– Senedd Cymru am 6:06 pm ar 13 Mawrth 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, a wnewch chi hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda? A all yr Aelodau gael trafodaethau y tu allan i'r Siambr, os gwelwch yn dda? Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mike Hedges i siarad ar y pwnc a ddewiswyd ganddo. Mike.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yn y ddadl hon i Jack Sargeant a Joyce Watson.
Ddydd Llun nesaf, gallaf gofrestru fel adeiladwr. Ddydd Mawrth, gallaf gofrestru fel person trin gwallt. Ddydd Mercher, gallaf ddechrau busnes gwaith coed. Ddydd Iau, gallaf ddechrau busnes therapi harddwch. Ddydd Gwener, gallaf geisio gwaith fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Ddydd Gwener, bydd holl rym y gyfraith yn dod i lawr arnaf. Mae gan gyfreithwyr amddiffyniad cyfreithiol. O dan Ddeddf Cyfreithwyr 1974, ni all neb sydd heb gymwysterau weithredu fel cyfreithiwr. Mae unrhyw un sy'n tramgwyddo yn ei herbyn yn euog o drosedd ac yn agored yn sgil euogfarn i ddedfryd o garchar o fwy na dwy flynedd, neu ddirwy, neu'r ddau. Gallaf honni fy mod yn fargyfreithiwr. Digwyddodd hyn i Ian Clegg mewn gwirionedd, a dwyllodd y barnwyr a'r ynadon yn Guisborough, Gogledd Swydd Efrog, rhwng mis Medi 2007 a mis Ebrill 2008. Mae'r gyfraith, a basiwyd yn 2007 ar ffurf y Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ei gwneud yn anghyfreithlon i rywun esgus yn fwriadol ei fod yn fargyfreithiwr. Gellir carcharu am hyd at flwyddyn am gyflawni'r drosedd. Mae cyfreithwyr, fel bob amser, yn edrych ar ôl eu hunain. Caiff gweddill y bobl eu trin yn hollol wahanol. Ni cheir unrhyw amddiffyniad rhag honiad fod rhywun yn unrhyw un o'r pethau eraill a grybwyllais yn gynharach.
Hynny yw, nid yw trin gwallt wedi ei reoleiddio o gwbl. Dywedwyd wrthyf am effeithiau dinistriol triniaethau trin gwallt esgeulus, yn amrywio o losgiadau cemegol i'r pen a'r wyneb i golli gwallt drwy gamddefnyddio cynnyrch. Mae'r diwydiant trin gwallt heb ei reoleiddio ar hyn o bryd. Mae hyn yn peri pryder mawr pan ystyriwch y cemegau a ddefnyddir gan bobl trin gwallt, pobl sy'n gallu bod heb eu hyfforddi a heb unrhyw gymwysterau. Mae'r Cyngor Trin Gwallt, a sefydlwyd drwy Ddeddf Siopau Trin Gwallt (Cofrestru) 1964, gyda'r bwriad o roi statws i siopau trin gwallt a sicrwydd i ddefnyddwyr o ganlyniad i hynny, wedi galw am reoleiddio'r diwydiant. Mae cofrestru gyda'r cyngor yn parhau i fod yn wirfoddol oherwydd na chafodd y Ddeddf ei gorfodi'n llawn erioed. Mae'r Cyngor Gwallt yn amcangyfrif mai oddeutu 10 y cant o siopau trin gwallt yn unig sydd wedi cofrestru. Gan fod y diwydiant heb ei reoleiddio ac am nad oes angen unrhyw gymwysterau i weithio fel person trin gwallt, mae'n bosibl fod llawer o bobl yn honni eu bod yn bobl trin gwallt heb fod ganddynt unrhyw gymwysterau o gwbl.
Cafwyd ymdrechion i gyflwyno Bil yn y DU i sicrhau bod y diwydiant yn cael ei reoleiddio. Arweiniodd hyn at gyflwyno Bil Cofrestru Siopau Trin Gwallt (Diwygio) yn Nhŷ'r Cyffredin fel Bil aelod preifat. Fodd bynnag, fe'i trechwyd mewn pleidlais, o 67 i 63, ym mis Tachwedd 2011. Diben y Bil oedd cynnig gwell trefn reoleiddio i'r diwydiant trin gwallt, i gynnwys cod ymddygiad ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gorfodol. Cyflwynwyd y Bil gan David Morris AS, a ddywedodd, yn sgil y trechu'r cynnig:
Mae'n anarferol iawn i Fil Deng Munud fynd i bleidlais. Roedd Tŷ'r Cyffredin yn amlwg yn rhanedig. Gan fy mod yn awr wedi tynnu sylw at reoleiddio'r diwydiant trin gwallt, rwy'n gobeithio y bydd y mater pwysig hwn yn parhau i gael ei drafod.
Yn fwy diweddar, galwodd Nia Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli, mewn dadl ohirio am gofrestru gwladol gorfodol, ond gwrthodwyd hynny gan Weinidogion Llywodraeth y DU, a ddywedodd y byddai cofrestru'n costio £75 miliwn i'r diwydiant. Ym mis Tachwedd 2013, cafodd y mater ei drafod yn y Senedd. Cyflwynwyd y mater gan Keith Davies, y cyn-Aelod dros Lanelli, mewn un o'r dadleuon byr hyn. Nodwyd yn y ddadl fod pwerau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn gyfyngedig. Mae'r Cyngor Gwallt yn parhau ei ymgyrch yn y Senedd i barhau i godi ymwybyddiaeth. Buaswn yn annog pawb i gynorthwyo'r cyngor i lobïo Llywodraeth y DU i gyflwyno rheoleiddio yn y maes ac i gyfyngu ar anafiadau trawmatig a ddioddefir gan rai defnyddwyr.
Mae bron i hanner yr holl danau mewn tai wedi eu hachosi gan ddamweiniau trydanol, ac mae argyfyngau yn mynd â bywydau tua un person yr wythnos. Mae'r arfer o ddefnyddio trydanwyr anniogel a heb gymwysterau ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio trydanol yn cynyddu'n ddramatig y tebygolrwydd y bydd unigolyn yn un o'r dioddefwyr hyn. Dangosodd ymchwil gan Electrical Safety First fod bron i chwarter y bobl wedi trefnu a thalu am waith gan drydanwyr heb wirio manylion y trydanwr yn gyntaf. At hynny, roedd traean y bobl wedi trefnu i drydanwr wneud gwaith ar eu cyfer ar sail argymhelliad gan ffrind yn unig, a dywedodd chwarter arall y byddent yn fwriadol yn llogi trydanwr heb gymwysterau pe baent ar frys. Gallai pobl sydd angen atgyweiriadau trydanol wneud cam gwag â hwy eu hunain yn eithaf hawdd drwy ddefnyddio trydanwr heb gymwysterau. Darganfu Electrical Safety First fod bron i 1.3 miliwn o bobl yn y DU angen talu i weithiwr proffesiynol drwsio gwaith carbwl gan drydanwr heb gymwysterau, sy'n dangos y gall defnyddio trydanwyr heb gymwysterau arwain yn hawdd at oedi hir yn hytrach na chyflymu'r broses. Wrth gwrs, hwy yw'r rhai ffodus pan na fydd unrhyw beth gwirionedd ddifrifol wedi digwydd.
Ond nid defnyddwyr yn unig sy'n anfodlon ynglŷn â gwaith gwael gan drydanwyr heb gymwysterau. Mae gweithwyr proffesiynol hefyd yn cwyno am y gwaith gwael a pheryglus y bu'n rhaid iddynt fynd i'r afael ag ef. Dywedodd traean o'r trydanwyr cofrestredig a holwyd gan Electrical Safety First eu bod wedi sylwi ar gynnydd yn y gwaith trydanol peryglus ac ansafonol ers 2012.
Gan droi'n ôl at waith coed ac adeiladu cyffredinol, y rheswm mwyaf cyffredin pam y bydd deciau sydd wedi'u cysylltu wrth eiddo, neu rai sy'n cynnal eu hunain, yn chwalu yw bod y contractwr ond yn gosod hoelion rhwng canllaw'r dec a strwythur y tŷ, gan arwain at beri i'r dec dynnu'n rhydd. Bydd cefnogwyr Fawlty Towers yn cofio digwyddiad yr adeiladwr heb gymwysterau a gyflogodd Basil Fawlty. Er gwaethaf gwrthwynebiad ei wraig, mae Basil yn llogi ei gwmni arferol o bobl anghymwys, O'Reilly's, i wneud gwaith coed yn yr ystafell yn y gwesty. Gadewir y gwesty mewn cyflwr gwaeth na phan ddechreuwyd ar y gwaith, ac o bosibl yn beryglus ac roedd pryderon y gallai ddisgyn. Ni allai ddisgyn oherwydd bod rhaid iddynt wneud pennod arall. Comedi oedd hyn, ond mewn bywyd go iawn, yn anffodus, mae'r un peth yn digwydd yn rhy aml.
