2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 13 Mawrth 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i atal saib yn y gostyngiad mewn cyfraddau ysmygu yng Nghymru?
Rydym yn adolygu ein cynllun gweithredu rheoli tybaco i sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd pellach. Rydym yn edrych eto ar y strwythur sefydliadol, er enghraifft, ein gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu. Yn galonogol, gwelsom fwy o bobl yn defnyddio gwasanaeth Helpa Fi i Stopio y GIG ym mis Ionawr o gymharu â mis Ionawr y llynedd—cynnydd o 20 y cant yn nifer y bobl sy'n gofyn am gymorth—ond wrth gwrs, mae gennyf ddiddordeb bob amser mewn deall pa ddulliau sydd ar gael a sut y cyrhaeddwn bwynt lle gallwn berswadio mwy o bobl i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael i berswadio pobl i roi'r gorau i ysmygu.
Efallai eich bod yn ymwybodol, Weinidog iechyd, fod heddiw'n Ddiwrnod Dim Smygu ledled y DU, sy'n annog pobl wrth gwrs i fanteisio ar y cyfle i ystyried rhoi'r gorau i ysmygu. Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos yn eu hamcanestyniadau eu bod yn disgwyl i chi fel Llywodraeth fethu eich targed o leihau cyfraddau ysmygu ledled Cymru i 16 y cant erbyn 2020, a'ch bod oddeutu pum mlynedd ar ei hôl hi ar hyn o bryd o ran cyflawni'r targed penodol hwnnw. Wrth gwrs, mae hynny'n peri cryn bryder. Mae'n peri pryder o safbwynt iechyd y cyhoedd yn y dyfodol. Credaf mai'r hyn sydd angen inni ei weld yw newid agwedd llwyr ar ran y Llywodraeth, yn enwedig o ran y defnydd o e-sigaréts i hybu rhoi'r gorau i ysmygu. Felly, fel y gwyddoch, mae elusen Ymchwil Canser y DU wedi dweud yn glir iawn fod e-sigaréts yn fwy diogel o lawer nag ysmygu tybaco. Mae pawb yn cydnabod, ar wahân i Lywodraeth Cymru, mae'n ymddangos, y gallant fod yn ddefnyddiol iawn i helpu pobl i roi'r gorau i ysmygu yn unol â chyngor GIG yr Alban a GIG Lloegr. Felly, a allwch egluro beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar e-sigaréts fel dull o roi'r gorau i ysmygu? Diolch.
Rwy'n cydnabod y pwyntiau ynghylch y targedau a'r awydd i gyrraedd y targedau a'n gallu i wneud hynny. Mewn gwirionedd, cyn inni gyflawni ein targed interim o 19 y cant, roedd yna bryder cyffredinol na fyddem yn gwneud hynny. Felly, mae'n bosibl o hyd i ni gyflawni a chyrraedd y targed hwnnw, targed a oedd yn seiliedig ar dystiolaeth lle roedd gennym sail dros ei osod, a dros fod eisiau ei gyflawni.
O ran y dystiolaeth sy'n ymwneud ag e-sigaréts, darperir gwybodaeth am e-sigaréts eisoes pan fydd pobl yn ymgysylltu â gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu. Mae'r pwynt ynghylch dyfodol e-sigaréts yn un y mae angen i ni benderfynu arno yma yng Nghymru, ond buaswn yn cywiro'r awgrym fod e-sigaréts yn llawer mwy diogel. Credaf ei bod yn well o lawer inni gydnabod bod e-sigaréts yn llawer llai niweidiol na mwg tybaco, ond y wobr fawr i'w hennill yw cael mwy o bobl nad ydynt yn ysmygu tybaco, a chredaf fod y ffordd rydych yn sôn am hynny yn wirioneddol bwysig. Mae diddordeb gennyf yn y dystiolaeth ddiweddaraf, ond nid yn unig hynny—rydym yn ceisio dod â phobl ynghyd yng Nghymru i lunio datganiad consensws yng Nghymru ar le e-sigaréts, neu fel arall, o fewn gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.
