Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 13 Mawrth 2019.
Wel, fel yr awgrymoch, Lywydd, rwyf am anwybyddu sylwadau tra amharchus arweinydd Plaid Cymru. Mae'r rhain yn ddyddiau gwirioneddol ddifrifol, Lywydd, gyda phenderfyniadau difrifol iawn yn wynebu ein gwlad. Pam fod arweinydd Plaid Cymru yn ceisio difrïo'r trafodaethau hynny gyda'r math o sylwadau a wnaeth yma y prynhawn yma? Rwy'n eu gwrthbwynebu—yn eu gwrthwynebu’n llwyr hyd eithaf fy ngallu. Dylai wybod yn well. Nid yw'n gymorth o gwbl i'n gwlad ei fod yn cyflwyno'r cwestiwn hwn yn y ffordd y gwnaeth.
Gadewch i mi droi, os caf, at sylwedd ei gwestiwn. Roedd y datganiad a wnaeth Llywodraeth Cymru ddydd Llun yr wythnos hon yn ymwneud â mater penodol iawn. Roedd yn ymwneud â'r gwelliannau a luniwyd gennym y credwn y gallent sicrhau ymrwymiadau, drwy Fil cytundeb ymadael, i'r datganiad gwleidyddol a allai gyflawni'r math o Brexit a gymeradwywyd yn y Cynulliad hwn. A dyna yw polisi'r Llywodraeth hon. Rydym yn dal i gredu bod cytundeb i'w gael y gellir ymrwymo iddo, cytundeb o'r math a drafodwyd ac a gymeradwywyd yma ers amser hir. Byddai hwnnw'n gytundeb a fyddai'n galw am aelodaeth o undeb tollau, mynediad llawn a dilyffethair at, a chyfranogiad mewn marchnad sengl, ymagwedd synhwyrol at ymfudo.
Efallai—efallai—fod Plaid Cymru wedi hen roi'r gorau i'r ymrwymiadau a wnaethant yma yn y Siambr hon. Mae'n bosibl mai Plaid Cymru fydd yr unig blaid yn Nhŷ'r Cyffredin i geisio cynnig gwelliant heddiw ar bleidlais y bobl. Efallai fod Plaid Cymru wedi ymbellhau oddi wrth y safbwynt hwnnw hefyd a bellach o blaid diddymu erthygl 50. Edrychaf ymlaen at glywed Aelodau Plaid Cymru yn esbonio hynny i'r bobl yn eu hetholaethau a bleidleisiodd, fel y gwnaeth Cymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ein safbwynt fel Llywodraeth wedi newid. Ein safbwynt yw'r un rydym wedi'i roi gerbron y Cynulliad hwn dro ar ôl tro, a dyna'r safbwynt y mae'r Cynulliad hwn wedi'i gymeradwyo dro ar ôl tro.