Teithio Llesol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 13 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:19, 13 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Cabinet wedi trafod ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, i gytuno ar wyth maes blaenoriaeth ar weithgarwch corfforol. Ers hynny, rwyf wedi sefydlu bwrdd gweithredu trawslywodraethol; mynychwyd y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gennyf fi a fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas. Mae amryw o raglenni, megis y filltir ddyddiol, y Gronfa Iach ac Egnïol a theithio llesol i'r ysgol, sy'n ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau.