Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n stryglo, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r hyn mae'r Ceidwadwyr yn galw amdano fe oherwydd maen nhw'n dymuno pob llwyddiant i'r prif weithredwr newydd a'r cadeirydd interim, ond ar yr un pryd yn dweud eu bod nhw i gyd yn anobeithiol a bod rhaid ailgychwyn ac ail-greu sefydliad o'r newydd.
Wel, yn fy marn i, dechrau o'r dechrau yw'r peth olaf dŷn ni eisiau. Hynny yw, bydden ni wedyn yn gwastraffu'r gwaith sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf, a'r rheswm dŷn ni'n cynnig un o'n gwelliannau ni, yr ail welliant, yw dwi ddim yn derbyn yr honiad yn y cynnig bod yna fethiant systematig—dyna'r geiriad,
'Yn gresynu at fethiant systematig Cyfoeth Naturiol Cymru'.
Oes, mae yna fethiannau, a dŷn ni'n gresynu at rai o'r methiannau hynny, ond allwch chi ddim trio characterise-o'r sefyllfa fel bod yr holl sefydliad yn wallus o'i gorun i'w sawdl, a dwi yn meddwl ei bod hi'n anffodus eich bod chi'n pardduo'r holl sefydliad oherwydd methiannau rhai pobl o fewn y sefydliad hwnnw. Nawr, fel dwi’n ei ddweud, y peth olaf byddwn i eisiau yw aildrefnu llwyr oherwydd mi fyddai hynny—