Ymddengys eich bod yn chwarae gyda geiriau heb fod angen, Weinidog, gyda phob parch. Yr unig reswm y cyflawnoch chi eich targed blaenorol oedd oherwydd y defnydd o e-sigaréts gan ddegau o filoedd o bobl ledled Cymru sy'n eu defnyddio i roi'r gorau i ysmygu. Ond wrth gwrs, bu'n rhaid iddynt gael gafael arnynt eu hunain gan nad oeddent ar gael yma—fel sy'n digwydd yn Lloegr, lle maent ar gael—drwy wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Felly, a gaf fi ofyn ichi unwaith eto: a wnewch chi ystyried caniatáu i wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu GIG Cymru ddefnyddio e-sigaréts a hyrwyddo'r defnydd o e-sigaréts i gleifion ac unigolion ledled Cymru sy'n awyddus i leihau'r niwed y maent yn ei ddioddef o ganlyniad i ysmygu? Rydych yn dweud eu bod yn llawer llai niweidiol, rwyf innau'n dweud eu bod yn llawer mwy diogel. Ni chredaf fod y ddau'n anghydnaws â'i gilydd mewn gwirionedd.
Nawr, a gaf fi ofyn ynglŷn â chyfraddau ysmygu yn benodol ymhlith menywod beichiog yma yng Nghymru? Ar hyn o bryd, mae oddeutu 20 y cant o fenywod beichiog yng Nghymru yn ysmygu, a gwyddom y gall hynny, wrth gwrs, arwain at broblemau a chymhlethdodau sylweddol mewn perthynas â beichiogrwydd a geni, gan gynnwys cyfyngu ar dwf plant yn ddiweddarach mewn bywyd a chynyddu'r tebygolrwydd y byddant yn datblygu clefydau megis asthma. Nawr, gwyddom fod y ganran o fenywod beichiog sy'n ysmygu yn uwch yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r DU, gan gynnwys Lloegr a'r Alban, felly a gaf fi ofyn i chi yn benodol pa waith rydych yn ei wneud fel Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar ysmygu ymhlith menywod beichiog fel y gallwn leihau'r lefelau hyn ac arwain y ffordd yn y DU, yn hytrach nag aros ar waelod y tabl?
Mewn gwirionedd, mae gwaith sylweddol yn mynd rhagddo eisoes ar geisio helpu menywod i roi'r gorau iddi cyn ac yn ystod eu beichiogrwydd. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei gyflawni ar y cyd â bydwragedd ac ymwelwyr iechyd. Efallai ichi golli'r ffaith fy mod, y llynedd, wedi lansio rhan o'n hymgyrch ar hyn yn Ysbyty Glan Clwyd. Ac mae hynny ynghyd â gweithio gyda'r bydwragedd sy'n darparu'r gofal hwnnw yn y gymuned yn ogystal â mewn ysbytai, ac yn ceisio newid rhai o'r agweddau tuag at ysmygu hefyd, oherwydd os edrychwch y tu allan i unrhyw uned famolaeth yn y wlad, bron â bod, fe welwch bentwr o stympiau sigaréts. Nawr, mae her i ni yn hynny o beth sy'n ymwneud â newid canfyddiad pobl o'r hyn y maent yn ei wneud, nid yn unig i'w hunain, nid yn unig pan fyddant yn digwydd bod yn feichiog, ond mewn gwirionedd, i bobl eraill sy'n mynd a dod o'r unedau hynny. Felly, mae gennym ystod o gamau rydym eisoes yn eu cymryd. Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan dystiolaeth a ddatblygwyd gan fydwragedd wrth weithio gyda theuluoedd, gan fod hyn yn ymwneud â'r cymorth y mae menyw'n ei gael gan ei phartner, sy'n aml yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran y tebygolrwydd y byddant yn manteisio ar y cyfle i roi'r gorau i ysmygu.