Fel y cofia dilynwyr y rhaglen ardderchog ar y BBC, X-Ray, gwelsom adroddiadau rheolaidd ar y gwaith gwael, a pheryglus yn aml, a gâi ei wneud. Byddai adeiladwr yn gwneud y gwaith—rwy'n dweud 'adeiladwr' mewn dyfynodau, a hynny oherwydd yn aml, gwaetha'r modd, nid yw adeiladwr yn adeiladwr go iawn. Mae'n ymddangos bod unrhyw un sy'n rhoi hysbyseb yn y papur lleol neu sy'n gwisgo oferôls y dyddiau hyn yn hapus i alw eu hunain yn adeiladwyr, ac nid oes unrhyw beth y gellir ei wneud am y peth. Dyma'r trap i berchennog eiddo nad yw'n ymwybodol o beth sy'n digwydd, sy'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y gwaith a wneir ar eu heiddo, ac sydd fel arfer yn gorfod talu'r pris am waith unioni sy'n ddrud iawn, gan gymryd bod yr adeilad yn cael ei ganiatáu i sefyll ac nid cael ei ddymchwel pan fydd yr adeiladwr wedi diflannu, gan wadu cyfrifoldeb neu'n rhy anodd i'w erlyn drwy'r llysoedd.
Nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol fel y cyfryw ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno sefydlu fel therapydd harddwch. Mae'r diwydiant harddwch yn y DU heb ei reoleiddio. Golyga hyn y gall unrhyw un agor salon neu weithio fel therapydd heb unrhyw hyfforddiant, cymwysterau nac yswiriant. Gall ôl-effeithiau hyn fod yn hynod o ansicr. Pe baech yn cael triniaeth gan therapydd heb gymwysterau nac yswiriant a bod rhywbeth yn mynd o'i le neu fod eich corff yn adweithio i'r driniaeth, gallech fod mewn sefyllfa agored i niwed. Mae miloedd o fenywod yn peryglu eu hunain drwy wahodd therapyddion harddwch twyllodrus i mewn i'w cartrefi. Mae rhai asiantaethau yn caniatáu i unrhyw un gofrestru a hysbysebu am waith heb unrhyw archwiliadau. Dywedodd Lauren Shalson, cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr y cwmni dibynadwy, Spa By Car,
Mae llawer o asiantaethau harddwch ar-lein yn cynnig gwaith neu'n gadael i therapyddion gofrestru'n seiliedig ar alwad ffôn yn unig. Sut y gallwch anfon rhywun yn ddiogel i mewn i gartref cleient heb o leiaf gyfarfod â hwy wyneb yn wyneb?
Ceir rhai pobl heb gymwysterau sy'n credu eu bod yn ddiangen. Maent yn diffinio'u hunain fel trydanwyr, pobl trin gwallt, therapyddion harddwch, seiri coed, gosodwyr brics ac yn credu eu bod yn gymwys gan eu bod wedi bod wrthi ers peth amser, maent wedi gwneud gwaith ar eu tŷ eu hunain neu wedi gwneud gwaith i'w teuluoedd eu hunain. Credaf fod gwahaniaeth mawr rhwng gwneud mân newidiadau yn eich tŷ a mynd allan i wneud gwaith sylweddol ar gartref rhywun arall. Rwy'n credu o ddifrif fod hyn yn beryglus yn gyffredinol. Wrth hysbysebu gwasanaeth, credaf y dylai fod rhaid i bawb ddangos eu cymwysterau. Ni ddylid anwybyddu cymwysterau y mae pobl wedi bod yn astudio'n galed amdanynt. Os ydych am gyflogi rhywun heb gymwysterau a wynebu'r risg sy'n deillio o hynny, dylech wneud hynny gan wybod hynny yn hytrach na heb wybod.
Pam y mae'n bwysig? Gall therapyddion harddwch a phobl trin gwallt wneud niwed parhaol i'ch wyneb a'ch pen. Gall gweithwyr adeiladu heb gymwysterau wneud tai'n beryglus. Gall tynnu wal sy'n cynnal pwysau arwain at beri i dŷ ddisgyn; gall weirio trydanol gwael arwain at danau a siociau trydanol sy'n achosi marwolaeth; ac yn olaf, gall toeau sydd wedi'u hadeiladu'n wael arwain at doeau'n disgyn a'r problemau a all ddigwydd i unrhyw un sydd yn y tŷ ar y pryd.
Credaf fod cymwysterau'n bwysig ac mae angen inni amddiffyn pobl gymwysedig rhag pobl heb gymwysterau sy'n dwyn eu gwaith a phobl heb gynmwysterau sy'n rhoi pobl mewn perygl. Mae prentisiaethau yn eich galluogi i gyfuno gwaith ac astudio drwy gyfuno hyfforddiant yn y gweithle gyda dysgu yn y dosbarth. Rydych yn cael eich cyflogi i wneud swydd go iawn wrth astudio ar gyfer cymhwyster ffurfiol, fel arfer am un diwrnod yr wythnos mewn coleg neu ganolfan hyfforddi. Erbyn diwedd eich prentisiaeth, dylech fod wedi ennill y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen naill ai i lwyddo yn eich gyrfa ddewisol neu i symud ymlaen at lefel nesaf y brentisiaeth.
Mae prentisiaid ym mhob rôl yn dilyn rhaglen astudio gymeradwy, sy'n golygu eu bod yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ar ddiwedd eu prentisiaeth. Cânt eu haddysgu gan bobl fedrus sy'n gwybod sut i weithio'n ddiogel. Gallant nodi peryglon posibl. Faint o drydanwyr heb gymwysterau sy'n deall anwythiant a sut i'w atal? Mae angen inni sicrhau y gwneir gwaith i safon uchel, sef yr hyn y maent wedi'i ddysgu yn eu dwy flynedd, pedair blynedd—ni waeth faint o amser y mae'n cymryd iddynt gwblhau'r brentisiaeth.
Mae'r cymwysterau, yn aml gan City and Guilds, yn cydymffurfio â safon genedlaethol neu safon ryngwladol sy'n debyg i safonau yn unrhyw le yn y byd. Mae pobl wedi gweithio'n galed i ennill cymwysterau tra'n gwneud prentisiaethau. Mae angen iddynt gael eu gwobrwyo am y sgiliau hynny ac ni ddylai unigolion heb gymwysterau gael eu caniatáu i'w tanseilio.
Os yw rhywun yn honni ei fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr heb gymhwyster, daw holl rym y gyfraith i'w cosbi, ond gallant honni eu bod yn adeiladwr, yn saer coed, yn therapydd harddwch neu berson trin gwallt heb i unrhyw gyfraith eu hatal? Rwy'n teimlo dros y bobl sydd wedi rhoi amser ac egni a—fel y gŵyr pawb sydd wedi sefyll arholiadau—phrofi gofid er mwyn hyfforddi a phasio'r arholiadau i gymhwyso'n llawn, dim ond i gael rhywun i lawr y stryd heb unrhyw gymhwyster, yn honni, 'Rhowch y gwaith i mi. Rwy'n gallu ei wneud.' Rydych yn rhoi'r gwaith iddynt, ac ni allant ei wneud. Diolch.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw? Credaf ei bod yn dilyn ymlaen yn dwt o ddatganiad y Dirprwy Weinidog ddoe ac Wythnos Prentisiaethau Cenedlaethol yr wythnos cyn hynny. Fel cyn brentis, rwy'n falch iawn o gael cyfle i drafod fy mhrofiadau a chyfrannu heddiw. Ddirprwy Lywydd, hoffwn ganolbwyntio ar ddau beth yn benodol.
Yn gyntaf, mae prentisiaethau amser a dreuliwyd yn eich arfogi â'r sgiliau i gyflawni eich tasgau'n effeithlon mewn crefft o'ch dewis, a hynny i safon uchel, ond yn bwysicaf oll, yn ddiogel, ac mae hyn o'r pwys mwyaf yn mhob crefft.
Yr ail beth rwyf am sôn amdano yn y Siambr heddiw yw pwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus fel rhan o brentisiaethau. Mae angen hyn er mwyn inni sicrhau y gall gweithwyr ymdopi â'r newidiadau cyflym yn yr economi a'r newidiadau cyflym yn y gweithle, a bydd hyn drwy gydol eu gyrfaoedd, nid yn unig yn ystod eu prentisiaeth. Felly, byddant yn ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol parhaus i'w galluogi i gwblhau gwaith mewn ffordd ddiogel bob amser ac i safon ansawdd y mae pawb ohonom yn ei disgwyl ac y dylai pawb ohonom ei disgwyl.
