Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch, Lywydd. O ran eich cyhoeddiad cynharach ynglŷn â'r cyllid i dalu am y newidiadau pensiwn, credaf y bydd ysgolion ledled Cymru yn rhoi ochenaid o ryddhad mewn perthynas â hynny, felly rwy'n croesawu eich cyhoeddiad.
Y llynedd, dangosodd adolygiad nad yw dirwyo rhieni am dynnu plant o'r ysgol yn ystod y tymor yng Nghymru wedi cael unrhyw effaith ar gyfraddau absenoldeb yn gyffredinol. A yw'n iawn y dylai rhieni gael eu dirwyo am dynnu eu plant o'r ysgol am wythnos i fynd â hwy ar wyliau?