Wardiau Cymysg mewn Ysbytai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:46, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael gwared ar wardiau cymysg ac i sicrhau diogelwch, preifatrwydd ac urddas cleifion. Bydd pob datblygiad ysbyty newydd yn cael ei adeiladu i sicrhau y ceir darpariaeth un rhyw, gyda chanllawiau yn argymell isafswm o 50 y cant o ystafelloedd gwely sengl gyda chyfleusterau en-suite.