Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 13 Mawrth 2019.
Dwi innau'n hapus i gefnogi gwelliant 43. Fel dywedais i yn y grŵp blaenorol, mi fydd y gwelliant yn caniatau inni fel Cynulliad wneud darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog er mwyn arfer swyddogaethau ynghylch adolygu'r Ddeddf, a hefyd ynghylch penodi'r ombwdsmon. Wrth gwrs, mae hyn yn debyg i’r ffordd y mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) yn gweithio o ran goruchwylio’r archwilydd cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru.