Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae prentisiaethau, heb amheuaeth, yn ffordd brofedig o ysgogi cynhyrchiant a ffyniant, ac o adeiladu cymunedau cryfach. A thrwy adeiladu system brentisiaeth fwy ymatebol, nid oes unrhyw amheuaeth y gallwn ymateb yn well i newidiadau yn y diwydiant, a dyna rwy'n benderfynol o wneud. Gwn mai dyna y mae Mike Hedges, Jack Sargeant a Joyce Watson yn benderfynol o wneud yn ogystal. Rwy'n cofio pan oeddwn yn gyfrifol am y portffolio sgiliau ddiwethaf, yn gweithio i gael y fasnach trin gwallt wedi'i rheoleiddio'n well ac mae'r bygythiad gan Mike Hedges y byddai'n dod yn berson trin gwallt, ddydd Mawrth rwy'n credu, yn dangos yn glir pam fod gwir angen rheolaeth reoleiddiol o hyd, nid yn unig yn y sector hwnnw, ond yn y disgyblaethau eraill yr oedd Mike yn gywir i'w nodi.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod sgiliau'n rhan annatod o'r gallu i gyflawni gwaith yn briodol, yn effeithiol ac yn effeithlon, ac fel y dywedodd Jack Sargeant, prentisiaethau sy'n cynnig y ffordd orau o ddysgu sgiliau allweddol. Mae galw am brentisiaethau'n newid, wrth i gyflogwyr chwilio am sgiliau ar lefelau uwch, ac wrth i bobl ifanc edrych tuag at brentisiaethau fel llwybr amgen yn lle dysgu fel israddedigion amser llawn.
Ni fwriadwyd i'r rhaglen brentisiaethau fod yn rhaglen i'w defnyddio i lenwi pob bwlch sgiliau posibl yn y farchnad. Mae angen inni edrych ymlaen gan fyfyrio hefyd ar arferion gorau mewn rhaglenni prentisiaeth a'r ddarpariaeth brentisiaethau. Mae angen inni ailganolbwyntio ein hymdrechion ar grefftwyr technegol medrus. Bydd hyn yn cefnogi ein nod o sicrhau parch cydradd i addysg a hyfforddiant galwedigaethol, i wella ansawdd a gwella canlyniadau i'r economi ac i'r bobl a wasanaethir gennym. Ac rydym am i'r rhaglen sicrhau bod prentisiaethau'n cefnogi pobl ifanc, a bydd ein ffocws ar wella ein cynnig ar draws amrywiaeth o feysydd technegol a phroffesiynol, yn enwedig gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a bydd hyfforddiant lefel uwch yn fwy amlwg o fewn y rhaglen.
Roedd sefydlu bwrdd cynghori ar brentisiaethau Cymru yn greiddiol i'n dull o weithredu ar draws y rhaglen brentisiaethau. Sefydliad a arweinir gan gyflogwyr yw'r bwrdd, wedi'i gadeirio gan Gyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain, ac mae'n cynnwys cyflogwyr mawr yn ogystal â busnesau bach a chanolig. Mae'n darparu mewnbwn strategol, her gadarn ar gynnwys sgiliau, a chyngor ar gwmpas ac ystod y fframweithiau prentisiaeth. Mae ein prif ffocws yn parhau i fod ar brentisiaethau lefel 3 ac uwch, lle mae'r manteision yn sylweddol uwch ac yn adlewyrchu arferion da mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Rydym yn rhoi pwys arbennig ar flaenoriaethu ehangu prentisiaethau uwch mewn pynciau STEM a phynciau technegol i greu'r genhedlaeth newydd nesaf o weithwyr proffesiynol i ysgogi arferion arloesol, i greu cynnyrch newydd a chynyddu lefelau cynhyrchiant.
Rwy'n falch iawn o ddweud yn y flwyddyn ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, mai prentisiaethau lefel uwch oedd 16 y cant o'r holl brentisiaethau a ddechreuwyd. Y llynedd, cyflwynasom brentisiaethau gradd a bydd y ddarpariaeth yn canolbwyntio i ddechrau ar fylchau sgiliau lefel gradd a nodwyd gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol mewn sgiliau digidol a pheirianneg uwch.
I reoli galw cudd a galw sy'n dod i'r amlwg, rydym wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr o dan y clystyrau sgiliau mewn meysydd megis iechyd, coedwigaeth a pheirianneg, a digidol eto. Yn arbennig, rydym yn gwella gwasanaethau yn y sectorau cyhoeddus, gan weithio gydag awdurdodau lleol, gyda'r gwasanaeth iechyd a chyrff cyhoeddus eraill. Ac i ategu hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach i ddeall sut y gallwn glystyru'r ddarpariaeth o gwmpas sectorau penodol fel y gellir sicrhau bod y rhaglen yn fwy hygyrch i fusnesau bach a chanolig.
At hynny, rydym yn creu swyddi gwell yn nes adref drwy ymestyn ac ehangu prentisiaethau a rennir yn ardal tasglu'r Cymoedd i gynorthwyo busnesau bach a chanolig a busnesau micro i fanteisio ar hyfforddiant. Rydym yn annog busnesau bach a chanolig i ddefnyddio prentisiaethau drwy gynnig cymhelliant o hyd at £3,500 ar gyfer recriwtio person ifanc, lle mae'r busnes bach a chanolig yn newydd i'r system brentisiaethau. Nod hyn oll yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm.
I bobl ifanc, gall sicrhau'r brentisiaeth iawn newid bywydau go iawn. Rydym yn cynnig prentisiaethau drwy wella amlygrwydd yr hyn sydd ar gael, ac eleni, byddwn yn lansio platfform TG newydd gydag amrywiaeth o swyddogaethau a gynlluniwyd i wneud y daith brentisiaeth yn gliriach ac yn llawer haws ei defnyddio. Wrth gwrs, ein prif ymrwymiad yw 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn—targed rydym ar y trywydd iawn i'w gyrraedd, a hyd yn oed i ragori arno. Ond mae hyn yn ymwneud â mwy nag ansawdd yn unig; mae'n ymwneud â maint ac mae'n ymwneud â sicrhau y cawn gymaint o bobl ifanc â phosibl yn rhan o fframweithiau prentisiaethau. Ni allwn beryglu'r fframweithiau hynny drwy fod pobl yn mynd ar drywydd gweithgareddau economaidd a fydd yn tanseilio'r crefftau medrus hyn, fel y nododd pob un o'r siaradwyr heddiw. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i'w atal.
Yn ystod hanner cyntaf tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi cryfhau perthnasedd, ansawdd ac effeithiolrwydd ein cynnig prentisiaethau. Ac mae pawb ohonom yn gwybod y bydd y pwysau ar Gymru yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod. Mae oes awtomatiaeth, Brexit a thechnolegau newydd sy'n datblygu oll yn ei gwneud yn ofynnol i ni gael system hyfforddi gadarn, a bydd darparu prentisiaethau o safon uchel yn ein helpu i oresgyn yr heriau hyn. Diolch.