2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 13 Mawrth 2019.
4. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweinidogion eraill y Llywodraeth ynghylch rôl teithio llesol o ran hybu iechyd a lles ar gyfer plant a phobl ifanc? OAQ53559
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Cabinet wedi trafod ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach', sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, i gytuno ar wyth maes blaenoriaeth ar weithgarwch corfforol. Ers hynny, rwyf wedi sefydlu bwrdd gweithredu trawslywodraethol; mynychwyd y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd gennyf fi a fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas. Mae amryw o raglenni, megis y filltir ddyddiol, y Gronfa Iach ac Egnïol a theithio llesol i'r ysgol, sy'n ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau.
Wel, diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n falch eich bod eisoes—. Rydych wedi achub y blaen ar fy nghwestiwn, oherwydd mae rhan o ddarpariaeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013—a gyflwynwyd gydag uchelgeisiau clodwiw gan fy nghyd-Aelod yma, John Griffiths, cyn fy amser i—yn nodi y byddai Cymru yn datblygu i fod yn wlad lle mae pobl yn cerdded ac yn beicio fel y dewis mwyaf naturiol, am mai dyna'r ffordd naturiol o deithio o gwmpas. Ond cawsom ddadl yr wythnos diwethaf lle roeddem yn dangos y pellter rhwng y nod clodwiw hwnnw a'r realiti ar lawr gwlad mewn gwirionedd, ac mae llawer o hyn yn ymwneud â gweithio trawslywodraethol. Felly, a all y Gweinidog gofnodi ei ymrwymiad y bydd yn parhau i weithio gyda Gweinidogion eraill y Llywodraeth, gan gynnwys y Gweinidog Addysg, i sicrhau bod teithio llesol i ac o ysgolion yn dod yn rhan allweddol o raglen ysgolion iach Iechyd Cyhoeddus Cymru? Ni fydd hyn yn bwyta i mewn i amser ysgolion, nac unrhyw ddarpariaeth cwricwlwm, a gellir ei wneud yn rhad ac yn dda, fel y gwelsom yn ddiweddar yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol, a gyflwynwyd yng Nghaerdydd ei hun. Felly, a wnaiff ymrwymo i weithio'n drawslywodraethol gyda'r Gweinidog Addysg er mwyn ei ymgorffori'n llawn o fewn y rhaglen ysgolion iach?
Gwnaf, rwy'n fwy na hapus i barhau â'r gwaith y mae Dafydd Elis-Thomas a minnau wedi'i ddechrau gydag amryw o Weinidogion sydd â diddordeb. Ac wrth gwrs, mae gan y Gweinidog Addysg rôl a chylch gwaith penodol mewn perthynas â'r hyn sy'n digwydd o fewn yr ysgol. Mae yna her mewn perthynas â'r hyn sy'n cael ei gynnwys yn y cwricwlwm, yn ogystal â'r diwylliant ehangach o fewn yr ysgol, ond—yn amlwg, gyda'n cyd-Aelod, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn arbennig—i ddeall sut y mae plant yn teithio i ac o'r ysgol yn ogystal. Nawr, nid yw'n ymwneud â theithio i ac o'r ysgol yn unig, mae hefyd yn ymwneud â'n gwaith, er enghraifft, ar ein hymateb i ymgyrch 20's Plenty for Us yn ogystal—y dystiolaeth sy'n bodoli ynglŷn ag a yw terfynau cyflymder yn gwneud gwahaniaeth i barodrwydd pobl i deithio i'r ysgol ac i ymgymryd â ffyrdd eraill o deithio i ac o'r ysgol, a'u gweithle a theithio o gwmpas yn gymdeithasol yn ogystal. Felly, mae gennyf ddiddordeb mewn amrywiaeth eang o weithgareddau i sbarduno newidiadau sylfaenol yn y ffordd rydym yn symud a'r canlyniadau iechyd yma yng Nghymru hefyd mewn gwirionedd.
