Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 13 Mawrth 2019.
Fe wnaf adfer fy hyder cyn i mi siarad. I fod yn deg ag Andrew R.T. Davies, nid ef oedd yn cloi'r ddadl hon, felly pan geisiodd ymyrryd, dyna mae'n debyg oedd ei air olaf, ond dyna ni, fe wnaf fy ngorau i gloi.
A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y drafodaeth y prynhawn yma? Dim ond ychydig o wythnosau, fel y dywedodd y Gweinidog, sydd ers i mi siarad yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar ein gwaith craffu ar adroddiad blynyddol a chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru, cyfrifon y gosodwyd amodau arnynt, fel y gwyddom, am y drydedd flwyddyn yn olynol oherwydd afreoleidd-dra, yn fwyaf diweddar gyda chontractau pren.
A gaf fi nodi'n glir nad yw hyn yn feirniadaeth ar staff niferus a gweithgar iawn Cyfoeth Naturiol Cymru, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd rhai o'r Aelodau. Ac fel y dywedodd David Melding mor huawdl a syml, pe bai'n feirniadaeth ar y staff gweithgar, ni fyddai pwynt 2 ein cynnig yn dweud ein bod yn cefnogi'r staff gweithgar hynny. Ac wrth gwrs, y staff gweithgar hyn a gyfrannodd at yr arolygon staff a awgrymai fod problem yn ystod dyddiau cynnar iawn Cyfoeth Naturiol Cymru. Pe bai'r staff gweithgar hynny wedi cael eu clywed ar bwynt cynharach yn y broses hon, efallai na fyddem yn sefyll yma yn awr yn sôn yn gyson am y problemau a wynebwyd yn Cyfoeth Naturiol Cymru. Credaf fod angen i bawb ohonom gydnabod eu bod yn weithgar a bod hon yn broblem ar lefel uwch. Mae'n ddigon posibl ei bod yn broblem systemig. Nid oes problem o ran dweud bod problem gyda'r system, oherwydd yn amlwg mae rhywbeth wedi mynd o'i le ar strwythur Cyfoeth Naturiol Cymru.
Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies ar ddechrau'r ddadl, efallai'n wir fod problemau'n deillio o'r ffordd y rhoddwyd Cyfoeth Naturiol Cymru at ei gilydd ar y dechrau, a mynegwyd hynny, mewn gwirionedd, yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gynhaliwyd gennym: uno tri sefydliad mawr. Iawn, roedd potensial drwy hynny y byddai'n creu arbedion effeithlonrwydd, roedd potensial y byddai hynny'n ei wneud yn sefydliad mwy cymwys, ond yn anffodus, fel y dywedodd tystion i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrthym, roedd yn edrych, o'r tu allan o leiaf, fel pe bai haen uchaf wedi'i gosod ar y tri sefydliad, ond ni welwyd diwylliannau'n dod at ei gilydd mewn modd priodol. Gwelwyd yr hyn y byddech yn ei alw'n fwlch diwylliannol mae'n debyg, gwagle diwylliannol o fewn y sefydliad na chafodd ei lenwi'n iawn erioed mewn gwirionedd, ac mae angen i hynny ddigwydd.
Nid y Ceidwadwyr Cymreig yn unig sydd wedi gwneud y pwyntiau hyn, nid y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn unig—archwiliodd adolygiad Grant Thornton ei hun bob mater yn drylwyr, fel y dywedodd y Gweinidog. Croesawyd hynny gan bawb ar y pwyllgor. Fe'i croesawyd gan y Siambr hon, fe'i croesawyd pan gyflwynais y ddadl honno yn y Siambr ychydig wythnosau yn ôl. Cynhaliodd adolygiad Grant Thornton adolygiad o Cyfoeth Naturiol Cymru mewn modd fforensig gan amlygu nifer o ddiffygion sylfaenol yn ei ffyrdd o weithio. A cheir cydnabyddiaeth eang fod y contractau pren yr ymrwymodd Cyfoeth Naturiol Cymru iddynt, ac rwy'n dyfynnu, 'yn newydd, yn ddadleuol ac yn arwain at sgil-effeithiau', ac fel y cyfryw, yn sicr dylid bod wedi eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru, yn unol â'r gweithdrefnau cywir yr oedd Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohonynt. Ond roedd yna ddiffyg eglurder. Roedd yna amwysedd ynghylch y gweithdrefnau cywir yn Cyfoeth Naturiol Cymru, ac os na ddaw dim arall o'r ddadl hon, ac mae pawb ohonom yn dymuno hynny y prynhawn yma, ar ôl prynhawn hir o ffraeo gyda'n gilydd—gadewch inni o leiaf wneud yn siŵr fod modd mynd i'r afael â'r niwlogrwydd hwnnw yn y dyfodol, fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwybod beth yn union yw eu cyfrifoldebau, a bod Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo i'w cyflawni.
Mae'n bryd edrych tua'r dyfodol yn awr; mae tîm newydd ar waith, ac mae hynny i'w groesawu. Croesewais hynny ychydig wythnosau yn ôl yn y ddadl a gawsom. Yn bendant, mae yna awydd o fewn y sefydliad i symud ymlaen, mae awydd yma i edrych ymlaen, ond ar yr union adeg y mae Llywodraeth Cymru yn dileu ac yn lleihau gweithdrefnau galw i mewn ar gyfer cyrff hyd braich, mae angen y gweithdrefnau hynny yn awr yn fwy nag erioed. Felly, rydym yn galw yn y ddadl hon y prynhawn yma ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn addas i'r diben wrth inni symud ymlaen. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r tîm a roddwyd ar waith. Mae angen i'r tîm hwnnw weithio gyda, a gwrando ar y staff gweithgar yn Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr na fydd y mathau o gamgymeriadau a welsom yn y gorffennol yn cael eu gwneud y dyfodol.
Fel y mae pethau ar hyn o bryd, ni ellir gwarantu na osodir amodau ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru eto, ac o bosibl eto wedyn, oherwydd, fel y mae pethau ar hyn o bryd, nid yw pethau fel y dylent fod. Mae yna awydd, mae yna benderfyniad i unioni pethau, ond fel y dywedodd nifer o siaradwyr yn gynharach, hyd nes y digwydd hynny mewn gwirionedd, ni fyddwn yn symud ymlaen. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn gwneud hynny, a dyna pam rwy'n annog y Siambr i gefnogi'r cynnig hwn y prynhawn yma.