Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ddiweddar, cyhoeddodd WalesOnline stori newyddion yn tynnu sylw at yr anhawster y mae llawer o gleifion yn ei gael i gofrestru gyda deintydd GIG. Roedd y gohebydd newyddion ei hun wedi symud i Gaerfyrddin o Gaint, a phan gafodd broblem ddeintyddol sydyn, canfu fod y deintydd agosaf a oedd yn barod i gynnig apwyntiad yn Llanelli, a oedd yn golygu taith o 50 milltir i gyd. Wrth gwrs, nid yw'r broblem wedi'i chyfyngu i orllewin Cymru. Wrth edrych ar wefan GIG Cymru y bore yma gwelais mai tri deintydd yn unig yng Nghaerdydd sy'n cynnig apwyntiadau GIG. I fod yn deg, mae hynny ychydig yn well na'r hyn oedd y tro diwethaf i mi edrych ym mis Ionawr, pan nad oedd unrhyw ddeintydd yn gwneud hynny. Nid oes unrhyw ddeintyddion yng Nghasnewydd yn derbyn cleifion y GIG ar hyn o bryd, ac os ydych yn byw ym Mrycheiniog a Maesyfed, gallwch ddisgwyl taith hir, gan mai dwy ddeintyddfa yn unig yn yr ardal gyfan sydd ag apwyntiadau ar gael. Pa gamau y gellir eu cymryd i ddatrys y broblem hon?