Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 13 Mawrth 2019.
Diolch. Rydym yn ymgynghori ar ein strategaeth newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Bydd y strategaeth hon yn nodi ein hamcanion hirdymor i leihau ac atal gordewdra ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o bolisïau ataliol, cyllid a deddfwriaeth, fel y filltir ddyddiol, teithio llesol a llwybr gordewdra.