gyd wrth fynd. Mae'r prifysgolion yn elwa'n fawr iawn ar hynny yn Lloegr. Fe wnewch chi faddau inni am beidio â dynwared y dull—yn ein barn ni—hedonistaidd hwnnw, a'n bod ni, yn hytrach, yn gweithredu mewn modd sy'n seiliedig ar dystiolaeth o ran yr hyn y credwn ni sy'n strategol weddus ar gyfer economi Cymru. Rydym wedi dechrau gyda thechnoleg ddigidol fel prentisiaeth gradd, rydym ar fin lansio peirianneg, ac rydym yn edrych ar feysydd eraill. Ond credwn ein bod yn iawn i gymryd dull mwy trefnus a strategol yn hytrach na dim ond ail-gategoreiddio cyrsiau gradd yn brentisiaethau i ymdrin â'r system hon o dalebau sydd ganddyn nhw yn Lloegr, ac rwy'n siŵr y byddai'r prifysgolion yn hoffi ein gweld ni'n gwneud hynny, ond byddwn ni'n gweithredu mewn modd gwahanol yng Nghymru.
Diolch i chi am eich datganiad. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n edrych ar hyn yn ddigyfaddawd, oherwydd bu llawer o bryder yn ddiweddar am bobl ifanc yn cael eu hannog i geisio addysg prifysgol, ac na fyddai hynny mewn gwirionedd yn rhoi'r math o sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael swydd dda, a'r cwbl y mae hynny'n ei gyflawni yw mynd â nhw i ddyled ariannol fawr. Felly, mae cryn berygl moesol yn y fan honno o ran yr hyn y gallai'r prifysgolion fod yn ei wneud yn achos rhai pobl ifanc nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn mynd i gael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yn sgil addysg prifysgol. Ac mae'n ymddangos i mi fod prentisiaethau yn ffordd o ailgynllunio economi'r DU rywsut, lle mae pwyslais gormodol ar yr hyn sy'n digwydd yn Ninas Llundain a'r diwydiant gwasanaethau ariannol, yn hytrach na'r hyn sydd angen iddo ddigwydd yn y sector gweithgynhyrchu, yn benodol mewn diwydiannau newydd wrth i dechnoleg newydd newid ac esblygu.
Rwy'n pryderu'n fawr am nifer y menywod sy'n mynd i swyddi mewn meysydd yn yr economi sy'n talu'n well. Yn amlwg, mae cryn lawer o fenywod yn mynd i brentisiaethau, ond maen nhw'n tueddu i fod mewn swyddi â chyflogau llai fel gofal plant a thrin gwallt. Er bod gofal plant, yn amlwg, yn yrfa anhygoel o bwysig, nid yn y fan honno y mae'r arian mawr. Yn y cyfamser, mae angen enfawr am sgiliau manwl mewn adeiladu a pheirianneg. Nid oes angen ichi fod yn gryf yn gorfforol, mae angen ichi fod yn fanwl gywir a meddu ar sgiliau dylunio da. Mae'n drawiadol nad oes dim ond 360 o fenywod yn brentisiaid, o'u cymharu â 8,300 o ddynion. Dyna i ni un fenyw am bob 23 dyn. Mae'r stori'n hollol wahanol yn y gwasanaethau cyhoeddus a gofal iechyd.
Felly, tybed a ydych chi'n cytuno â'r awgrym y gellid cymryd camau cadarnhaol, fel neilltuo lleoedd ar gyfer grwpiau gwarchodedig sy'n cael eu tan-gynrychioli mewn meysydd penodol, neu sicrhau ein bod ni, lle mae'r ymgeiswyr o'r un safon, yn derbyn yr un sy'n cael ei dan-gynrychioli. Yn yr un modd, rwyf i o'r farn ei bod yn peri pryder nad oes ond nifer fechan iawn o bobl anabl cofrestredig yn brentisiaid. Oherwydd mae'n ymddangos i mi, er eu bod yn anabl, nad yw hynny'n golygu nad ydyn nhw'n alluog iawn i fod yn brentisiaid mewn llawer o wahanol feysydd. Dim ond 1.5 y cant o'r rhai sydd ar brentisiaethau, rwy'n credu, sy'n anabl.
