Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 12 Mawrth 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Lluniwyd tirwedd ac arfordir Cymru gan rymoedd naturiol grymus ac ysbrydoledig sy'n parhau i ddylanwadu ar le a sut yr ydym yn byw. Un o'r heriau yr ydym ni'n eu hwynebu yw sut orau i liniaru'r risgiau ac addasu i newid fel unigolion, cymunedau ac fel cenedl. Yn y cyd-destun hwn, rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar y gwaith pwysig yr ydym ni'n ei wneud i gynnal gweithgarwch rheoli risg arfordirol a llifogydd yng Nghymru.
Gall llifogydd gael effaith ddinistriol a pharhaol ar fywydau'r rhai sy'n dioddef yr effeithiau hyn, a dyna pam fod hynny'n dal i fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Yr hydref diwethaf, roedd Storm Callum yn ein hatgoffa ni pam fod ein gwaith parhaus a'r buddsoddi yn y maes hwn yn parhau i fod yn hanfodol. O ganlyniad i'r storm honno, effeithwyd ar dros 270 eiddo ledled Cymru gan lifogydd, gyda mwy o ddifrod i gartrefi, ysgolion, ffyrdd a siopau ar draws y wlad—y pethau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw ac yn aml yn eu cymryd yn ganiataol yn ein bywydau bob dydd. Mae digwyddiadau o'r fath yn ein hatgoffa pam fod angen inni fod yn barod, pam ei bod hi'n bwysig ein bod yn gwbl hyddysg ac yn ymwybodol o'r risgiau sy'n ein hwynebu, a pham fod yn rhaid inni barhau i gynyddu cydnerthedd yn ein cymunedau.
Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru risg llifogydd a gwaith amddiffyn yr arfordir ar draws Cymru. Er budd y rheini sy'n byw â'r risg fwyaf, rydym ni'n blaenoriaethu ein buddsoddi er mwyn amddiffyn eiddo. Eleni rydym ni wedi gweld cynlluniau ym Morth-y-gest yng Ngwynedd, Mochdre yng Nghonwy, Y Rhath yng Nghaerdydd, Porthcawl ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ym Mhontarddulais, y bydd y Prif Weinidog a minnau'n eu hagor yn swyddogol yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae'r gweithiau hyn yn unig wedi lleihau'r risg i dros 960 eiddo, sy'n golygu bod llawer o deuluoedd a chymunedau bellach yn fwy diogel nag yr oedden nhw ac yn gallu byw heb y pryderon a ddaw yn sgil tywydd garw.
Heddiw, fe rannaf drosolwg o'r rhaglenni amddiffyn yr arfordir a llifogydd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ac amlygu rhai o'r meysydd allweddol o waith y byddwn yn eu datblygu. Maen nhw'n cynnwys ymgynghori ynghylch strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol a sefydlu pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol statudol newydd ar gyfer Cymru. Bydd y flwyddyn ariannol sy'n dod yn gweld dechrau cyfnod adeiladu tair blynedd ar weithiau i ddiogelu ein cymunedau arfordirol yn well. Bydd y rhaglen rheoli risg arfordirol yn darparu buddsoddiad o dros £150 miliwn ar draws Cymru, gan leihau risg i dros 18,000 eiddo. Mae'r cynlluniau arfordirol sy'n dechrau'r flwyddyn nesaf yn cynnwys dwyrain y Rhyl, Aberafan a'r Felinheli. Rwyf hefyd wedi neilltuo cyllid o gyllideb gyfalaf y flwyddyn hon ar gyfer dylunio a datblygu cynlluniau yn y dyfodol. Rwy'n annog awdurdodau lleol i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, gan gydnabod y cyfle unigryw y mae'r rhaglen hon yn ei gynnig.
Yn ychwanegol at y rhaglen rheoli risg arfordirol, dros y 12 mis nesaf byddwn yn buddsoddi dros £50 miliwn ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru, gan flaenoriaethu lleihau perygl i eiddo. Mae hyn yn cynnwys rhaglen gyfalaf o £27 miliwn ar gyfer cynlluniau newydd, cynnal a chadw asedau presennol a datblygu cynlluniau yn y dyfodol. Byd yr arian hwn, er enghraifft, yn gymorth i gwblhau cynlluniau ym Miwmares a Thalgarth, yn ogystal â dechrau gwaith adeiladu yn Llansannan, Llan-maes, Casnewydd a'r Trallwng. Yn sgil cwblhau'r cynlluniau yn y rhaglen, bydd dros 1,200 eiddo, gan gynnwys dros 850 o gartrefi, ledled Cymru yn elwa.
Yr hyn sydd hefyd yn bwysig yw datblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a byddwn yn darparu dros £2.8 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru. Bydd hyn yn cefnogi datblygu a dylunio cynlluniau newydd pwysig ar gyfer y dyfodol, gan gynyddu diogelwch a chydnerthedd mewn lleoedd fel Llangefni, Cwmbach, Aberteifi a Chastellnewydd Emlyn.
