Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 13 Mawrth 2019.
Mae'n flin iawn gennyf glywed, Mark, am y profiadau a amlinellwyd gennych yn y Siambr y prynhawn yma. A gwn nad chi fydd yr unig Aelod Cynulliad sydd wedi cael gwaith achos tebyg yn eu bag llythyrau. Dyna'r union reswm pam y bu angen inni newid ein system ADY, gan nad yw'r system bresennol, mewn rhai achosion, yn diwallu anghenion plant unigol a'u teuluoedd. A dyna pam fod gennym y cynllun gweithredu sydd gennym, wrth i ni newid o'r hen system i'r system newydd. Ni allaf wneud sylwadau ar unrhyw achosion unigol, ond rwy'n dweud yn glir bob amser wrth yr Aelodau, os ceir achosion lle teimlant y gallaf fod o gymorth, rwy'n fwy na pharod i wneud yr hyn a allaf.