Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 13 Mawrth 2019.
Mae 'Cymru Iachach' yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer system iechyd a gofal cymdeithasol ddi-dor. Rydym wedi rhoi fframwaith cyfreithiol cryf ar waith i sicrhau hynny, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a bydd dulliau newydd o gydweithio a datblygu staff yn helpu i wireddu'r weledigaeth honno.