– Senedd Cymru am 1:30 pm ar 13 Mawrth 2019.
Ddoe, cytunodd y Cynulliad ar gynnig, o dan Reol Sefydlog 17.2A, i bennu Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau i'r grŵp Ceidwadol. Rwyf nawr yn gwahodd enwebiadau, o dan Reol Sefydlog 17.2F, i ethol y Cadeirydd. Dim ond Aelod o'r grŵp Ceidwadol a all gael ei enwebu'n Gadeirydd, a dim ond Aelod o'r un grŵp gwleidyddol—y grŵp Ceidwadol—all gynnig yr enwebiad. Rwy'n gwahodd enwebiadau, felly, ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. A oes unrhyw enwebiadau?
Rwy'n enwebu Janet Finch-Saunders.
Diolch. A oes rhagor o enwebiadau?
Rwy'n enwebu Mark Isherwood.
Diolch. A oes rhagor o enwebiadau? Unrhyw enwebiad arall? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu'r enwebiadau?
Gwrthwynebu.
Ni ddylwn fod wedi gofyn y cwestiwn, mewn gwirionedd. Felly, hyd yn oed os dywedodd 'gwrthwynebu', ni ddylai'r cwestiwn fod wedi’i ofyn. [Chwerthin.]
Mae yna ddau enwebiad wedi dod i law, ac felly fe fydd y bleidlais ar gyfer Cadeirydd y pwyllgor yn cael ei chynnal drwy bleidlais gudd. A bydd y bleidlais gyfrinachol yna yn cael ei chynnal yn ystafell briffio 13 yn y Senedd rhwng 1.45 p.m. a 3.30 p.m. y prynhawn yma. Y clercod fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r broses bleidleisio a'r broses o gyfri'r pleidleisiau, a byddaf i'n cyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd yn y Siambr yn ddiweddarach y prynhawn yma. A chofiwch fod gan bob Aelod o'r Cynulliad yma yr hawl i bleidleisio.