O ran yr her ynglŷn ag a ydym yn disgrifio e-sigaréts yn fwy diogel neu'n llai niweidiol, mae'r iaith yn bwysig mewn gwirionedd. Os ydych yn galw rhywbeth yn 'ddiogel' mewn cyngor, rydych yn cyfleu rhywbeth yn ei gylch. A chredaf fod hynny'n bwysig. Dyna pam, os yw e-sigaréts yn mynd i gael eu defnyddio, fod angen inni fod yn glir ynghylch yr iaith a'r termau y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ym mha faes bynnag o ofal iechyd, yn eu defnyddio wrth ymgysylltu â'r cyhoedd yn eu cylch. Efallai eich bod heb glywed fy ateb i'r pwynt diwethaf ynglŷn â rhoi'r gorau i ysmygu. Rydym yn dod â phobl ynghyd yng Nghymru i gael datganiad consensws ar y defnydd o e-sigaréts, neu fel arall, mewn gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu. Bydd hwnnw'n benodol ac wedi'i dargedu. Ni fydd yn cynnwys safbwynt cyffredinol fod e-sigaréts yn ddiogel. Bydd yn ymwneud ag i ba raddau y maent yn ddull defnyddiol neu beidio, ac wrth gwrs, byddwn yn edrych ar y dystiolaeth a ddarparwyd gan yr Alban a Lloegr wrth wneud penderfyniad yma yng Nghymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Lywydd. Ym mis Chwefror 2016, defnyddiodd y Prif Weinidog ar y pryd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i amddiffyn record Llywodraeth Cymru ar y pryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau iechyd. Wrth gwrs, pan edrychwch ar yr hyn roedd yr adroddiad hwnnw'n ei ddweud mewn gwirionedd, ymhlith pethau eraill, dywedai hyn:
ar hyn o bryd, nid oes gan Fyrddau Iechyd ddigon o allu a chapasiti technegol sefydliadol i sbarduno newidiadau ystyrlon, ac mae'n bosibl y bydd angen help llaw arweiniol canolog cryfach.
Yna, ddwy flynedd yn ddiweddarach, fis Ionawr diwethaf, dywedodd yr adolygiad seneddol wrthym fod diwylliant gwrth-risg yn llesteirio newid yn y system iechyd a gofal ac yn cyfyngu ar y gallu i wneud penderfyniadau effeithiol ac effeithlon. A yw'r Gweinidog yn derbyn safbwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod angen help llaw arweiniol canolog cryfach, a beth y mae'n ei wneud i newid y diwylliant gwrth-risg hwnnw? Diau y bydd yn dweud wrthym mai'r ffordd o gyflawni newid parhaol yw drwy ddefnyddio ei gronfa drawsnewid, ond rwy'n siŵr y byddai'n cydnabod bod hwnnw'n swm bach iawn o arian o'i gymharu â'r gyllideb gyffredinol. Pa mor hyderus yw'r Gweinidog fod byrddau iechyd lleol yn cyflawni blaenoriaethau allweddol y Llywodraeth yn awr?
Mewn gwirionedd, wrth sôn am y modd y câi'r gwasanaeth iechyd ei drafod yn 2016, fe fyddwch yn cofio nifer o chwaraewyr gwleidyddol yn gwneud awgrym cyffredinol, diog a chwbl anghywir mai gwasanaeth iechyd Cymru oedd y gwaethaf yn y Deyrnas Unedig. Mewn gwirionedd, roedd adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dweud nad oedd hynny'n wir. Fodd bynnag, roedd yn cynnwys beirniadaeth ar bob rhan o'r gwasanaeth iechyd o fewn y pedair gwlad yn y DU, ac roedd hynny'n cynnwys y feirniadaeth rydych wedi'i darllen ynglŷn â'n sefyllfa yng Nghymru—bod gennym strwythur mwy rhesymegol i'r ffordd rydym yn trefnu gwasanaethau iechyd, ond bod angen gwireddu hynny o ran cyflawni.
