Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 12 Mawrth 2019.
Diolch ichi, Llywydd. Adroddwyd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol cyntaf Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â'r Bil Masnach ar 16 Mawrth 2018, ac ym mis Hydref 2018 adroddwyd hefyd ar y rheoliadau i'w gwneud o dan y Bil. Buom yn ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol yn ein cyfarfod yr wythnos diwethaf. Nid oeddem mewn sefyllfa, wrth gwrs, i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog oherwydd yr amserlen dynn ar gyfer cyflwyno adroddiad. Cyflwynwyd ein hadroddiad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ddoe, ac mae yna nifer o bwyntiau yr hoffwn dynnu sylw atynt.
Rydym wedi nodi sylwadau Llywodraeth Cymru ynghylch arfer pwerau cydredol yng nghymalau 1 a 2 o'r Bil, a'r ymrwymiadau a gafwyd. Mae'r ymrwymiadau hyn, fel y soniodd y Gweinidog, yn ymddangos fel petaent yn adlewyrchu'r egwyddorion a nodir yn y cytundeb rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael). Byddem yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i naill ai gyhoeddi dogfen sy'n nodi'r ymrwymiadau hyn yn llawn, neu i sicrhau gwelliant priodol i'r cytundeb rhynglywodraethol presennol.
Rydym, fodd bynnag, yn tynnu sylw'r Cynulliad at y pryderon a fynegwyd gennym ar y gwahaniaethau o ran dehongli rhwng y Pwyllgor hwn a Llywodraeth Cymru ynghylch y cytundeb rhynglywodraethol. Yn benodol, rydym yn pryderu ynghylch y gwahaniaeth barn ar beth yw polisi newydd a'r canlyniadau anfwriadol posibl sy'n codi ar gyfer cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, y mae rhai ohonynt eisoes wedi'u nodi.
Mae yna hefyd bryderon ynghylch cais y Confensiwn Sewel gan ei fod yn berthnasol i ganiatâd deddfwrfeydd datganoledig mewn cysylltiad â mesurau Llywodraeth y DU. Mae statws Sewel a'r ddibyniaeth arno mewn deddfwriaeth sy'n ymyrryd ar feysydd cymhwysedd datganoledig yn fater o bryder, ac yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor yn rhoi sylw cynyddol iddo. Mae Confensiwn Sewel yn cynnig darpariaeth na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn deddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli. Yn ein barn ni, mae angen egluro beth yw ystyr hyn a'r graddau y gellir dibynnu arno bellach i amddiffyn cymwyseddau datganoledig.
Am y rheswm hwnnw, byddem yn croesawu eglurhad gan y Gweinidog ynghylch a oes yna unrhyw eithriadau i'r ymrwymiad na fydd Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rheol yn defnyddio'r pwerau mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru. Rydym yn gofyn hyn gan y tynnir sylw at eithriad o'r fath mewn gofynion tebyg a nodir yn Rhan 5 o'r nodyn cyfarwyddyd datganoli sy'n ymwneud a deddfwriaeth sylfaenol Seneddol a'r Cynulliad, sy'n effeithio ar Gymru.
Mae Rheol Sefydlog 30C yn nodi rhai gofynion penodol mewn amgylchiadau lle mae Gweinidogion Cymru yn cydsynio i Weinidogion y DU yn gweithredu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Yn unol â'r egwyddorion sydd wedi arwain at fabwysiadu ymrwymiadau newydd yn ymwneud â'r Bil Masnach, credwn y dylid diwygio Rheol Sefydlog 30C i fod yn gymwys i'r Bil Masnach unwaith y daw i rym.
Codwyd pryderon gennym ynglŷn â chwmpas y pwerau gwneud rheoliadau yn y Bil yn ein hadroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gwreiddiol Llywodraeth Cymru ac yn ein hadroddiad ar graffu ar y Rheoliadau a wneir o dan y Bil. Ein prif bryder oedd bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Gallai unrhyw reoliadau o'r fath i ddiwygio Deddf 2006 addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. Ymhellach, dim ond Gweinidogion y DU allai wneud rheoliadau o'r fath a byddent yn cael eu gosod gerbron Senedd y DU yn unig. Tra byddai rheoliadau o'r fath bellach yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, rydym yn ailadrodd yr egwyddor gyfansoddiadol na ddylid addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU.
Er bod sicrwydd na fydd pwerau gwneud rheoliadau yn cael eu defnyddio i addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, nid yw'r sicrwydd hwnnw, wrth gwrs, wedi eu rhwymo mewn cyfraith. Rydym hefyd yn nodi ymrwymiadau nad ydynt yn rhai deddfwriaethol a gafwyd mewn cysylltiad â gweithgareddau'r awdurdod rhwymedïau masnach. Fodd bynnag, mae diffyg eglurder ynghylch swyddogaeth y corff newydd hwn a pha wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i alluogi'r Cynulliad i graffu ar weithgareddau'r awdurdod hwnnw.
Rydym yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi manylion llawn yr ymrwymiadau ac yn darparu gwybodaeth am weithrediad yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, a chredwn y dylai wneud hynny cyn gynted â phosibl. Diolch ichi, Llywydd.