2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Mawrth 2019.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo gordewrdra ymhlith plant a phobl ifanc ? OAQ53566
Diolch. Rydym yn ymgynghori ar ein strategaeth newydd 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Bydd y strategaeth hon yn nodi ein hamcanion hirdymor i leihau ac atal gordewdra ledled Cymru. Ar hyn o bryd, mae gennym amrywiaeth o bolisïau ataliol, cyllid a deddfwriaeth, fel y filltir ddyddiol, teithio llesol a llwybr gordewdra.
Fel dŷch chi'n gwybod, mae un o bob pedwar plentyn pedair a phump oed un ai dros bwysau neu'n ordew. Mae Lloegr a'r Alban wedi gosod targedau i haneru gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc erbyn 2030. Pam nad oes gan Lywodraeth Cymru darged? Fel gyda thaclo tlodi, heb darged does dim posib gweld sut dylai'r dyfodol edrych. Does dim nod clir i'w chyflawni a dim modd monitro'r gweithredu i sicrhau ei fod yn arwain at y canlyniadau cywir. Unwaith eto, mae Llafur yn osgoi cymryd cyfrifoldeb mewn maes pwysig. A wnewch chi osod targed?
Rwy'n deall y ddadl ynghylch targedau yn iawn. Yr her, fodd bynnag, o ran y targedau a osodwyd gan Loegr a'r Alban, yw nad oes sylfaen dystiolaeth yn sail i'r targedau hynny. Nid wyf wedi cyfarfod ag unrhyw weithiwr proffesiynol iechyd y cyhoedd sydd wedi bod yn barod i ddweud wrthyf fod y targedau'n gwneud synnwyr a'u bod yn credu eu bod am eu cyrraedd. Y peth olaf rwyf am ei wneud yw gosod cyfres o dargedau uchelgeisiol na allwn eu cyflawni. Mae gennyf ddiddordeb mewn gweld sut rydym yn gwneud gwahaniaeth go iawn o ran sicrhau newid. Rydym wedi gweld llai o gynnydd yn niferoedd plant dros bwysau a gordew, ond yr her yw peidio â dweud eu bod wedi peidio â chynyddu, ond yn hytrach, sut y gallwn sicrhau bod y duedd yn mynd tuag yn ôl. Dyna'r her rydym yn ymgynghori yn ei chylch yn strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach.
Ond yn hollbwysig, nid oes a wnelo hyn â'r Llywodraeth yn dweud, 'Fe allwch ac mae'n rhaid i chi', gan fod angen inni weithio ochr yn ochr â phobl, â theuluoedd, i weld plant yn eu cyd-destun a'r dylanwadau gwahanol o'u cwmpas—pethau fel labelu bwyd a hysbysebu bwyd, beth sy'n mynd i mewn i'r bwyd a diod y mae pobl yn eu cael—yn ogystal â chael y sgwrs honno mewn ffordd nad yw'n feirniadol. Rhan o fy ofn gwirioneddol, os ydych yn dweud wrth rieni, 'Rydych yn gyfrifol am bwysau a maint eich plentyn', yw y bydd hynny'n troi'n sgwrs feirniadol ac yn peri i bobl droi cefn ar ble rydym am iddynt fod—i helpu pobl i wneud dewisiadau gwahanol.
Nid wyf yn argyhoeddedig—ac nid fi yn unig, nid yw ein prif swyddog meddygol yn argyhoeddedig chwaith—mai gosod targedau, fel rydych wedi awgrymu y dylem ei wneud, yw'r peth iawn i'w wneud ar gyfer y strategaeth. Wrth gwrs, byddaf yn atebol i'r lle hwn nid yn unig o ran sicrhau bod strategaeth ar waith ar ôl yr ymgynghoriad, ond o ran sicrhau ein bod yn gwneud y math o wahaniaeth y gwn y byddai pob Aelod yn yr ystafell hon am inni ei wneud.
Weinidog, rwy'n siŵr eich bod yn gwybod bod ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn dangos bod 12.5 y cant o blant pedair i bum mlwydd oed yn ordew, sy'n ganran ddychrynllyd ac yn uwch na chyfartaledd Cymru, a dyma'r ganran uchaf ond un o holl fyrddau iechyd Cymru. Pan fydd plant yn ordew, maent mewn perygl gwirioneddol o fynd yn fwy gordew wrth iddynt dyfu'n hŷn, ac mae angen inni wrthdroi'r duedd hon. Rwy'n cydnabod mai byrddau iechyd unigol sy'n gyfrifol am gyflwyno mesurau penodol i fynd i'r afael â gordewdra, ond mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn gwthio'r agenda hon. Felly, o gofio bod ystadegau gordewdra ar gynnydd, beth rydych yn ei wneud yn wahanol yn awr fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn?
Mae gennym amrywiaeth o fesurau gwahanol ar waith. Disgrifiais rai ohonynt wrth ateb y cwestiwn. Nid mater i'r gwasanaeth iechyd yn unig yw hwn. Mae'n ymwneud ag iechyd a chanlyniadau iechyd. Er enghraifft, nid yw'r filltir ddyddiol yn rhywbeth y mae'r gwasanaeth iechyd ei hun yn ei gyflawni'n uniongyrchol, ond mae'n gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion mewn perthynas â gwahanol fathau o weithgarwch. Ni fydd gan ysgolion eraill y filltir ddyddiol, ond bydd ganddynt fath gwahanol o weithgarwch corfforol rheolaidd o fewn yr ysgol.
Rydych yn llygad eich lle ynglŷn â'r patrwm bywyd a osodir yn ein blynyddoedd cynharaf, o ran dysgu a'r esiampl a roddir cyn mynd i'r ysgol, yn ogystal, yn benodol, â'r gwersi ar gyfer bywyd a'r patrymau ar gyfer bywyd a osodir ar ddiwedd addysg gynradd. Felly, bydd ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach' yn edrych eto ar sylfaen dystiolaeth. Rydym wedi edrych, er enghraifft, ar yr Iseldiroedd, lle cafwyd arweinyddiaeth a lle gwelwyd newid mewn rhai cyd-destunau, i weld sut y gallwn roi hynny ar waith yn llwyddiannus yma.
Mewn gwirionedd, mae'r gwaith a welais yn ysgol Bishop Childs—daethant i lansiad ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'—yn dangos bod modd gwneud rhywbeth, ond yr her yw pa mor gyson y gallwn wneud hynny, ac nid yn Hywel Dda yn unig ond ledled y wlad. Efallai mai gan Hywel Dda y mae'r gyfradd uchaf ond un o blant gordew, ond mewn termau ystadegol, nid oes gwahaniaeth sylweddol. Gallwch weld y gwahaniaeth yn statws economaidd-gymdeithasol lle mae ein plant yn byw, ac mae honno'n her fawr i ni ym mhob rhan o'r wlad.