Grŵp 10: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliant 10)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:04, 13 Mawrth 2019

Diolch, Llywydd. Dwi'n cynnig gwelliant 20.

Mae adran 65 o'r Bil yn cyfeirio at yr ombwdsmon yn gweithio ar y cyd â phersonau penodedig. Mae is-adran 2 yn manylu'r personau penodedig y mae’n ofynnol i’r ombwdsmon eu hysbysu ac ymgynghori â nhw wrth ymchwilio i faterion y gallai’r personau penodedig hynny gynnal ymchwiliad amdanyn nhw. Mae'r rhain wedi’u nodi ar wyneb y Bil, wrth gwrs, sef y comisiynydd plant, y comisiynydd pobl hŷn, comisiynydd cenedlaethau’r dyfodol, Comisiynydd y Gymraeg, a, lle mae’r mater yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol, Gweinidogion Cymru.

Nawr, mae modd diwygio is-adran 2 drwy reoliad yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol er mwyn ychwanegu neu ddileu person penodedig. Diben y gwelliant hwn yn syml yw cadarnhau, er eglurder, fod rheoliadau a wneir o dan adran 65(6) i'w gwneud gan Weinidogion Cymru.