Ac o ran y pwynt fod angen help llaw arweiniol mwy canolog, rwy'n cael fy annog yn rheolaidd i wneud rhagor o ymyriadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd eu gweithredu. Mewn gwirionedd, rwyf wedi mabwysiadu dull gweithredu mwy ymyraethol, ond yr her yw sut y mae gennym system wedi'i sefydlu, nid agwedd un Gweinidog yn unig. A byddwch yn cofio ein bod yn sôn am gronfeydd mwy canolog yn 'Cymru Iachach', rydym yn sôn am gael cynllun clinigol cenedlaethol, rydym yn sôn am gael gweithrediaeth ganolog i'r GIG yng Nghymru yn ogystal, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo'n dda ac yn dod at ei gilydd. A byddaf yn ystyried opsiynau ar gyfer creu'r corff hwnnw i ddarparu'r arweinyddiaeth a'r arweiniad canolog cliriach hwnnw o fewn y gwasanaeth i weithio gyda'n byrddau iechyd a'n hymddiriedolaethau yma yng Nghymru.
Lywydd, mae'r hyn a ddywed y Gweinidog, i ryw raddau, yn galonogol, ond mae'n defnyddio'r ymadrodd 'sôn am', ac rwy'n credu bod angen i ni gyfeirio at yr hyn sy'n digwydd yn awr mewn gwirionedd. O fis Ebrill ymlaen, bydd ein byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am swm digyffelyb o arian cyhoeddus yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn y Siambr hon yn anghytuno â'r angen i fuddsoddi. Nawr, bydd cyrff sector cyhoeddus eraill yn eiddigeddus o'r adnoddau hynny sydd ar gael, er gwaethaf y ffaith bod gan gyrff sector cyhoeddus eraill rolau allweddol yn cefnogi iechyd pobl Cymru, fel y mae'r Gweinidog ei hun wedi'i ddweud mewn ymateb i gwestiynau eraill y prynhawn yma. Bydd gan y cyrff cyhoeddus hynny hawl i ofyn i ni, rwy'n credu, a yw'r arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio i gyflawni'r amcanion strategol cenedlaethol. Nawr, un o'r amcanion hyn yw symud gwasanaethau o ofal eilaidd i ofal sylfaenol ac unwaith eto, credaf fod cefnogaeth eang i hynny ar draws y Siambr hon.
Ond mae angen i ni edrych ar y gwariant gwirioneddol dros y pum mlynedd ddiwethaf, ac rydym wedi gweld byrddau iechyd lleol yn parhau i wneud y gwrthwyneb. Mae'r gwariant ar ofal sylfaenol wedi cynyddu £74 miliwn yn nhermau arian parod, ond mae hwnnw, wrth gwrs, dros y pum mlynedd, yn doriad mewn termau real. Mae'r gwariant ar ofal eilaidd wedi llyncu'r rhan fwyaf o'r cynnydd, ac mae'n cael tua £845 miliwn yn ychwanegol. Nawr, mae hyn yn dangos yn glir i mi fod byrddau iechyd lleol wedi methu symud adnoddau a gwasanaethau o ysbytai i mewn i gymunedau, er bod hynny'n un o flaenoriaethau eglur Llywodraeth Cymru. Gwelwn hynny hefyd yn y cynnydd yn nifer y staff, cynnydd bach iawn yn nifer y meddygon ysbyty, ond caiff hynny ei wrthbwyso gan y lleihad yn nifer y meddygon teulu. A allwch egluro i ni, Weinidog, pam eich bod yn caniatáu i fyrddau iechyd lleol ddiystyru'r polisïau rydych wedi'u nodi yn hyn o beth?
Nid wyf yn credu bod hwnnw'n ddisgrifiad teg o gwbl. Pan edrychwch ar yr hyn rydym yn ei wneud gyda gwariant y GIG, rwy'n falch o'r ffaith ein bod yn rhoi mwy o adnoddau i'r gwasanaeth iechyd gwladol, er ein bod wedi profi 10 mlynedd o gyni Torïaidd, a bod y penderfyniadau a wnawn yn anhygoel o anodd ac mae iddynt ganlyniadau go iawn ym mhob gwasanaeth cyhoeddus. Ac nid oes y fath beth a phenderfyniad sy'n hawdd i'w wneud. Os rhown fwy o arian i wahanol wasanaethau cyhoeddus, yn amlwg byddwn yn wynebu heriau ynglŷn ag a ydym yn rhoi digon o gyllid i'r gwasanaeth iechyd i ddarparu'r math o ofal y mae pob un ohonom yn ei ddisgwyl i ni ein hunain. Felly, yn ystod y tymor diwethaf, gwnaethom benderfyniad bwriadol i roi arian i'r gwasanaeth iechyd gwladol a derbyn y byddai hynny'n cyfyngu ar arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ni allwch esgus eich bod yn gallu rhoi mwy o arian tuag at bopeth, fel y mae rhai pobl yn y Siambr hon yn ei wneud yn rheolaidd yn y cwestiynau hyn, er iddynt ymgyrchu dros gyni mewn tri etholiad cyffredinol yn olynol.
O ran sut i sicrhau bod sefydliadau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd, mae'r gronfa drawsnewid yn canolbwyntio ar symud mwy o weithgarwch ac adnoddau o'i amgylch i mewn i'n system gofal sylfaenol, ac yn fwy na hynny, i'r bartneriaeth rhwng gofal sylfaenol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae hynny'n golygu bod angen i'r gwasanaeth iechyd fod yn bartner gwell yn y sgwrs honno a darparu'r gwasanaethau hynny gyda'i gilydd wedyn.
Felly, mewn gwirionedd, os edrychwch ar y gweithgarwch rydym yn ei wneud yn awr, yn ogystal ag ar y gronfa drawsnewid ei hun, fe welwch fod pob un o'r rheini'n cael eu cefnogi gan bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol. Ac mae hynny'n cynnwys iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector, ac o ddechrau mis Ebrill ymlaen, bydd pob partneriaeth ranbarthol hefyd yn cynnwys lleisiau o'r maes tai a'r maes addysg i sicrhau bod gennym sgwrs gydgysylltiedig gyda phob un o ranbarthau Cymru ynglŷn â sut i drawsnewid gwasanaethau, a sut y dylai'r adnoddau ddilyn pan fo cytundeb ynghylch beth y dylem ei wneud i'w newid, i sicrhau newid go iawn ar draws y system gyfan yn hytrach na phrosiectau bach unigol y gallai pob un ohonom sôn amdanynt ar lefel leol ond na fydd yn trawsnewid ein system. Dyna'n sicr yw fy amcan.
Lywydd, rwy'n falch iawn o glywed y Gweinidog yn dweud mai dyna yw ei amcan, ond buaswn yn dweud wrtho fod ei blaid wedi bod yn rheoli'r gwasanaeth iechyd ers 20 mlynedd yng Nghymru, ac ers dyddiau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, rydym wedi bod yn sôn—unwaith eto, gyda chefnogaeth drawsbleidiol eang—am gael gwared ar adnoddau o ofal eilaidd a buddsoddi mewn gofal sylfaenol, a mynd gam ymhellach yn wir a sicrhau, fel y mae'r Aelod eisoes wedi'i ddweud y prynhawn yma, fod cydweithrediad llawer mwy effeithiol rhwng gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Buaswn yn dweud wrth y Gweinidog nad yw hyn yn newydd ac nad yw'n gysyniad anodd ac nad oes neb yn dadlau gydag ef ynglŷn ag a fydd rhai o'r prosiectau o dan y gronfa drawsnewid yn gadarnhaol ac yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ai peidio. Er enghraifft, rwy'n falch iawn o weld—gwn fod hyn wedi'i gyflwyno fel blaenoriaeth gan Hywel Dda a'u partneriaid—fod y bwrdd iechyd lleol yn talu am rai elfennau o ofal cymdeithasol i'w alluogi i sicrhau bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty yn gynt. Ymddengys i mi fod hynny'n hollol gadarnhaol, ond nid wyf yn gwybod pam fod angen i ni wneud hynny ar sail arbrofol a pham na all y Gweinidog annog—wel, cyfarwyddo mewn gwirionedd—pob bwrdd iechyd lleol i wneud hyn.
Rwy'n derbyn rhywfaint o'r hyn y mae'r Gweinidog eisoes wedi'i ddweud y prynhawn yma am geisio rhoi help llaw arweiniol cryfach, ond gadewch i ni fod yn glir yma, Lywydd: mae'r Gweinidog yn penodi'r byrddau iechyd lleol, mae'n pennu eu blaenoriaethau, mae'n rhoi eu cyllid iddynt. Roeddwn yma yn y lle hwn a chynorthwyais y Gweinidog ar y pryd i ysgrifennu'r ddeddfwriaeth sy'n ei gwneud yn gwbl glir fod y byrddau iechyd lleol yn atebol iddo. A defnyddiodd y Gweinidog ar y pryd y geiriau hyn, rwy'n credu, yn y Siambr hon: mae'n hollbwysig fod penderfyniadau am iechyd yn cael eu gwneud gan y bobl y gall y bobl eu diswyddo—mewn geiriau eraill, y gwleidyddion.
Pan fydd y Gweinidog wedi dysgu'r gwersi hynny o'r broses drawsnewid—ac nid wyf yn sicr fod angen i ni eu dysgu hwy eto—ond pan fydd wedi dysgu'r gwersi hynny, pa sicrwydd y gall ei roi i ni y prynhawn yma y bydd yn mynnu bod byrddau iechyd lleol a'u partneriaid yn cyflawni'r arferion da y mae prosiectau'r gronfa drawsnewid yn eu nodi? Oherwydd, fel y mae newydd ei ddweud, nid ydym angen mwy o brosiectau bach lleol, ni waeth pa mor llwyddiannus ydynt, os nad yw'r rheini'n gynaliadwy ac yn cael eu cyflwyno.
Wel, pan fyddwn yn sôn am y modd rydym yn trawsnewid ac yn newid y system, nid wyf yn siŵr a oes hanes gwych o lwyddiant yn y sgwrs ynglŷn â phwy sy'n gallu diswyddo pwy. Mewn gwirionedd, nid yw hynny'n cynhyrchu'r math o drawsnewid rydym eisiau ei weld yn y system. Pe bai hynny'n wir—edrychwch ar y system yn Lloegr, lle mae gan brif weithredwyr ymddiriedolaethau acíwt y GIG rychwant oes cyfartalog o lai na dwy flynedd—ac nid dyna'r ffordd o weithredu system. Yn wir, roedd yn ddiddorol iawn clywed—. Roedd Syr Bruce Keogh, yn ei araith ymadael—nid yn yr araith a roddodd tra oedd yn edrych ymlaen at dreulio llawer mwy o flynyddoedd yn y swydd yng nghynhadledd Cydffederasiwn y GIG—pan oedd yn gadael GIG Lloegr, siaradodd am yr her honno, y ffordd y mae arweinyddiaeth, yn y system yn Lloegr, wedi cael ei wneud yn annynol a sut nad yw'n caniatáu i bobl wneud penderfyniadau mwy hirdymor er mwyn darparu'r math o lwybrau i gyflawni'r gwerth y mae pob un ohonom eisiau ei weld. Dyna pam fod sicrhau cynllun iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd mor bwysig. Dyna pam fod y rhaglen drawsnewid mor bwysig—er mwyn cyrraedd y pwynt lle mae gennym fodelau i'w cyflwyno ar raddfa fawr.
Rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â fy nisgwyliadau. Ni fyddwn yn gwneud hyn drwy gyflawni un weithred neu drwy fynd o gwmpas yn bygwth swyddi pobl os nad ydynt yn gwneud yr hyn rwyf eisiau iddynt ei wneud. Nid dyna'r ffordd i sicrhau newid yn y system. Bydd yn gyfuniad o bethau gwahanol yn dibynnu ar lle mae pob partneriaeth arni. Mewn gwahanol rannau o Gymru, maent wedi'u halinio'n well i wneud hynny gyda'i gilydd yn rhywle. Felly, yng Ngwent, gwelwn ymrwymiad go iawn i'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau plant ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Rwy'n credu y byddant yn cael y maen i'r wal. Ni fyddant fy angen i i'w goruchwylio a'u hannog i wneud hynny. Maent eisiau arwain yn yr ardaloedd hynny. Dyna'r newid diwylliannol y mae angen i ni ei gyflawni oherwydd bydd hynny'n llawer mwy effeithiol o ran cyflawni'r canlyniadau y mae hi a minnau a phawb arall yn y Siambr hon yn dymuno eu gweld.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, cyhoeddodd WalesOnline stori newyddion yn tynnu sylw at yr anhawster y mae llawer o gleifion yn ei gael i gofrestru gyda deintydd GIG. Roedd y gohebydd newyddion ei hun wedi symud i Gaerfyrddin o Gaint, a phan gafodd broblem ddeintyddol sydyn, canfu fod y deintydd agosaf a oedd yn barod i gynnig apwyntiad yn Llanelli, a oedd yn golygu taith o 50 milltir i gyd. Wrth gwrs, nid yw'r broblem wedi'i chyfyngu i orllewin Cymru. Wrth edrych ar wefan GIG Cymru y bore yma gwelais mai tri deintydd yn unig yng Nghaerdydd sy'n cynnig apwyntiadau GIG. I fod yn deg, mae hynny ychydig yn well na'r hyn oedd y tro diwethaf i mi edrych ym mis Ionawr, pan nad oedd unrhyw ddeintydd yn gwneud hynny. Nid oes unrhyw ddeintyddion yng Nghasnewydd yn derbyn cleifion y GIG ar hyn o bryd, ac os ydych yn byw ym Mrycheiniog a Maesyfed, gallwch ddisgwyl taith hir, gan mai dwy ddeintyddfa yn unig yn yr ardal gyfan sydd ag apwyntiadau ar gael. Pa gamau y gellir eu cymryd i ddatrys y broblem hon?
Mae ymateb y byd deintyddol i 'Cymru Iachach' wedi bod yn galonogol iawn a'r ffaith eu bod eisiau edrych ar hwnnw fel hwb i'r diwygio y maent yn dymuno ei weld ac angen ei sicrhau er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn darparu'r math o wasanaeth y maent eisiau ei ddarparu ac y mae pob un o'n cymunedau yn ei ddisgwyl. Mae heriau o gwmpas y wlad o ran ein capasiti i dderbyn cleifion GIG ychwanegol, ond mewn gwirionedd, mae hynny ynghlwm wrth ddiwygio cytundebol. Felly, ers iddi ddod i'r swydd, mae'r prif swyddog deintyddol wedi sicrhau bod diwygio'n digwydd yn llawer cyflymach o fewn y contract yma na chyn iddi gyrraedd. Rwyf wedi'i hannog ac wedi'i galluogi i wneud hynny, ac mewn gwirionedd, pan welwch y datganiad nesaf ar ein sefyllfa mewn perthynas â deintyddiaeth, credaf y bydd gan Aelodau rywfaint o optimistiaeth ynglŷn â'r dyfodol, ac rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi mwy yn yr hydref, yn dibynnu ar y dystiolaeth a gawsom. Bellach, mae gennym nifer fwy o ddeintyddfeydd yn cymryd rhan yn y rhaglen diwygio contractau. Ymhell o fod yn amharod i wneud hynny, fel roedd nifer o ddeintyddfeydd, rydym bellach yn gweld gwahanol bobl yn dangos brwdfrydedd go iawn er mwyn newid y ffordd y maent yn gweithio, oherwydd, mewn gwirionedd, byddai'n well ganddynt gael mwy o gapasiti i wneud y pethau cywir, ac mae hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â darparu'r gofal cywir ar yr adeg gywir, yn hytrach na darparu triniaethau nad ydynt yn seiliedig ar dystiolaeth mewn contract sy'n gwobrwyo'r math anghywir o ymddygiad.
Felly, os bydd yr Aelod yn amyneddgar am ychydig bach o amser eto, byddaf yn gallu gwneud datganiad iddo ef ac i'r Aelodau eraill ynglŷn â lle rydym arni a'n disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.
Wel, diolch i chi am y rhagadroddiad hwnnw ar yr ailwampio cytundebol. Ac mae'n galonogol eich bod yn edrych ar hyn, ac edrychaf ymlaen at y datganiad yn yr hydref. Nawr, wrth gwrs, ni allaf ragweld yr hyn y bydd y datganiad hwnnw yn ei ddweud, ond os caf dynnu sylw at ychydig o faterion sy'n ymwneud â'r contract—mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn dweud bod recriwtio a chadw deintyddion yng Nghymru wedi bod yn broblem ers peth amser, ac wrth gwrs, mae'r contractau sydd ar waith ar hyn o bryd yn rhan o'r broblem. Maent wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn y gorffennol i ddyfeisio system sy'n gwneud Cymru yn wlad fwy deniadol i ddeintyddion weithio ynddi. Mae rhai o'r problemau yn ymwneud â'r targedau anodd mewn perthynas ag unedau gweithgarwch deintyddol y gelwir amdanynt yn awr. Mae gennym system adfachu yn ogystal, lle bydd arian yn cael ei adfachu os byddant yn tangyflawni o fwy na 5 y cant. Felly, mae'r rhain i gyd yn faterion sy'n bwydo i mewn i'r system gytundebol braidd yn anhylaw hon rydych wedi'i nodi. Felly, gwn eich bod yn dweud bod ailwampio ar droed ac y byddwn yn cael datganiad yn yr hydref. Ni wn a allwch wneud unrhyw sylw ar hyn o bryd ar rai o'r problemau rwyf wedi'u crybwyll.
Gallaf. Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain yn rhanddeiliaid allweddol. Rwy'n cyfarfod â hwy bob blwyddyn. Mae ganddynt fynediad at y prif swyddog deintyddol a'r swyddogion yn ei hadran. Ac rydych yn gywir yn dweud bod unedau gweithgarwch deintyddol, ynghyd â'r contract, yn rhan hanfodol o ddiwygio. Lle rydym yn gweld deintyddfeydd yn manteisio ar gyfleoedd diwygio contractau—mae'n newid y ffordd y maent yn cyflawni eu gwaith, ac mae hynny ynddo'i hun yn gwneud Cymru yn wlad fwy deniadol i ddeintyddion weithio ynddi, ond hefyd y gymysgedd o sgiliau sydd gan bobl, niferoedd y deintyddion, y cynorthwywyr ac eraill a fydd yn gweithio ym mhob un o'r deintyddfeydd hynny. Felly, mae hynny'n bendant yn rhan o'r broses o ddarparu gofal gwell, lle gwell i bobl weithio ynddo, ac mewn gwirionedd, gwell gwerth am yr arian cyhoeddus rydym yn ei fuddsoddi yn y system.
Ydi, mae hynny'n galonogol. Nawr, os gallaf droi'n ôl at fater yr unedau gweithgarwch deintyddol, yn amlwg, bydd hyn i gyd, gobeithio, yn dod yn amlwg yn natganiad yr hydref, ond un broblem gyda'r adfachu yw'r ffaith nad yw'r arian sy'n cael ei gymryd yn ôl gan y deintyddfeydd wedi'i neilltuo ac felly ni fydd o reidrwydd yn cael ei ailfuddsoddi yng ngwasanaeth deintyddol Cymru. Fel y gwyddom o faterion sy'n cael eu trafod yn barhaus yn y Siambr hon, mae gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru yn brin o arian mewn llawer o feysydd, felly y broblem yw bod llawer o'r arian sy'n cael ei adfachu yn cael ei ddefnyddio i lenwi bylchau ariannu mewn meysydd eraill yn system GIG Cymru. Felly, rydym mewn sefyllfa wrthnysig braidd ar hyn o bryd, fel y mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain wedi'i nodi, lle ceir rhestrau aros hir a chleifion yn gorfod teithio milltiroedd lawer i gael archwiliadau, ond ar yr un pryd, mae arian yn cael ei dynnu o'r system ddeintyddiaeth a'i roi i feysydd eraill o fewn y GIG. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn ystyried hynny wrth ailwampio'r contractau.
Ie. Rwy'n glir iawn ynglŷn â'r ffordd y dylid defnyddio arian sy'n cael ei ddyrannu a'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau deintyddol, ac ni ddylid ei defnyddio i lenwi bylchau mewn llinellau cyllideb eraill o ystyried ein bod yn cydnabod bod gennym fwy i'w wneud i ddarparu'r gofal o ansawdd a'r gwasanaethau y mae pob cymuned yng Nghymru, fel rwy'n ei ddweud, yn eu haeddu ac yn eu disgwyl.