– Senedd Cymru am 5:05 pm ar 13 Mawrth 2019.
Y grŵp nesaf yw grŵp 11, ac mae'r gwelliannau yma yn ymwneud ag adolygu'r Ddeddf. Gwelliant 39 yw'r prif welliant yn y grŵp, a dwi'n galw ar Suzy Davies i gynnig y gwelliant ac i siarad am y gwelliannau eraill.
Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 39, gan siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn.
Mae'r gwelliannau hyn yn cyfeirio at adran 72 o'r Bil, sy'n golygu bod gan y Cynulliad gyfle i adolygu gwaith yr ombwdsmon, rhywbeth rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom yn ei gymeradwyo, yn arbennig gan fod yr ombwdsmon yn uniongyrchol atebol i ni. Mae'r gwelliannau hyn yn dileu'r cyfeiriad at bwyllgor Cynulliad oddi ar wyneb y Bil, ac yn gosod dyletswydd statudol ar y Cynulliad i fod yn gyfrifol am yr adolygiad hwnnw yn ei le. Gan fod y Cynulliad cyfan yn gwneud y statud, credaf y dylem lynu at yr egwyddor fod y Cynulliad cyfan yn gyfrifol am ei hadolygu, ac mae'n briodol fod y Bil yn gosod y swyddogaethau hyn ar ysgwyddau'r Cynulliad, yn hytrach nag ar bwyllgorau unigol yn uniongyrchol. Fel y soniais, byddwn yn siarad am welliant 43 yn fuan, sy'n caniatáu i'r Cynulliad ddirprwyo'r swyddogaethau hyn i bwyllgor, a thrwy'r Rheolau Sefydlog—dyna'r ffordd briodol o'i wneud, yn hytrach na rhoi dyletswydd ar bwyllgor Cynulliad ar wyneb y Bil. Felly, rwy'n argymell y newidiadau hyn i'r holl Aelodau. Diolch.
Gweinidog.
Mae'r gwelliannau hyn, fel yn achos y rhai a drafodwyd yng ngrŵp 2, yn diweddaru'r swyddogaethau a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol, gan sicrhau y rhoddir swyddogaethau i'r Cynulliad, yn hytrach na'n uniongyrchol i bwyllgor. Ac fel gyda grŵp 2, bydd hyn yn alinio'r Bil â deddfwriaeth arall, megis Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2011, ac rwy'n hapus i gefnogi'r gwelliannau hyn.
Dwi innau hefyd yn hapus i gefnogi y grŵp yma o welliannau. Maen nhw’n gwneud mân newidiadau i’r Bil i sicrhau bod y rhwymedigaethau ar y Cynulliad yn gymwys i’r Cynulliad yn hytrach nag i un o’i bwyllgorau. Wrth ei ystyried e, fel roedden ni'n clywed, gyda gwelliant 43 y byddwn ni’n ei drafod yn y grŵp nesaf, mi fydd hyn yn caniatáu i’r Cynulliad, drwy Reolau Sefydlog, benderfynu sut i ymgymryd â’r rhwymedigaethau statudol y mae’r Bil yn eu gosod arno.
Ydy Suzy Davies eisiau ymateb?
Diolch ichi, Lywydd. Dim ond diolch i'r Aelodau am roi ystyriaeth ddifrifol i'r gwelliannau hyn. Diolch.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 39.
Gwelliant 40, Suzy Davies.
Cynnig. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 40? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 40.
Gwelliant 41, Suzy Davies.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 41? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 41.
Gwelliant 42, Suzy Davies.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 42? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbynnir gwelliant 42.