Part of the debate – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 13 Mawrth 2019.
Lywydd, rwy'n gwrthod y disgrifiad o hyn fel brad. Nid wyf yn rhannu safbwynt cynllwyngar yr Aelod ynglŷn â'r hyn sy'n mynd rhagddo yn Nhŷ'r Cyffredin. Credaf fod Tŷ'r Cyffredin wedi'i chael hi'n anodd ymdopi â chymhlethdodau Brexit. Credaf eu bod wedi ymgymryd â'u cyfrifoldebau mewn ffordd sydd wedi drysu llawer o bobl. Ond ni chredaf eu bod wedi bod yn anonest mewn unrhyw ffordd. Yn fy marn i, nid oes a wnelo hyn ag unrhyw beth heblaw pobl yn ceisio mynd i'r afael â'r anawsterau a'r cymhlethdodau hynny, hyd yn oed os nad yw'r atebion a gafwyd hyd yma yn cyfateb i faint yr her honno.
Ni chredaf fod unrhyw un wedi pleidleisio ym mis Mehefin 2016 dros adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Yn sicr, nid dyna a ddywedwyd wrthynt gan y bobl a fu'n eu hannog i bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Dywedwyd wrthym, fel y gŵyr yr Aelod, y byddai'r cyfan wedi ei wneud yn y ffordd hawsaf bosibl—y byddai modd datrys yr holl broblemau gydag atebion syml, ac y byddem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd lle byddai'r tir glas o fewn ein cyrraedd ar unwaith. Gwyddom bellach pa mor bell o'r gwir oedd hynny, ac ni chredaf fod y ffordd y mae Tŷ'r Cyffredin yn mynd i'r afael â hynny yn sarhad nac yn frad, ac rwy'n gwrthod y farn a fynegwyd gan yr Aelod y prynhawn yma.