Weinidog, mae'n galonogol clywed sut rydych yn siarad â'ch cyd-Aelodau, oherwydd ymddengys i mi fod hwn yn faes sy'n berthnasol i fethodoleg Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd, yn amlwg, gallwch wella iechyd. Os ydym yn gwneud hynny, y peth allweddol arall yw ein bod yn gwella'r amgylchedd, oherwydd mae hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno yn rhywbeth a ddechreuodd fynd yn arfer go iawn yn y 1990au mewn gwirionedd. Wrth gwrs, nid oes gan rai ohonom o'r genhedlaeth hŷn unrhyw syniad am y peth. Mae faint o draffig sy'n deillio o'r ffaith bod rhieni'n hebrwng plant a phobl ifanc i'r ysgol ac oddi yno yn fy rhyfeddu o hyd. Sylwais ar brotest ragorol y tu allan i'r Senedd—yn anffodus, nid ar ddiwrnod pan oeddem yn cyfarfod—gan bobl ifanc a oedd yn galw am fwy o weithredu. Un peth y gallant alw amdano yw diwedd ar hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno. Credaf fod hwnnw'n un peth go iawn a fyddai'n helpu i wella'r sefyllfa. A dyna'r math o her rydym ei hangen yn fawr yn y system yn awr.
Rwy'n cydnabod yn llwyr y pwynt rydych yn ei wneud ac ym myd gwleidyddiaeth, rwy'n ifanc—yn y byd go iawn rwy'n ddyn canol oed—ac felly rwy'n cofio mynd i'r ysgol a'r ffordd arferol oedd mai cerdded fyddai pobl, a byddech yn mynd ar y bws i'r ysgol os oedd eich ysgol yn bellach i ffwrdd. Ychydig iawn o geir a oedd o amgylch yr ysgol gynradd a fynychwn, ac eto, mae nifer sylweddol o deithiau byr i ac o'r ysgol yn y rhan fwyaf o fy etholaeth ac yn y rhan fwyaf o etholaethau eraill. Fel arfer rwy'n cerdded, ac weithiau'n cario fy mab i'r ysgol yn y pen draw, ond nid yw'n arferol i ni deithio i'r ysgol yn y car. Mae yna her ynglŷn â'r ffordd rydym yn ailnormaleiddio ymddygiad, ac unwaith eto, yr her ynglŷn â pheidio â bod eisiau beirniadu pobl, oherwydd mewn gwirionedd, nid yw hynny'n eu helpu i gymryd rhan, ond yn hytrach sut y gallwn ei gwneud yn haws i bobl wneud y daith honno'n un arferol heb gymorth car.
Roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn ymchwiliad diweddar y pwyllgor iechyd i gynyddu gweithgarwch corfforol ymysg pobl ifanc, ac rwy'n edrych ymlaen at edrych yn fwy manwl ar yr adroddiad y bûm yn galw am ei gael. Ond un o'r pethau allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad hwnnw oedd yr angen i hybu teithio llesol ymysg plant. Ac rwy'n falch hefyd eich bod yn siarad â chyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud, ond wrth gwrs, mae'r hyn rydych yn sôn amdano'n hollbwysig yma. Mae angen i ni sicrhau cydweithrediad, yn ogystal â chyd-gyllidebu, rwy'n credu, rhwng adrannau'r Llywodraeth. A allwch ein sicrhau eich bod yn symud oddi wrth yr hyn y gellid ei alw'n weithio mewn seilos, er mwyn dod o hyd i ffyrdd o gyd-ariannu cynlluniau sydd â manteision ar draws adrannau?
Wel, mae pob adran angen meddwl, nid yn unig am ei blaenoriaethau unigol ei hun, ond blaenoriaethau'r Llywodraeth mewn gwirionedd, ac mewn nifer o'r meysydd—un enghraifft yn unig yw hon—mae'r hyn sy'n flaenoriaeth Llywodraeth gyda Gweinidog arweiniol yn galw am gydweithrediad nifer o bobl eraill i'w gwireddu. Dyna'n union rydym yn ceisio'i wneud. Wrth gwrs, byddaf yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn briodol ac yn llawn maes o law, ac fe gawn weld a fydd y lle hwn yn neilltuo amser ar gyfer dadl yn y Siambr hefyd.