Unwaith eto a gaf fi ddiolch i Mike am gyflwyno'r ddadl fer hon a gwneud y pwyntiau rwy'n cytuno'n llwyr â hwy? Edrychaf ymlaen at weithio gyda Mike a'r Gweinidog Llywodraeth Cymru i sicrhau y gallwn ddarparu prentisiaethau o ansawdd da ar gyfer cenedlaethau heddiw a'r dyfodol. Diolch.
Mae arnaf eisiau diolch i Mike am ddod â'r ddadl bwysig hon yma. Credaf mai'r peth allweddol yma yw y byddai hyn yn cael ei groesawu gan y diwydiannau a grybwyllwyd oherwydd mae pobl yn buddsoddi yn eu dyfodol. Mae'n cymryd amser, mae'n galw am arian, ac mae angen ymdrech enfawr, ond yr hyn sy'n tanseilio hyn i gyd yw'r straeon a glywn, unwaith eto yr wythnos hon yn y newyddion a rhaglenni dogfen, yn enwedig o fewn y diwydiant adeiladu, am fasnachwyr twyllodrus. Mae'n tanseilio'r holl waith ardderchog a wneir gan bobl gymwys iawn—pobl rydym yn buddsoddi ynddynt yn ogystal, oherwydd mae'n un o'n polisïau blaenllaw: buddsoddi mewn prentisiaid. Felly, credaf ei bod yn bryd edrych ar ardystio a'r angen i gynhyrchu'r ardystiad bob tro y byddwch wedi cyflogi rhywun, yn union yn yr un modd ag y gwnaethom argymell ardystiad cyfartal i'w brofi gan ddeiliaid tai pan fyddant yn gwaredu eu sbwriel.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae prentisiaethau, heb amheuaeth, yn ffordd brofedig o ysgogi cynhyrchiant a ffyniant, ac o adeiladu cymunedau cryfach. A thrwy adeiladu system brentisiaeth fwy ymatebol, nid oes unrhyw amheuaeth y gallwn ymateb yn well i newidiadau yn y diwydiant, a dyna rwy'n benderfynol o wneud. Gwn mai dyna y mae Mike Hedges, Jack Sargeant a Joyce Watson yn benderfynol o wneud yn ogystal. Rwy'n cofio pan oeddwn yn gyfrifol am y portffolio sgiliau ddiwethaf, yn gweithio i gael y fasnach trin gwallt wedi'i rheoleiddio'n well ac mae'r bygythiad gan Mike Hedges y byddai'n dod yn berson trin gwallt, ddydd Mawrth rwy'n credu, yn dangos yn glir pam fod gwir angen rheolaeth reoleiddiol o hyd, nid yn unig yn y sector hwnnw, ond yn y disgyblaethau eraill yr oedd Mike yn gywir i'w nodi.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod sgiliau'n rhan annatod o'r gallu i gyflawni gwaith yn briodol, yn effeithiol ac yn effeithlon, ac fel y dywedodd Jack Sargeant, prentisiaethau sy'n cynnig y ffordd orau o ddysgu sgiliau allweddol. Mae galw am brentisiaethau'n newid, wrth i gyflogwyr chwilio am sgiliau ar lefelau uwch, ac wrth i bobl ifanc edrych tuag at brentisiaethau fel llwybr amgen yn lle dysgu fel israddedigion amser llawn.
Ni fwriadwyd i'r rhaglen brentisiaethau fod yn rhaglen i'w defnyddio i lenwi pob bwlch sgiliau posibl yn y farchnad. Mae angen inni edrych ymlaen gan fyfyrio hefyd ar arferion gorau mewn rhaglenni prentisiaeth a'r ddarpariaeth brentisiaethau. Mae angen inni ailganolbwyntio ein hymdrechion ar grefftwyr technegol medrus. Bydd hyn yn cefnogi ein nod o sicrhau parch cydradd i addysg a hyfforddiant galwedigaethol, i wella ansawdd a gwella canlyniadau i'r economi ac i'r bobl a wasanaethir gennym. Ac rydym am i'r rhaglen sicrhau bod prentisiaethau'n cefnogi pobl ifanc, a bydd ein ffocws ar wella ein cynnig ar draws amrywiaeth o feysydd technegol a phroffesiynol, yn enwedig gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, a bydd hyfforddiant lefel uwch yn fwy amlwg o fewn y rhaglen.