Y maes sydd o ddiddordeb arbennig i mi, yn ogystal â'r diwydiannau adeiladu a pheirianneg, lle credaf fod ffyrdd newydd o adeiladu yn gofyn am y sgiliau manwl hynny—mae hefyd angen sgiliau newydd er mwyn ein galluogi ni i ychwanegu gwerth at y diwydiant bwyd. Rydym yn dda iawn gyda bod yn gynhyrchwyr bwyd sylfaenol, ond nid ydym cystal am ei brosesu yma yng Nghymru mewn gwirionedd fel y gallwn ychwanegu gwerth at economi Cymru yn hytrach nag at economi rhywun arall. Tybed a allech chi roi unrhyw arwydd i ni o ran sut y gallem wella niferoedd y prentisiaethau sy'n mynd i ddulliau newydd o ddyfrhau, gan ddeall sut y gall cyfrifiaduron fod yn olrhain beth yw cydbwysedd y pridd, ac ychwanegion—mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n gofyn am sgiliau manwl ac yn sicr nid oes raid ichi fod yn gryf yn gorfforol.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei sylwadau. Mae hi'n siŵr o fod yn iawn—a dyna pam yr ydym ni'n rhoi'r pwyslais ar brentisiaethau ar lefel 3A ac yn uwch—bod y dystiolaeth yn eglur iawn bod prentisiaethau lefel uwch yn darparu'r sgiliau gwerth uwch ac yn gwella cyfleoedd bywyd y sawl sy'n eu cwblhau, a dyna pam ein bod ni wedi cymryd y penderfyniad i flaenoriaethu sgiliau ar y lefel hon. Mae'n amlwg nad yw hynny heb ei anawsterau na'i feirniaid, ond mae'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu ein bod yn iawn i wneud hynny.
Yn cydbwyso â hynny mae rhai o'r sylwadau a wnaethoch chi ar y diwedd, Jenny Rathbone, am yr angen i gefnogi pobl mewn diwydiannau sylfaenol sy'n draddodiadol wedi bod â sgiliau is. Mae angen inni greu cyfres o sgiliau fel y gall pobl esgyn yr ysgol. Mae'r enghreifftiau a roesoch chi yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn dangos, hyd yn oed mewn meysydd fel cynhyrchu bwyd a gofal, y ceir gweithgarwch gwerth uwch ychwanegol bob amser. Mae datblygiad amaethyddiaeth fanwl, er enghraifft, yn gofyn am fwy o wybodaeth dechnegol.
Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei adolygu'n barhaus. Mae'r garfan gyntaf o brentisiaethau gradd yn canolbwyntio ar dechnoleg ddigidol a pheirianneg, a fyddai'n sicr yn agored i rai o'r dulliau yr ydych chi wedi eu trafod. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cadw llygad arno fel y mae'r dystiolaeth yn dod i'r amlwg. A dyna bwynt allweddol ein dull ni o weithredu yng Nghymru—mae hyn yn cael ei arwain gan dystiolaeth. Rydym yn cymryd y dystiolaeth oddi wrth y partneriaethau sgiliau rhanbarthol, oddi wrth wybodaeth am y farchnad lafur, ac oddi wrth gyflogwyr wrth gadw ein cynnig dan adolygiad, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n digwydd i'r un graddau yn Lloegr.
Mae'r pwyntiau a wnaed ar anabledd a neilltuo lleoedd ar gyfer grwpiau gwarchodedig yn rhai da. Lansiwyd ein cynllun gweithredu ar anabledd yn ddiweddar, fel y soniais i, a gwnaed hyn trwy ymgynghori â chyrff anableddau. Mae'n nodi ein hagenda uchelgeisiol o ehangu cyfleoedd hyfforddiant ar gyfer pobl anabl. Ond mae hwn yn faes yn gyffredinol nad ydym ni'n cyflawni'n ddigonol ynddo, ac yn sicr byddai'n dda gennyf gael gwybod am unrhyw syniadau sydd gennych chi am bethau y dylem ni fod yn eu gwneud nad ydym ar hyn o bryd yn eu gwneud nac yn ymgynghori arnyn nhw. Ond roeddech chi'n iawn i'n herio ni yn hynny o beth. Mae'r un peth yn wir am fater y rhywiau. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau. Fel y dywedais, fel rhan o'n pecyn cymorth cydraddoldeb, rydym wedi cynhyrchu modiwlau ar ryw ac ar ragfarn, ac rydych chi'n iawn i nodi'r mater. Rydym wedi cymryd rhai camau; rwy'n siŵr bod mwy y gallem ni ei wneud, ac yn sicr byddai gennym ddiddordeb mewn unrhyw awgrymiadau sydd gan yr Aelodau.
