Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:53, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rydym yn adolygu ein cynllun gweithredu rheoli tybaco i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd pellach. Rydym yn edrych eto ar y strwythur sefydliadol, er enghraifft, ein gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu. Yn galonogol, gwelsom fwy o bobl yn defnyddio gwasanaeth Helpa Fi i Stopio y GIG ym mis Ionawr o gymharu â mis Ionawr y llynedd—cynnydd o 20 y cant yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth—ond wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn deall pa ddulliau sydd ar gael a sut y cyrhaeddwn bwynt lle gallwn berswadio mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael i berswadio pobl i roi'r gorau i ysmygu.