Roedd sefydlu bwrdd cynghori ar brentisiaethau Cymru yn greiddiol i'n dull o weithredu ar draws y rhaglen brentisiaethau. Sefydliad a arweinir gan gyflogwyr yw'r bwrdd, wedi'i gadeirio gan Gyd-ffederasiwn Diwydiant Prydain, ac mae'n cynnwys cyflogwyr mawr yn ogystal â busnesau bach a chanolig. Mae'n darparu mewnbwn strategol, her gadarn ar gynnwys sgiliau, a chyngor ar gwmpas ac ystod y fframweithiau prentisiaeth. Mae ein prif ffocws yn parhau i fod ar brentisiaethau lefel 3 ac uwch, lle mae'r manteision yn sylweddol uwch ac yn adlewyrchu arferion da mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Rydym yn rhoi pwys arbennig ar flaenoriaethu ehangu prentisiaethau uwch mewn pynciau STEM a phynciau technegol i greu'r genhedlaeth newydd nesaf o weithwyr proffesiynol i ysgogi arferion arloesol, i greu cynnyrch newydd a chynyddu lefelau cynhyrchiant.
Rwy'n falch iawn o ddweud yn y flwyddyn ddiwethaf, Ddirprwy Lywydd, mai prentisiaethau lefel uwch oedd 16 y cant o'r holl brentisiaethau a ddechreuwyd. Y llynedd, cyflwynasom brentisiaethau gradd a bydd y ddarpariaeth yn canolbwyntio i ddechrau ar fylchau sgiliau lefel gradd a nodwyd gan y partneriaethau sgiliau rhanbarthol mewn sgiliau digidol a pheirianneg uwch.
I reoli galw cudd a galw sy'n dod i'r amlwg, rydym wedi bod yn gweithio gyda chyflogwyr o dan y clystyrau sgiliau mewn meysydd megis iechyd, coedwigaeth a pheirianneg, a digidol eto. Yn arbennig, rydym yn gwella gwasanaethau yn y sectorau cyhoeddus, gan weithio gydag awdurdodau lleol, gyda'r gwasanaeth iechyd a chyrff cyhoeddus eraill. Ac i ategu hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach i ddeall sut y gallwn glystyru'r ddarpariaeth o gwmpas sectorau penodol fel y gellir sicrhau bod y rhaglen yn fwy hygyrch i fusnesau bach a chanolig.
At hynny, rydym yn creu swyddi gwell yn nes adref drwy ymestyn ac ehangu prentisiaethau a rennir yn ardal tasglu'r Cymoedd i gynorthwyo busnesau bach a chanolig a busnesau micro i fanteisio ar hyfforddiant. Rydym yn annog busnesau bach a chanolig i ddefnyddio prentisiaethau drwy gynnig cymhelliant o hyd at £3,500 ar gyfer recriwtio person ifanc, lle mae'r busnes bach a chanolig yn newydd i'r system brentisiaethau. Nod hyn oll yw creu diwylliant yng Nghymru lle mae recriwtio prentis yn dod yn norm.
I bobl ifanc, gall sicrhau'r brentisiaeth iawn newid bywydau go iawn. Rydym yn cynnig prentisiaethau drwy wella amlygrwydd yr hyn sydd ar gael, ac eleni, byddwn yn lansio platfform TG newydd gydag amrywiaeth o swyddogaethau a gynlluniwyd i wneud y daith brentisiaeth yn gliriach ac yn llawer haws ei defnyddio. Wrth gwrs, ein prif ymrwymiad yw 100,000 o brentisiaethau yn ystod tymor y Cynulliad hwn—targed rydym ar y trywydd iawn i'w gyrraedd, a hyd yn oed i ragori arno. Ond mae hyn yn ymwneud â mwy nag ansawdd yn unig; mae'n ymwneud â maint ac mae'n ymwneud â sicrhau y cawn gymaint o bobl ifanc â phosibl yn rhan o fframweithiau prentisiaethau. Ni allwn beryglu'r fframweithiau hynny drwy fod pobl yn mynd ar drywydd gweithgareddau economaidd a fydd yn tanseilio'r crefftau medrus hyn, fel y nododd pob un o'r siaradwyr heddiw. Ac mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio i'w atal.
Yn ystod hanner cyntaf tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi cryfhau perthnasedd, ansawdd ac effeithiolrwydd ein cynnig prentisiaethau. Ac mae pawb ohonom yn gwybod y bydd y pwysau ar Gymru yn cynyddu yn y blynyddoedd i ddod. Mae oes awtomatiaeth, Brexit a thechnolegau newydd sy'n datblygu oll yn ei gwneud yn ofynnol i ni gael system hyfforddi gadarn, a bydd darparu prentisiaethau o safon uchel yn ein helpu i oresgyn yr heriau hyn. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.