Part of the debate – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 13 Mawrth 2019.
Mae yna ddau enwebiad wedi dod i law, ac felly fe fydd y bleidlais ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor yn cael ei chynnal drwy bleidlais gudd. A bydd y bleidlais gyfrinachol yna yn cael ei chynnal yn ystafell briffio 13 yn y Senedd rhwng 1.45 p.m. a 3.30 p.m. y prynhawn yma. Y clercod fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r broses bleidleisio a'r broses o gyfri'r pleidleisiau, a byddaf i'n cyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd yn y Siambr yn ddiweddarach y prynhawn yma. A chofiwch fod gan bob Aelod o'r Cynulliad yma yr hawl i bleidleisio.