Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr iawn, Leanne. Cyflwynais fynediad at y grant datblygu disgyblion yn 2018-19 i ddarparu cymorth ychwanegol i deuluoedd yn uniongyrchol, er mwyn cynorthwyo'r rheini sydd ei angen fwyaf i allu talu rhai o'r costau sy'n gysylltiedig â'r diwrnod ysgol. Ar gyfer 2019-20, rydym wedi mwy na dyblu'r arian a fydd ar gael i gefnogi teuluoedd yn y ffordd hon.