A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Dirprwy Weinidog, rhoddodd UKIP groeso i'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2017 eich bod wedi ymrwymo i sefydlu 100,000 o brentisiaethau dros gyfnod o bum mlynedd. Am lawer yn rhy hir bu hon yn elfen o dwf economaidd a gafodd eu hesgeuluso. Rydym ni'n credu hefyd y bu canolbwyntio ar brentisiaethau uwch lefel 3 yn benderfyniad doeth, gan fod meincnodi wedi dangos mai yn y fan hon y ceir yr elw mwyaf ar fuddsoddiad. Dywedwyd ar y pryd hefyd y byddai gwell mesur ar berfformiad, llwybrau mwy amlwg, mwy o ymwybyddiaeth, niferoedd cynyddol yn cymryd pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, ac integreiddio cynyddol rhwng prentisiaethau ac addysg bellach. A wnaiff y Dirprwy Weinidog gadarnhau bod y dyheadau hyn hefyd yn cael eu cyflawni, yn ogystal â'r cynnydd yn y niferoedd?
Dirprwy Weinidog, mae'r rhai a gafodd eu magu yn y 1960au a'r 1970au wedi elwa ar brentisiaethau a oedd yn para am dros bum mlynedd. Dysgodd y rhain i'r cyfranogwyr nid yn unig y sgiliau ar gyfer eu gwaith, ond sut i ymddwyn yn y gweithle a rhoi ymdeimlad o gyfrifoldeb iddyn nhw. Yn wir, gellid dweud fod hynny wedi gwneud i'r rhai dan sylw fod yn fwy uchelgeisiol, gan eu galluogi i gyfranogi mewn rheolaeth a swyddi uwch o fewn amgylchedd eu gwaith. Canlyniad net hyn yw ei fod wedi rhoi gwerth ychwanegol i'r gymdeithas gyfan.
Mae'n argoeli'n dda fod 31,360 o raglenni dysgu prentisiaeth wedi cychwyn yn 2017-18—cynnydd, rwy'n credu, o 30 y cant o'i gymharu â 2016-17—a 56,635 ers cyflwyno'r targed o 100,000. Ond rwy'n sylwi bod y niferoedd mwyaf yn y sector cyhoeddus a gofal iechyd. Er bod y rhain, wrth gwrs, i'w croesawu, byddai'n braf gweld cynnydd cymharol mewn prentisiaethau yn y sector preifat. Unwaith eto, mae'n hyfryd nodi bod y rhaglen hon mor llwyddiannus, a'i bod wedi rhagori ar ei thargedau gwreiddiol. Serch hynny, rydym yn clywed bod y llwyddiant hwn bellach yn rhoi straen ar gyllid. Ond, yn sicr, Dirprwy Weinidog, mae'r rhaglen hon gyn bwysiced i'n heconomi ni a'r prentisiaid sy'n ymgysylltu â hi fel ei bod yn hanfodol bod y cyllid ar gael. Nid yw hyn ar gyfer y presennol yn unig, ond hefyd ddyfodol Cymru a'r rhai sy'n dewis byw a gweithio yma. Mae'r gwobrau yno i'w gwireddu. Daw'r prawf, wrth gwrs, ar ddiwedd y prentisiaethau hyn, pan welwn faint sy'n cael swyddi amser llawn amser ac o fewn disgyblaethau eu prentisiaethau.
Un cwestiwn y mae'n rhaid imi ei ofyn yw: a yw'r ffigur o 56,635—cyflawniad o dros 50 y cant—yn cynnwys y rhai a oedd eisoes mewn prentisiaethau cyn y cynllun ac wedi cael eu sugno i'r cynllun newydd, neu a ydyn nhw'n newydd sbon?