Byddaf hefyd yn parhau i neilltuo £1 miliwn ar gyfer y grant gwaith graddfa fechan, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol ymgymryd â mân gynlluniau a gwaith cynnal a chadw er budd cymunedau. Dros y pedair blynedd diwethaf, rydym ni wedi buddsoddi dros £5.8 miliwn fel hyn, ac mae wedi cael effaith wirioneddol, gan helpu mwy na 2,200 eiddo ar draws Cymru.
Mae Cymru eisoes wedi gosod y meincnod o ran ei hymagwedd at systemau draenio cynaliadwy, neu SuDS, ar gyfer datblygiadau newydd. Mae hyn yn ategu ein dull o reoli dŵr mewn ffordd fwy naturiol, ac rwy'n falch o weld hyn yn dod i'r amlwg yn y rhaglen lifogydd.
Yn y flwyddyn sydd i ddod, byddwn yn cefnogi cynlluniau sy'n cynnwys rheoli llifogydd yn naturiol ym Metws-y-coed ac Abergele yng Nghonwy ac yng Nghwmaman yn Rhondda Cynon Taf. Rwyf hefyd yn cael fy nghalonogi o weld nifer o gynlluniau nid yn unig yn edrych ar faterion mewn un lleoliad, ond yn ymdrin â dalgylchoedd cyfain, gan fynd i'r afael â risg ar draws ardal ehangach. Mae hyn yn rhywbeth yr wyf eisiau ei hybu a byddaf yn nodi ein syniadau yn ein strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer rheoli llifogydd ac erydu arfordirol.
Wrth inni edrych yn ehangach, mae cyfleoedd yn codi i weithio mewn partneriaeth ag eraill y bydd eu hasedau yn elwa o'r herwydd. Mae ceisio cyfraniadau o ffynonellau o'r fath yn hanfodol yn y cyfnod hwn o gyllidebau heriol, gwneud y gorau o'n buddsoddiad ac adeiladu cydnerthedd ehangach. Mae'n galondid gweld bod ystyriaethau o'r fath eisoes yn dechrau digwydd, gyda chymdeithasau tai, darparwyr trafnidiaeth a chyfleustodau yn cael eu nodi'n bartneriaid posibl. Mae angen inni sicrhau bod hyn yn parhau.
Gyda buddsoddiad sylweddol yn digwydd ar draws y wlad, rwyf eisiau gweld manteision y cyllid hwn yn cael eu gwireddu. Rhan allweddol o hyn yw dangos effeithiau asedau newydd a gwell yn ein mapiau llifogydd a'r wybodaeth ar-lein. Mae hyn yn helpu inni wireddu'r gwelliannau economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil gwneud y gymuned yn fwy diogel. Mae hefyd yn galluogi pobl Cymru i ddeall y risgiau y maen nhw'n eu hwynebu, gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y lleoedd y maen nhw'n byw ynddyn nhw a gwybod sut i gynnal eu hunain petai llifogydd yn digwydd. Yn ein strategaeth newydd, rwy'n gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ganolbwyntio ar y gwelliannau hyn a sicrhau y darperir yr wybodaeth ddiweddaraf yn flynyddol i ddangos effaith ein buddsoddiad parhaus. I gefnogi'r gwaith hwn, rwyf unwaith eto yn bwriadu cynnal cyllideb refeniw Cyfoeth Naturiol Cymru yn y flwyddyn sy'n dod, gan gydnabod y gwaith pwysig y mae hyn yn ei gefnogi, gan gynnwys y ddarpariaeth o wybodaeth, gweithgareddau codi ymwybyddiaeth, cynnal a chadw asedau a gwaith ymchwil.
Byddaf yn ymgynghori ynghylch ein strategaeth genedlaethol newydd y gwanwyn hwn, a fydd â phwyslais cryf ar wybodaeth a darpariaethau. Bydd yn egluro swyddogaethau a chyfrifoldebau, ac yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y polisi, gan gynnwys annog rheoli risg llifogydd yn naturiol, ac ymgorffori argymhellion o adroddiadau diweddar. Bydd y strategaeth yn pwysleisio pwysigrwydd mapio risg llifogydd i lywio penderfyniadau ynghylch ble'r ydym ni'n buddsoddi ac yn ategu ein polisi cynllunio i gyfeirio datblygu oddi wrth ardaloedd o risg uchel. I gefnogi hyn, bydd mapiau risg llifogydd newydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn diwedd y flwyddyn.
Hoffwn orffen, Dirprwy Lywydd, drwy gyhoeddi bod recriwtio ar gyfer y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol newydd wedi'i gwblhau. Bydd y pwyllgor yn darparu cyngor strategol lefel uchel i Weinidogion Cymru ac yn hybu arfer gorau, gan helpu i sicrhau ein bod yn parhau i arwain y ffordd yn y maes hwn a dysgu o waith da sy'n digwydd mewn mannau eraill.
Mae'r datganiad heddiw yn nodi sut y bydd y Llywodraeth hon yn rhoi rheoli ein hamgylchedd yn gynaliadwy wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau er mwyn lleihau risg arfordirol a llifogydd i gartrefi a busnesau ledled Cymru.