Grŵp 11: Adolygu’r Ddeddf (Gwelliannau 39, 40, 41, 42)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:07, 13 Mawrth 2019

Dwi innau hefyd yn hapus i gefnogi y grŵp yma o welliannau. Maen nhw’n gwneud mân newidiadau i’r Bil i sicrhau bod y rhwymedigaethau ar y Cynulliad yn gymwys i’r Cynulliad yn hytrach nag i un o’i bwyllgorau. Wrth ei ystyried e, fel roedden ni'n clywed, gyda gwelliant 43 y byddwn ni’n ei drafod yn y grŵp nesaf, mi fydd hyn yn caniatáu i’r Cynulliad, drwy Reolau Sefydlog, benderfynu sut i ymgymryd â’r rhwymedigaethau statudol y mae’r Bil yn eu gosod arno.