Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 13 Mawrth 2019.
Cyfarfûm â'r prif weithredwr yr wythnos diwethaf, ac mae ei gallu'n creu argraff arnaf, ond bob tro y mae pethau wedi mynd i'r pen dros y chwe blynedd diwethaf, yn enwedig mewn perthynas â morâl staff a chyfeiriad y sefydliad, rydym bob amser yn cael clywed, 'Mae'r rheolwyr yn mynd i'r afael â'r sefydliad cymhleth hwn a bydd yn well yfory', ac nid yw yfory, yn yr achos hwn, byth i'w weld yn dod, yn anffodus.
Ni fyddai neb yn fwy hapus na mi yn y Siambr hon o weld Cyfoeth Naturiol Cymru yn ffynnu, oherwydd, fel y dywedais, mae ganddo fandad enfawr. Mae'r amgylchedd yma yng Nghymru a'r potensial i ddatblygu'r amgylchedd hwnnw er budd cenedlaethau'r dyfodol yn waddol mwy na dim arall y gallwn ei drosglwyddo, a gwaetha'r modd, buaswn yn mentro dweud ein bod wedi aros yn ein hunfan ers chwe blynedd, ac mae amlygu rhai o'r materion hyn, fel y gwneuthum yn fy sylwadau agoriadol i'r ddadl hon, yn dangos yn amlwg mai dyna pam, yn ôl ym mis Rhagfyr, y galwasom am ad-drefnu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac mae ein pwynt olaf yn y cynnig heddiw yn dweud bod angen edrych arno a'r rhaniad rhwng agweddau masnachol yr hyn a wna Cyfoeth Naturiol Cymru a'r agweddau rheoleiddiol, oherwydd nid yw'r ddau'n gydnaws â'i gilydd, ac mae angen ailfeddwl ac ailwampio'r sefydliad oherwydd mae'n rhan mor enfawr ac anferth o fywyd a DNA Cymru, ac mae wedi cael chwe blynedd i ddatblygu ei ysgogiad, ei ddylanwad, ei DNA, ac mae wedi methu gwneud hynny. Ac er fy mod yn dymuno'r gorau i'r bwrdd newydd, i'r prif weithredwr newydd, a'r cadeirydd dros dro—gan mai cadeirydd dros dro ydyw, nid yw'n benodiad amser llawn—ni allaf weld y sefydliad hwn yn cywiro rhai o'r camgymeriadau oherwydd bod y gwaith o'i ddatblygu chwe blynedd yn ôl—. Datblygwyd y sefydliad hwn yn y modd anghywir, fel y nododd Jon Owen Jones yn ei sylwadau ar y pryd, a llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon. Bydd rhai o'r Aelodau yn y Siambr hon yn cofio Antoinette Sandbach, a oedd mae'n debyg—. Aeth hi a minnau benben ar sawl achlysur ar rai materion, ond roedd Antoinette ar y pwynt hwn yn llefarydd materion gwledig a'r Aelod cyfrifol o safbwynt y Ceidwadwyr, a thynnodd sylw at nifer o'r problemau hyn sydd wedi dod yn ôl i darfu ar y sefydliad hwn. Gallwch edrych yn ôl ar y Cofnod, ac mae'n dangos y cyfeiriad teithio roeddem yn ei ragweld chwe blynedd yn ôl.
Felly, yn hytrach na'n bod yn parhau ar y trywydd toredig hwn, beth am fynd yn ôl i'r dechrau a gadewch i ni ad-drefnu'r sefydliad hwn fel y gallwn adeiladu sefydliad a fydd, yn y bôn, yn datblygu amgylchedd yma yng Nghymru a fydd â photensial i fod yn amgylchedd y bydd unrhyw un ar draws y byd yn edrych arno ac yn dweud, 'Dyna'r sefydliad rydym ei eisiau o fewn ein strwythurau ein hunain a'n fframweithiau ein hunain.' Nid ydym wedi gwneud hynny ers chwe blynedd, a dyna'r rheswm pam ein bod yn cyflwyno'r ddadl hon gerbron y Siambr y prynhawn yma. Felly, dyna pam y galwaf ar y Siambr i gefnogi'r cynnig—yn enwedig y gallu i beidio â gadael iddo sefyll am ddwy, tair, pedair blynedd arall, a gobeithio y daw'n iawn. Mae gobaith wedi diflannu o'r ddadl hon ers amser maith. Nawr mae'n bryd symud ymlaen a datblygu'r atebion sydd eu hangen arnom ac nid troi cefn ar rai o'r cwestiynau anodd sy'n cael eu gofyn i ni. A dyna pam y gobeithiaf y bydd y Siambr yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron y prynhawn yma.
Ceir potensial a chyfleoedd enfawr yn y dyfodol gyda'r cyfrifoldebau a ddaw i'r Siambr hon ac i'r Llywodraeth pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd: tua 40 o gyfrifoldebau newydd, gyda llawer ohonynt ym maes yr amgylchedd, ac ni chafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei lunio i ymdrin â'r cyfleoedd hyn. Beth am roi'r sefydliad hwn yn ôl ar y trywydd iawn, gadewch i ni droi ein cefnau ar rai o'r methiannau ac edrych ar y cyfleoedd. A dyna pam rwy'n galw ar y Siambr i gefnogi'r cynnig yma y prynhawn yma.