Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 13 Mawrth 2019.
Oherwydd hynny, mae Plaid Cymru'n credu'n gryf ei bod hi'n hanfodol bod Cymru yn parhau gyda chynllun Erasmus+, beth bynnag sydd yn digwydd yn y dyfodol o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Pan roddodd yr Athro Claire Gorrara o Brifysgol Caerdydd dystiolaeth i'r pwyllgor ar y pwnc hwn, cyn imi ymuno, dywedodd hi ei bod hi'n disgrifio'r cynllun hwn fel un sy'n gwbl greiddiol i les ieithyddol a rhyngddiwylliannol Cymru.
Fe ddisgrifiodd hefyd yr hyn roedd hi'n ei gyfeirio ato fel 'linguaphobia', gan awgrymu bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r hinsawdd mae Brexit wedi'i greu. Disgrifiodd y canfyddiad nad yw pobl sydd ddim yn siarad Saesneg, ond sydd yn siarad ieithoedd eraill, yn rhan lawn o'r gymuned. Ac yn sicr rydym yn gweld tystiolaeth anecdotaidd fod pobl yn cael eu sarhau am siarad ieithoedd eraill ar y stryd, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus a mannau eraill. Fy ngofid i yw y bydd y duedd hon yn parhau.
Fe wnaeth yr Athro Gorrara hefyd dynnu sylw at ymchwil gafodd ei gynnal gan y Cyngor Prydeinig, y British Council, wnaeth ddarganfod fod traean o'r ysgolion wnaeth ymateb yn credu bod Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau rhieni a disgyblion tuag at ieithoedd tramor modern.