Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch yn fawr, Llyr. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob disgybl sydd ag awtistiaeth mewn ysgolion gyflawni eu potensial llawn. Bydd ein diwygiadau uchelgeisiol i ADY yn trawsnewid y system bresennol ar gyfer cefnogi dysgwyr yn llwyr, ac yn rhoi proses integredig a chydweithredol ar waith ar gyfer asesu, cynllunio a monitro'r cymorth sydd ar gael.