Hefyd, onid yw'r Gweinidog yn cytuno na ellir cael cydraddoldeb mewn parch rhwng cymwysterau galwedigaethol a rhai yn y maes academaidd heb i brentisiaid gael eu hariannu yn yr un ffordd yn union â'r rhai mewn prifysgolion neu golegau?
Wel, hoffwn i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau. O ran y cwestiwn ar gyllid, mae rhywfaint o gamarweiniad wedi digwydd ar ran Llywodraeth y DU ynglŷn ag ariannu'r prentisiaethau, oherwydd ni roddwyd arian ychwanegol i adlewyrchu'r ardoll. Treth ar fusnesau yw'r ardoll, mewn gwirionedd, ac nid ydym wedi gweld y cyllid yn cael ei drosglwyddo—cafodd rhyw £120 miliwn ei dorri gan y Llywodraeth yn Lloegr ar brentisiaethau'r sector cyhoeddus, ac wele, ymddangosodd £120 miliwn yn ein cyllideb ni er mwyn ariannu'r cynllun hwn. Felly, nid yw'r arian wedi cynyddu'n gyffredinol, ac, fel y nodais ar y dechrau, er bod ein dull ni wedi ei gyfiawnhau yn y ffordd y mae ein cynllun ar y trywydd iawn, mae'r cynllun yn Lloegr dros ei gyllideb a 25 y cant yn is na'r targed. Felly, rwy'n credu ein bod yn hyderus mai ein dull gweithredu ni yw'r dull cywir. Ac, fel y gofynnodd David Rowlands, nid canolbwyntio ar y niferoedd yn unig yw hyn, ond mae'n rhan o weithredu economaidd ehangach lle y byddwn yn teilwra ein prentisiaethau i gefnogi economi Cymru, i ddarparu sgiliau uwch sy'n canolbwyntio ar anghenion economïau rhanbarthol, i gynnig gwell llwybrau o addysg i gyflogaeth a hefyd i annog mwy o gyfraniad gan gyflogwyr. Nid mater i'r wladwriaeth yn unig yw darparu prentisiaethau; mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i fusnesau ei wneud. Rydym ni'n hapus i weithio mewn partneriaeth, ond, yn rhy aml, mae rhai cyflogwyr yn gobeithio gwthio eu costau ar y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni fod yn hyderus i'w wthio yn ôl.
O ran y cwestiwn penodol ynghylch a oedd y ffigur o 56,635 yn cynnwys pobl sydd eisoes mewn cyflogaeth neu beidio, gallaf gadarnhau nad yw'r ffigur hwnnw yn cynnwys pobl sydd wedi gadael yn gynnar neu sydd wedi trosglwyddo arnyn nhw, ac felly mae hwn yn ffigur annibynnol.
Diolch i chi, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Mae prentisiaethau yn hollbwysig, ac rwyf i o'r farn gref mai prentisiaid heddiw yn arweinwyr y dyfodol. Fe glywsom ni'n gynharach fod yr wythnos ddiwethaf yn Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau. I nodi hynny, cefais gyfle ardderchog i fynd yn ôl at fy ngwreiddiau fel prentis o beiriannydd. Cefais fy nhywys o gwmpas DRB Group ar stad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, lle y treuliais i fy amser yn brentis, ac roeddwn i'n gallu gweld sut y mae'r cwmni wedi newid, ac wedi symud ymlaen ers i mi dreulio amser yno. Cefais gyfle hefyd i gwrdd ag un o'm hetholaeth a oedd wedi ennill gradd prifysgol, Joel Thomas, sydd bellach wedi mynd yn ôl i astudio i fod yn ddadansoddwr cymorth i brentisiaid er mwyn ennill y sgiliau gwerthfawr hynny yr ydych yn eu dysgu wrth fod yn y gweithle.
Rydym ni newydd glywed yng nghyfraniad David Rowlands nawr am gyfleoedd wrth dyfu i fyny yn yr 1960au a'r 1970au. Felly rwy'n croesawu cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol prentisiaethau i fynd i'r afael â'r bylchau mewn sgiliau a chyfleoedd, oherwydd rydym yn dal i deimlo effeithiau Llywodraeth y DU a arweiniwyd gan Thatcher yn ôl yn y 1980au ar y mater hwn.
