Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch, Weinidog, am amlinellu'r holl gymorth rydym yn ei roi, oherwydd yn amlwg, rydym yn gwneud ein gorau glas yng Nghymru i liniaru'r cyni a ddaw o San Steffan. Ond credaf y bydd yn rhaid i mi ofyn—ac rydych wedi nodi'r angen i sicrhau bod prydau ysgol am ddim ar gael i fwy o blant ifanc—a ydych wedi asesu effaith credyd cynhwysol ar y cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, a'r effaith y gallai hynny ei chael ledled y rhanbarth?