Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 13 Mawrth 2019.
Gweinidog, fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol i ddweud wrth rywun bregus, oedrannus, ffaeledig a thlawd, ond eto rhywun sydd ddim yn cyrraedd y trothwy uchel i dderbyn gofal cyhoeddus wedi asesiad—fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol i ddweud wrth rywun felly, 'Jest talwch am eich gofal yn breifat, neu ewch heb ddim'?