Rwyf eisiau dechrau drwy wneud y pwyntiau yr wyf wedi eu gwneud o'r blaen gerbron yn y Siambr hon—rwy'n ymwybodol fy mod wedi eu gwneud gerbron Gweinidogion blaenorol yn y Llywodraeth a oedd â phrentisiaethau a dysgu gydol oes yn eu portffolios. Mae'n debyg i gyfraniad Bethan Sayed, sy'n ymwneud â hyfforddi prentisiaid a sut yr ydym yn eu hyfforddi nhw.
Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol ac yn bwysig iawn, iawn i ddyfodol prentisiaid a phrentisiaethau'r dyfodol i gael cydweithwyr yn y gwaith â'r sgiliau angenrheidiol i drosglwyddo eu gwybodaeth i'r prentis? Gwyddom y bydd llawer o'r rhai sydd ar hyn o bryd yn hyfforddi prentisiaid yn cyrraedd oedran ymddeol mewn rhai diwydiannau, fel y gwnaeth fy mentor i pan ymddeolodd yn ddiweddar. Felly, Dirprwy Weinidog, fy marn i yw bod angen inni hyfforddi prentisiaid a raddiodd yn ddiweddar i fod yn hyfforddwyr, a bydd hynny'n ein galluogi ni i gyflawni'r canlyniadau sy'n angenrheidiol i'r dyfodol.
Felly, gyda hynny mewn golwg, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i geisio ymdrin â'r mater hwn? A wnaiff y Dirprwy Weinidog addo y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, colegau a diwydiant, er enghraifft, i greu pecyn ar gyfer prentisiaid graddedig i ddysgu'r sgiliau angenrheidiol i drosglwyddo eu gwybodaeth nhw i brentisiaid y dyfodol?
Hefyd, ar y mater o sicrhau bod gennym ni ystod wahanol o brentisiaethau, sydd hefyd yn rhywbeth pwysig iawn i wneud yn siŵr bod gennym ni economi amrywiol, caiff fy etholaeth i ei galw'n gartref i beirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg, a hynny'n briodol, ac mae gennyf i lawer i'w ddweud am hynny oherwydd dyna yw fy nghefndir i. Fodd bynnag, ceir cyfleoedd mewn llawer o sectorau eraill yn yr economi, ac mae angen inni wneud mwy i greu'r cyfleoedd hynny yn y sectorau na fyddai pobl yn eu hystyried yn draddodiadol yn feysydd ar gyfer prentisiaeth.
Dirprwy Weinidog, rwy'n gwybod eich bod wedi gwneud hyn eisoes, ond a wnewch chi barhau i weithio i sicrhau bod pobl yn cael ystod amrywiol o gyfleoedd i greu ac ennill prentisiaethau mewn marchnadoedd nad ydyn nhw yno ar hyn o bryd? Ni ddylem byth anghofio mai buddsoddiad yn ein dyfodol yw prentisiaethau. Rydym yn rhoi cyfle i'r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol i ffynnu, rydym yn rhoi cyfle i aelodau ein cymuned ailhyfforddi a gwella eu sgiliau, ac mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn ni i'w cefnogi nhw, i gefnogi'r diwydiant a chefnogi prentisiaethau. Diolch.
Diolch, Jack Sargeant, am y sylwadau hynny, ac mae'n rhaid imi ddweud bod tystiolaeth uniongyrchol gan rywun sydd wedi bod trwy'r system prentisiaeth yn weddol ddiweddar yn ychwanegu'n fawr at ddyfnder y drafodaeth a gawn yn ein Cynulliad Cenedlaethol. A gwn o'm profiad i, ar ôl bod mewn cyfarfodydd gyda Jack yn Tata, y gall ef dynnu ar ei brofiad ei hun i lywio'r drafodaeth honno, ac rwyf i o'r farn bod hynny'n ychwanegu llawer iawn i'n Senedd ni.
Ar bwynt gweithlu sy'n heneiddio a gwybodaeth yn cael ei cholli, rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt treiddgar iawn ynglŷn â gwerth yr hyfforddiant y gallai prentisiaid graddedig ei roi. Byddaf yn sicr o roi sylw i hynny ac yn ei drafod gyda swyddogion ac yn ysgrifennu ato gyda'n hymateb ni.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.