Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 2:00, 13 Mawrth 2019

Diolch, Llywydd. Mae penaethiaid ar draws Cymru yn rhybuddio bod argyfwng cyllido yn wynebu ein hysgolion, ac y bydd gan hyn ganlyniadau pellgyrhaeddol—dosbarthiadau mwy, llai o athrawon, cyflwr adeiladau’n dirywio, lleihad mewn cefnogaeth i anghenion dysgu ychwanegol, toriadau i wasanaethau bugeiliol a lles. Dŷn ni’n colli cannoedd o’n hathrawon mwyaf profiadol ac arweinwyr canol o’n hysgolion yn sgil ymddeoliadau cynnar.

Mae ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi rhoi ffocws ar yr angen i gynyddu’r cwantwm sy’n cael ei wario ar addysg, ac mae o hefyd wedi dechrau trafod pa fesurau y gellid eu cymryd hyd yn oed o fewn y gyllideb bresennol i sicrhau bod mwy o arian yn cyrraedd yr ysgolion. Mae yna un undeb athrawon, gyda chefnogaeth y Torïaid, yn argymell symud tuag at system o ariannu ysgolion yn uniongyrchol, gan greu system debyg i’r academies yn Lloegr. Beth ydy eich barn chi am ariannu uniongyrchol?