Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ddiolch yn fawr i chi am gadarnhau eich bod bellach wedi clywed gan y Gweinidog cyllid ynglŷn â ffigur a fydd yn cael ei basbortio i chi o gyllideb Llywodraeth y DU i dalu—ac rwy'n credu; rwy'n eich dyfynnu—y £47.7 miliwn hwnnw yn llawn? Mae'n talu costau'r codiad pensiwn yn llawn. Felly, mae'n braf clywed hynny. A allwch ddweud wrthyf pa gamau y byddwch yn eu cymryd i sicrhau y bydd pob ceiniog sy'n cyrraedd yr ysgolion yn cael ei gwario i dalu cost y codiad pensiwn?